JOSHUA
Chapter 10
Josh | WelBeibl | 10:1 | Clywodd Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, fod Josua wedi concro Ai a lladd y brenin a phawb arall yno, fel roedd e wedi gwneud i Jericho. Clywodd hefyd fod pobl Gibeon wedi gwneud cytundeb heddwch gydag Israel, a'u bod nhw'n byw gyda nhw. | |
Josh | WelBeibl | 10:2 | Roedd e a'i bobl yn ofni am eu bywydau, achos roedd Gibeon yn dref fawr – roedd hi'n fwy na'r trefi brenhinol eraill i gyd, ac yn fwy nag Ai, a'i dynion i gyd yn ymladdwyr dewr. | |
Josh | WelBeibl | 10:3 | Felly dyma Adoni-sedec, brenin Jerwsalem, yn anfon neges at frenhinoedd eraill yr ardal (y brenin Hoham yn Hebron, y Brenin Piram yn Iarmwth, y Brenin Jaffîa yn Lachish, a'r brenin Debir yn Eglon): | |
Josh | WelBeibl | 10:4 | “Dewch gyda mi i ymosod ar Gibeon. Maen nhw wedi gwneud cytundeb heddwch gyda Josua a phobl Israel.” | |
Josh | WelBeibl | 10:5 | Felly dyma bum brenin yr Amoriaid (brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon) yn dod â'u byddinoedd at ei gilydd, ac yn amgylchynu Gibeon yn barod i ymosod arni. | |
Josh | WelBeibl | 10:6 | Anfonodd pobl Gibeon neges at Josua yn y gwersyll yn Gilgal: “Paid troi cefn arnon ni, dy weision! Achub ni! Helpa ni! Mae brenhinoedd yr Amoriaid, sy'n byw yn y bryniau, wedi ymuno â'i gilydd i ymosod arnon ni.” | |
Josh | WelBeibl | 10:7 | Felly dyma Josua a'i fyddin gyfan, gan gynnwys ei ddynion gorau, yn gadael y gwersyll yn Gilgal i fynd i'w helpu nhw. | |
Josh | WelBeibl | 10:8 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn. Dw i'n mynd i roi buddugoliaeth i ti. Fydd neb yn gallu dy rwystro di.” | |
Josh | WelBeibl | 10:9 | Ar ôl martsio drwy'r nos o Gilgal, dyma Josua'n ymosod arnyn nhw'n gwbl ddirybudd. | |
Josh | WelBeibl | 10:10 | Gwnaeth yr ARGLWYDD iddyn nhw banicio, a chawson nhw eu trechu'n llwyr gan Israel yn Gibeon. Aeth byddin Israel ar eu holau i lawr drwy fwlch Beth-choron, a lladd nifer fawr yr holl ffordd i Aseca a Macceda. | |
Josh | WelBeibl | 10:11 | Wrth iddyn nhw ddianc oddi wrth fyddin Israel i lawr Bwlch Beth-choron i Aseca, dyma'r ARGLWYDD yn gwneud iddi fwrw cenllysg anferth arnyn nhw. Cafodd mwy eu lladd gan y cenllysg nag oedd wedi'u lladd gan fyddin Israel yn y frwydr! | |
Josh | WelBeibl | 10:12 | Ar y diwrnod y gwnaeth yr ARGLWYDD i Israel orchfygu'r Amoriaid, roedd Josua wedi gweddïo o flaen pobl Israel i gyd: “Haul, stopia yn yr awyr uwchben Gibeon. Ti leuad, saf yn llonydd uwch Dyffryn Aialon.” | |
Josh | WelBeibl | 10:13 | Felly dyma'r haul yn sefyll a'r lleuad yn aros yn ei unfan nes i Israel ddial ar eu gelynion. (Mae'r gerdd yma i'w chael yn Sgrôl Iashar.) Roedd yr haul wedi sefyll yn ei unfan drwy'r dydd, heb fachlud. | |
Josh | WelBeibl | 10:14 | Does dim diwrnod tebyg erioed wedi bod, cyn hynny na wedyn! Diwrnod pan wnaeth yr ARGLWYDD wrando ar orchymyn dyn. Oedd, roedd yr ARGLWYDD yn ymladd dros bobl Israel! | |
Josh | WelBeibl | 10:18 | dyma fe'n gorchymyn, “Rholiwch gerrig mawr i gau ceg yr ogof, a gosod dynion i'w gwarchod. | |
Josh | WelBeibl | 10:19 | Wedyn peidiwch oedi – ewch ar ôl y gelynion. Peidiwch gadael iddyn nhw ddianc yn ôl i'w trefi. Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn mynd i roi buddugoliaeth i chi.” | |
Josh | WelBeibl | 10:20 | Roedd Josua a byddin Israel wedi'u lladd nhw i gyd bron, er fod rhai wedi llwyddo i ddianc i'r caerau amddiffynnol. | |
Josh | WelBeibl | 10:21 | Yna aeth byddin Israel i gyd yn ôl at Josua i'r gwersyll yn Macceda. Doedd neb yn mentro dweud dim byd yn erbyn pobl Israel ar ôl hyn. | |
