NUMBERS
Chapter 25
Numb | WelBeibl | 25:1 | Pan oedd pobl Israel yn aros yn Sittim, dyma'r dynion yn dechrau cael rhyw gyda merched Moab. | |
Numb | WelBeibl | 25:2 | Roedd y merched wedi'u gwahodd nhw i wyliau crefyddol eu duwiau. A dyma nhw'n gwledda gyda nhw a dechrau addoli eu duwiau. | |
Numb | WelBeibl | 25:3 | Cyn pen dim, roedd Israel wedi uno gyda Baal-peor. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda phobl Israel, | |
Numb | WelBeibl | 25:4 | a dyma fe'n dweud wrth Moses, “Rhaid i ti arestio'r rhai sydd wedi arwain y drwg yma, a'u lladd nhw o flaen yr ARGLWYDD ganol dydd, er mwyn i'r ARGLWYDD beidio bod mor wyllt gydag Israel.” | |
Numb | WelBeibl | 25:5 | Felly dyma Moses yn dweud wrth arweinwyr llwythau Israel, “Rhaid i chi ddienyddio'r dynion yn eich llwyth chi sydd wedi ymuno i addoli Baal-peor.” | |
Numb | WelBeibl | 25:6 | Wrth iddo ddweud hyn, a phobl Israel yn wylo a galaru o flaen y fynedfa i babell presenoldeb Duw, dyma un o ddynion Israel yn dod ag un o ferched y Midianiaid i'r gwersyll. Gwelodd Moses a phawb y peth yn digwydd. | |
Numb | WelBeibl | 25:7 | A dyma Phineas (mab Eleasar yr offeiriad, ac ŵyr Aaron) yn codi a gafael mewn gwaywffon, | |
Numb | WelBeibl | 25:8 | a mynd ar ôl y dyn i'r babell. A dyma fe'n gwthio'r waywffon drwy'r ddau ohonyn nhw – drwy'r dyn ac i mewn i stumog y ferch. A dyma'r pla oedd yn lledu drwy ganol pobl Israel yn stopio. | |
Numb | WelBeibl | 25:11 | “Mae Phineas, mab Eleasar ac ŵyr Aaron yr offeiriad, wedi tawelu fy llid yn erbyn Israel. Dangosodd y fath sêl drosto i, wnes i ddim bwrw ymlaen i ddinistrio pobl Israel i gyd. | |
Numb | WelBeibl | 25:13 | ymrwymiad mai fe a'i ddisgynyddion fydd yn offeiriaid am byth. Am ei fod wedi dangos y fath sêl dros ei Dduw, ac wedi gwneud pethau'n iawn rhwng Duw a phobl Israel.” | |
Numb | WelBeibl | 25:14 | Enw'r dyn gafodd ei ladd ganddo – y dyn gafodd ei drywanu gyda'r ferch o Midian – oedd Simri fab Salw, pennaeth teulu o lwyth Simeon. | |