NUMBERS
Chapter 9
Numb | WelBeibl | 9:1 | Dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses yn anialwch Sinai, flwyddyn ar ôl iddyn nhw ddod allan o wlad yr Aifft: | |
Numb | WelBeibl | 9:3 | sef pan mae hi'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis yma. Rhaid cadw'n fanwl at holl reolau a threfn yr Ŵyl.” | |
Numb | WelBeibl | 9:5 | A dyma'r bobl yn gwneud hynny yn anialwch Sinai, ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf, pan oedd hi'n dechrau nosi. Dyma nhw'n gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. | |
Numb | WelBeibl | 9:6 | Ond roedd rhai o'r bobl yn aflan am eu bod nhw wedi cyffwrdd corff rhywun oedd wedi marw, ac felly doedden nhw ddim yn gallu dathlu'r Pasg y diwrnod hwnnw. Felly dyma nhw'n mynd at Moses ac Aaron | |
Numb | WelBeibl | 9:7 | a dweud, “Dŷn ni'n aflan am ein bod ni wedi cyffwrdd corff rhywun oedd wedi marw. Ond pam ddylen ni gael ein rhwystro rhag cyflwyno offrwm i'r ARGLWYDD gyda phawb arall o bobl Israel?” | |
Numb | WelBeibl | 9:8 | A dyma Moses yn dweud wrthyn nhw, “Arhoswch yma, a gwna i fynd i wrando beth sydd gan yr ARGLWYDD i'w ddweud am y peth.” | |
Numb | WelBeibl | 9:10 | “Dwed wrth bobl Israel, ‘Os oes rhywun, heddiw neu yn y dyfodol, yn aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw; neu'n methu bod yn y dathliadau am ei fod wedi mynd ar daith bell, bydd yn dal yn gallu dathlu'r Pasg i'r ARGLWYDD. | |
Numb | WelBeibl | 9:11 | Bydd yn gwneud hynny fis yn ddiweddarach, pan mae'n dechrau nosi ar y pedwerydd ar ddeg o'r ail fis. Rhaid iddo fwyta'r oen gyda bara heb furum ynddo a llysiau chwerw. | |
Numb | WelBeibl | 9:12 | Does dim ohono i'w adael tan y bore, a does dim o'i esgyrn i gael eu torri. Rhaid iddyn nhw gadw holl reolau'r Ŵyl. | |
Numb | WelBeibl | 9:13 | Ond os oes rhywun, sydd ddim yn aflan nac i ffwrdd ar daith, yn peidio dathlu'r Pasg, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o blith pobl Dduw. Rhaid iddo wynebu canlyniadau ei bechod, am beidio dod ag offrwm i'r ARGLWYDD ar yr amser iawn. | |
Numb | WelBeibl | 9:14 | Os ydy'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi eisiau dathlu'r Pasg i'r ARGLWYDD, rhaid iddyn nhw gadw'r un rheolau a'r un drefn. Mae'r un rheolau yn berthnasol i frodorion a mewnfudwyr.’” | |
Numb | WelBeibl | 9:15 | Y diwrnod pan gafodd y Tabernacl ei godi, dyma gwmwl yn ei orchuddio – sef pabell y dystiolaeth. Yna, gyda'r nos tan y bore wedyn, roedd yn edrych fel petai tân uwchben y Tabernacl. | |
Numb | WelBeibl | 9:16 | A dyna sut oedd pethau drwy'r adeg. Roedd y cwmwl oedd yn ei orchuddio drwy'r dydd yn troi i edrych fel tân yn y nos. | |
Numb | WelBeibl | 9:17 | Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y babell, roedd pobl Israel yn cychwyn ar eu taith. Yna, ble bynnag roedd y cwmwl yn setlo, byddai pobl Israel yn codi eu gwersyll. | |
Numb | WelBeibl | 9:18 | Felly, yr ARGLWYDD oedd yn dangos i bobl Israel pryd i symud a ble i stopio. Bydden nhw'n dal i wersylla yn yr un fan tra byddai'r cwmwl yn aros dros y Tabernacl. | |
Numb | WelBeibl | 9:19 | Weithiau roedd y cwmwl yn aros dros y Tabernacl am amser hir, a fyddai pobl Israel ddim yn symud y gwersyll nes roedd yr ARGLWYDD yn dweud. | |
Numb | WelBeibl | 9:20 | Dro arall, doedd y cwmwl ddim ond yn aros dros y Tabernacl am ychydig ddyddiau. Felly roedd y bobl yn gwersylla am y dyddiau hynny, ac yna'n symud ymlaen pan oedd yr ARGLWYDD yn dweud. | |
Numb | WelBeibl | 9:21 | Ac weithiau doedd y cwmwl ddim ond yn aros dros nos. Pan oedd y cwmwl yn codi y bore wedyn, roedden nhw'n symud ymlaen. Pryd bynnag roedd y cwmwl yn codi, yn y dydd neu yn y nos, roedden nhw'n symud yn eu blaenau. | |
Numb | WelBeibl | 9:22 | Roedd pobl Israel yn aros yn y gwersyll am faint bynnag roedd y cwmwl yn aros dros y Tabernacl – a gallai hynny fod yn ddeuddydd, yn fis, neu'n flwyddyn. Ond pan oedd y cwmwl yn codi, roedden nhw'n teithio yn eu blaenau. | |