Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EXODUS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 16
Exod WelBeibl 16:1  Yna aeth pobl Israel ymlaen o Elim a chyrraedd Anialwch Sin, sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed diwrnod o'r ail fis ers iddyn nhw adael gwlad yr Aifft.
Exod WelBeibl 16:2  Pan oedden nhw yn yr anialwch, dyma nhw i gyd yn dechrau ymosod ar Moses ac Aaron unwaith eto.
Exod WelBeibl 16:3  “Byddai'n well petai'r ARGLWYDD wedi gadael i ni farw yn yr Aifft! O leia roedd gynnon ni ddigon o gig a bwyd i'w fwyta yno. Ond rwyt ti wedi dod â ni i gyd allan i'r anialwch yma i lwgu i farwolaeth!”
Exod WelBeibl 16:4  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dw i'n mynd i wneud i fara ddisgyn o'r awyr fel glaw arnoch chi. Bydd rhaid i'r bobl fynd allan i gasglu yr hyn sydd ei angen arnyn nhw bob dydd. Bydda i'n eu profi nhw i weld os gwnân nhw wrando ar beth dw i'n ddweud ai peidio.
Exod WelBeibl 16:5  Ar chweched diwrnod pob wythnos maen nhw i gasglu dwywaith cymaint ag roedden nhw wedi'i gasglu bob diwrnod arall.”
Exod WelBeibl 16:6  Felly dyma Moses ac Aaron yn dweud wrth bobl Israel, “Erbyn gyda'r nos heno, byddwch chi'n gwybod mai'r ARGLWYDD sydd wedi dod â chi allan o wlad yr Aifft.
Exod WelBeibl 16:7  A bore yfory byddwch chi'n gweld ysblander yr ARGLWYDD. Mae e wedi'ch clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Fe ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni.”
Exod WelBeibl 16:8  Ac meddai Moses, “Byddwch chi'n deall yn iawn pan fydd yr ARGLWYDD yn rhoi cig i chi ei fwyta gyda'r nos, a digonedd o fara yn y bore. Mae'r ARGLWYDD wedi'ch clywed chi'n ymosod arno. Dŷn ni'n neb. Yr ARGLWYDD ydy'r un dych chi wedi bod yn ymosod arno, nid ni!”
Exod WelBeibl 16:9  Yna dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Galw'r dyrfa o bobl Israel i gyd at ei gilydd. Dwed wrthyn nhw, ‘Dewch yma i sefyll o flaen yr ARGLWYDD. Mae e wedi'ch clywed chi'n ymosod arno.’”
Exod WelBeibl 16:10  Tra oedd Aaron yn annerch pobl Israel i gyd, dyma nhw'n edrych i gyfeiriad yr anialwch a gweld ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio o'r golofn niwl.
Exod WelBeibl 16:12  “Dw i wedi clywed fel mae pobl Israel yn ymosod arna i. Dwed wrthyn nhw, ‘Byddwch yn cael cig i'w fwyta gyda'r nos, ac yn y bore byddwch yn cael llond eich bol o fara. Byddwch yn deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw chi.’”
Exod WelBeibl 16:13  Gyda'r nos, dyma soflieir yn dod ac yn glanio yn y gwersyll – roedden nhw dros bobman! Yna yn y bore roedd haenen o wlith o gwmpas y gwersyll.
Exod WelBeibl 16:14  Pan oedd y gwlith wedi codi, roedd rhyw stwff tebyg i haen denau o farrug yn gorchuddio'r anialwch.
Exod WelBeibl 16:15  Pan welodd pobl Israel e, dyma nhw'n gofyn i'w gilydd, “Beth ydy e?” Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd e. Ac meddai Moses wrthyn nhw, “Dyma'r bara mae'r ARGLWYDD wedi'i roi i chi i'w fwyta.
Exod WelBeibl 16:16  A dyma beth mae'r ARGLWYDD wedi'i orchymyn: ‘Mae pawb i gasglu'r hyn sydd ei angen ar eu teulu nhw – tua dau chwart y person. Dylech gasglu digon i bawb sy'n aros yn eich pabell.’”
Exod WelBeibl 16:17  Felly dyma bobl Israel yn mynd allan i'w gasglu – rhai ohonyn nhw yn casglu mwy na'i gilydd.
