JOHN
Chapter 14
John | WelBeibl | 14:1 | “Peidiwch cynhyrfu,” meddai Iesu wrth y disgyblion, “Credwch yn Nuw, a chredwch ynof fi hefyd. | |
John | WelBeibl | 14:2 | Mae digon o le i fyw yn nhŷ fy Nhad; byddwn i wedi dweud wrthoch chi os oedd hi fel arall. Dw i'n mynd yno i baratoi lle ar eich cyfer chi. | |
John | WelBeibl | 14:3 | Wedyn dw i'n mynd i ddod yn ôl, a bydda i'n mynd â chi yno gyda mi, a chewch aros yno gyda mi. | |
John | WelBeibl | 14:5 | “Ond Arglwydd,” meddai Tomos, “dŷn ni ddim yn gwybod lle rwyt ti'n mynd, felly sut allwn ni wybod y ffordd yno?” | |
John | WelBeibl | 14:6 | “Fi ydy'r ffordd,” atebodd Iesu, “yr un gwir a'r bywyd. Does neb yn gallu dod i berthynas gyda Duw y Tad ond trwof fi. | |
John | WelBeibl | 14:7 | Os dych chi wedi dod i fy nabod i, byddwch yn nabod fy Nhad hefyd. Yn wir, dych chi yn ei nabod e bellach, ac wedi'i weld.” | |
John | WelBeibl | 14:9 | Atebodd Iesu: “Dw i wedi bod gyda chi i gyd ers cymaint o amser! Wyt ti'n dal ddim yn fy nabod i, Philip? Mae pwy bynnag sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad. Felly sut alli di ddweud, ‘Dangos y Tad i ni’? | |
John | WelBeibl | 14:10 | Wyt ti ddim yn credu fy mod i yn y Tad, a bod y Tad ynof fi? Dw i ddim yn dweud pethau ar fy liwt fy hun. Y Tad, sy'n byw ynof fi, sydd ar waith. | |
John | WelBeibl | 14:11 | Credwch beth dw i'n ddweud – dw i yn y Tad ac mae'r Tad ynof fi. Os ydy fy ngeiriau i ddim yn ddigon, dylech chi o leia gredu o achos y pethau dw i'n eu gwneud. | |
John | WelBeibl | 14:12 | Credwch chi fi, bydd pwy bynnag sy'n credu ynof fi yn gwneud yr un pethau ag ydw i wedi bod yn eu gwneud. Yn wir, byddan nhw'n gwneud llawer iawn mwy, am fy mod i yn mynd at y Tad. | |
John | WelBeibl | 14:13 | Bydda i'n gwneud beth bynnag ofynnwch chi am awdurdod i'w wneud, fel bod y Mab yn anrhydeddu'r Tad. | |
John | WelBeibl | 14:16 | Bydda i'n gofyn i'r Tad, a bydd e'n rhoi un arall fydd yn sefyll gyda chi ac yn aros gyda chi am byth – | |
John | WelBeibl | 14:17 | sef yr Ysbryd sy'n dangos y gwir i chi. Dydy'r byd ddim yn gallu ei dderbyn am fod y byd ddim yn ei weld nac yn ei nabod. Ond dych chi yn ei nabod am ei fod yn sefyll gyda chi ac am ei fod yn mynd i fod ynoch chi. | |
John | WelBeibl | 14:18 | Wna i ddim eich gadael chi ar eich pennau eich hunain – dw i'n mynd i ddod yn ôl atoch chi. | |
John | WelBeibl | 14:19 | Cyn hir, fydd y byd ddim yn fy ngweld i eto, ond byddwch chi'n fy ngweld i. Am fy mod i'n mynd i fyw eto, bydd gynnoch chithau fywyd. | |
John | WelBeibl | 14:20 | Byddwch yn sylweddoli y diwrnod hwnnw fy mod i yn y Tad. A byddwch chi ynof fi a minnau ynoch chi. | |
John | WelBeibl | 14:21 | Y rhai sy'n derbyn beth dw i'n ddweud ac yn gwneud hynny ydy'r rhai sy'n fy ngharu i. Bydd y Tad yn caru y rhai sy'n fy ngharu i, a bydda i yn eu caru nhw hefyd, ac yn egluro fy hun iddyn nhw.” | |
John | WelBeibl | 14:22 | “Ond, Arglwydd,” meddai Jwdas (dim Jwdas Iscariot), “Sut dy fod di am ddangos dy hun i ni ond ddim i'r byd?” | |
John | WelBeibl | 14:23 | Atebodd Iesu, “Bydd y rhai sy'n fy ngharu i yn gwneud beth dw i'n ddweud wrthyn nhw. Bydd fy Nhad yn eu caru nhw, a byddwn ni'n dod atyn nhw i fyw gyda nhw. | |
John | WelBeibl | 14:24 | Fydd pwy bynnag sydd ddim yn fy ngharu ddim yn gwneud beth dw i'n ddweud. A dim fy neges i fy hun dw i'n ei rhannu, ond neges gan y Tad sydd wedi fy anfon i. | |
John | WelBeibl | 14:26 | Ond mae un fydd yn sefyll gyda chi, sef yr Ysbryd Glân mae'r Tad yn mynd i'w anfon ar fy rhan. Bydd e'n dysgu popeth i chi ac yn eich atgoffa o bopeth dw i wedi'i ddweud. | |
John | WelBeibl | 14:27 | Heddwch – dyna dw i'n ei roi yn rhodd i chi; yr heddwch go iawn sydd gen i, a neb arall, i'w roi. Dw i ddim yn rhoi heddwch yn yr un ffordd a'r byd. Peidiwch cynhyrfu, a pheidiwch bod yn llwfr. | |
John | WelBeibl | 14:28 | “Dych chi wedi nghlywed i'n dweud, ‘Dw i'n mynd i ffwrdd, a dw i'n mynd i ddod yn ôl atoch chi.’ Petaech chi wir yn fy ngharu i, byddech yn falch fy mod i'n mynd at y Tad, achos mae'r Tad yn fwy na fi. | |
John | WelBeibl | 14:29 | Dw i wedi dweud nawr, cyn i'r peth ddigwydd, er mwyn i chi gredu pan fydd yn digwydd. | |
John | WelBeibl | 14:30 | Does gen i ddim llawer mwy o amser i siarad â chi, am fod Satan, tywysog y byd hwn, ar ei ffordd. Ond does ganddo ddim awdurdod drosof fi. | |