Josh | WelBeibl | 10:22 | A dyma Josua yn gorchymyn, “Agorwch geg yr ogof, a dod â'r pum brenin allan ata i.” | |
Josh | WelBeibl | 10:23 | A dyma nhw'n gwneud hynny, a dod â'r pum brenin allan o'r ogof – brenhinoedd Jerwsalem, Hebron, Iarmwth, Lachish, ac Eglon. | |
Josh | WelBeibl | 10:24 | Dyma Josua yn galw pobl Israel ato, a dweud wrth gapteiniaid y fyddin, “Dewch yma, a gosod eich traed ar yddfau y brenhinoedd yma.” A dyna wnaethon nhw. | |
Josh | WelBeibl | 10:25 | Yna meddai Josua, “Peidiwch bod ag ofn a phanicio! Byddwch yn gryf a dewr! Bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr un fath i'ch gelynion chi i gyd.” | |
Josh | WelBeibl | 10:26 | A dyma Josua yn dienyddio'r brenhinoedd, ac yn hongian eu cyrff ar bum coeden. Cawson nhw eu gadael yno yn hongian nes iddi nosi. | |
Josh | WelBeibl | 10:27 | Wedi i'r haul fachlud, dyma Josua'n gorchymyn i'r cyrff gael eu cymryd i lawr. Dyma nhw'n taflu'r cyrff i'r ogof lle roedden nhw wedi bod yn cuddio, a rhoi cerrig mawr dros geg yr ogof – maen nhw'n dal yna hyd heddiw. | |
Josh | WelBeibl | 10:28 | Y diwrnod hwnnw hefyd, dyma Josua yn concro tref Macceda, a lladd y bobl i gyd a'u brenin. Cafodd pawb eu lladd – gafodd neb ei adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho. | |
Josh | WelBeibl | 10:29 | Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau i Libna, i ymosod ar y dref honno. | |
Josh | WelBeibl | 10:30 | Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref a'i byddin yn nwylo Josua. Cafodd pawb oedd yn byw yno eu lladd. Doedd neb wedi'i adael yn fyw. Cafodd y brenin ei ladd fel brenin Jericho. | |
Josh | WelBeibl | 10:31 | Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau eto i ymosod ar Lachish. | |
Josh | WelBeibl | 10:32 | Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r dref honno yn nwylo Israel. Llwyddon nhw i'w choncro ar yr ail ddiwrnod; a dyma nhw'n lladd pawb oedd yn byw yno hefyd, fel roedden nhw wedi gwneud i Libna. | |
Josh | WelBeibl | 10:33 | Daeth y Brenin Horam o Geser gyda'i fyddin i geisio helpu Lachish, a dyma Josua yn ymosod arno fe a'i fyddin hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw. | |
Josh | WelBeibl | 10:34 | Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Lachish i ymosod ar Eglon. | |
Josh | WelBeibl | 10:35 | Dyma nhw'n concro'r dref y diwrnod hwnnw, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Lachish. | |
Josh | WelBeibl | 10:36 | Yna dyma Josua a byddin Israel yn martsio yn eu blaenau o Eglon i ymosod ar Hebron. | |
Josh | WelBeibl | 10:37 | Dyma nhw'n concro'r dref, lladd ei brenin a phawb oedd yn byw yno, a phawb yn y pentrefi o'i chwmpas hefyd. Gafodd neb ei adael yn fyw. Cafodd pob enaid byw ei ladd, fel yn Eglon. | |
Josh | WelBeibl | 10:39 | Dyma nhw'n ei choncro hi a'i brenin a'r pentrefi o'i chwmpas, a lladd pawb oedd yn byw yno. Cafodd pob enaid byw ei ladd. Doedd neb ar ôl. Cafodd Debir ei dinistrio'n llwyr, a'i brenin ei ladd, fel digwyddodd i Libna a'i brenin, ac i Hebron. | |
Josh | WelBeibl | 10:40 | Felly roedd Josua wedi concro'r ardal gyfan – y bryniau, y Negef i'r de, yr iseldir a'r llethrau i'r gorllewin, a'u brenhinoedd i gyd. Doedd neb ar ôl. Cafodd pob enaid byw ei ladd, yn union fel roedd yr ARGLWYDD, Duw Israel, wedi gorchymyn. | |
Josh | WelBeibl | 10:42 | Llwyddodd Josua i ddal y brenhinoedd yma a'u tiroedd mewn un ymgyrch, am fod yr ARGLWYDD, Duw Israel, yn ymladd drostyn nhw. | |