Exod WelBeibl 16:18  Ond wrth iddyn nhw fesur faint oedd pawb wedi'i gasglu, doedd dim byd dros ben gan y rhai gasglodd lawer, a doedd y rhai gasglodd ychydig ddim yn brin. Roedd gan bawb faint oedd ei angen arnyn nhw.
Exod WelBeibl 16:19  Yna dyma Moses yn dweud, “Peidiwch cadw dim ohono dros nos.”
Exod WelBeibl 16:20  Ond wnaethon nhw ddim gwrando. Roedd rhai wedi ceisio cadw peth ohono dros nos, ac erbyn y bore wedyn roedd cynrhon ynddo ac roedd yn drewi. Roedd Moses wedi gwylltio gyda nhw.
Exod WelBeibl 16:21  Felly, roedd y bobl yn mynd allan bob bore, i gasglu faint roedden nhw ei angen. Ond wrth i'r haul gynhesu roedd yn toddi.
Exod WelBeibl 16:22  Ar y chweched diwrnod, roedden nhw'n casglu dwywaith cymaint, sef pedwar chwart y person. A dyma arweinwyr y bobl yn mynd i ofyn pam i Moses.
Exod WelBeibl 16:23  A dyma fe'n ateb, “Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD: ‘Rhaid i chi beidio gweithio yfory, mae'n Saboth wedi'i gysegru i'r ARGLWYDD. Beth bynnag dych chi am ei bobi neu ei ferwi, gwnewch hynny heddiw. Wedyn cadw beth bynnag sydd dros ben at yfory.’”
Exod WelBeibl 16:24  Felly dyma nhw'n cadw beth oedd dros ben tan y bore, fel roedd Moses wedi dweud. Wnaeth e ddim drewi, a doedd dim cynrhon ynddo.
Exod WelBeibl 16:25  Ac meddai Moses, “Dyna sydd i'w fwyta heddiw, gan fod y diwrnod yma yn Saboth i'r ARGLWYDD. Fydd dim ohono i'w gael allan ar lawr heddiw.
Exod WelBeibl 16:26  Gallwch ei gasglu am chwe diwrnod, ond fydd dim yna ar y seithfed, sef y Saboth.”
Exod WelBeibl 16:27  Ond er hynny, ar y seithfed diwrnod dyma rai pobl yn mynd allan i'w gasglu, ond doedd dim byd yno.
Exod WelBeibl 16:28  A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Am faint dych chi'n mynd i wrthod gwrando arna i a gwneud beth dw i'n ddweud?
Exod WelBeibl 16:29  Am fod yr ARGLWYDD wedi rhoi'r Saboth i chi, dyna pam mae e'n rhoi digon o fwyd i chi am ddau ddiwrnod ar y chweched dydd. Dylech chi i gyd eistedd i lawr, a pheidio mynd allan ar y seithfed diwrnod.”
Exod WelBeibl 16:30  Felly dyma'r bobl yn gorffwys ar y seithfed diwrnod.
Exod WelBeibl 16:31  Galwodd pobl Israel y stwff yn “manna”. Roedd yn edrych fel hadau coriander, yn wyn, ac yn blasu fel bisgedi wedi'u gwneud gyda mêl.
Exod WelBeibl 16:32  A dyma Moses yn rhoi'r gorchymyn yma gan yr ARGLWYDD iddyn nhw: “Mae dau chwart ohono i'w gadw am byth, er mwyn i bobl yn y dyfodol gael gweld y bwyd wnes i ei roi i chi yn yr anialwch, pan ddes i â chi allan o wlad yr Aifft.”
Exod WelBeibl 16:33  A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Cymer jar, a rhoi dau chwart llawn o'r manna ynddo, a'i osod o flaen yr ARGLWYDD, i'w gadw'n saff ar hyd y cenedlaethau.”
Exod WelBeibl 16:34  A dyna wnaeth Aaron, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses. Dyma fe'n ei osod o flaen Arch y Dystiolaeth, i'w gadw'n saff.
Exod WelBeibl 16:35  Bu pobl Israel yn bwyta'r manna am bedwar deg o flynyddoedd, nes iddyn nhw gyrraedd gwlad Canaan ble gwnaethon nhw setlo i lawr.
Exod WelBeibl 16:36  (Omer oedd y mesur o ddau chwart oedd yn cael ei ddefnyddio, sef un rhan o ddeg o effa.)