EXODUS
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
Chapter 34
Exod | WelBeibl | 34:1 | Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Cerfia ddwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Gwna i ysgrifennu arnyn nhw beth oedd ar y llechi wnest ti eu malu. | |
Exod | WelBeibl | 34:2 | Bydd barod i ddringo mynydd Sinai yn y bore, a sefyll yno ar ben y mynydd i'm cyfarfod i. | |
Exod | WelBeibl | 34:3 | Does neb arall i ddod gyda ti. Does neb arall i ddod yn agos i'r mynydd. Paid hyd yn oed gadael i'r defaid a'r geifr a'r gwartheg bori o flaen y mynydd.” | |
Exod | WelBeibl | 34:4 | Felly dyma Moses yn cerfio dwy lechen garreg fel y rhai cyntaf. Yna'n gynnar y bore wedyn aeth i fyny i ben Mynydd Sinai, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Aeth â'r ddwy lechen gydag e. | |
Exod | WelBeibl | 34:5 | A dyma'r ARGLWYDD yn dod i lawr yn y cwmwl, yn sefyll yna gydag e, a chyhoeddi mai ei enw ydy yr ARGLWYDD. | |
Exod | WelBeibl | 34:6 | Dyma'r ARGLWYDD yn pasio heibio o'i flaen a chyhoeddi, “Yr ARGLWYDD! Yr ARGLWYDD! Mae'n Dduw caredig a thrugarog; mae mor amyneddgar, a'i haelioni a'i ffyddlondeb yn anhygoel! | |
Exod | WelBeibl | 34:7 | Mae'n dangos cariad di-droi'n-ôl am fil o genedlaethau, ac yn maddau beiau, gwrthryfel a phechod. Ond dydy e ddim yn gadael i'r euog fynd heb ei gosbi. Bydd yn ymateb i bechodau'r tadau sy'n gadael eu hôl ar eu plant a'u plant hwythau – am dair neu bedair cenhedlaeth.” | |
Exod | WelBeibl | 34:9 | a dweud, “Meistr, os ydw i wedi dy blesio di, wnei di, Meistr, fynd gyda ni? Mae'r bobl yma'n ystyfnig, ond plîs wnei di faddau ein beiau a'n pechod ni, a'n derbyn ni yn bobl arbennig i ti dy hun?” | |
Exod | WelBeibl | 34:10 | Atebodd Duw, “Iawn. Dw i'n gwneud ymrwymiad. Dw i'n mynd i wneud pethau rhyfeddol does neb yn unman wedi'u dychmygu o'r blaen. Bydd y bobl rwyt ti'n byw yn eu canol nhw yn gweld beth mae'r ARGLWYDD yn ei wneud. Dw i'n gwneud rhywbeth anhygoel gyda ti. | |
Exod | WelBeibl | 34:11 | Gwna'n siŵr dy fod ti'n gwneud beth dw i'n ddweud wrthot ti heddiw. Dw i'n mynd i yrru allan o'ch blaen chi yr Amoriaid, Canaaneaid, Hethiaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebwsiaid. | |
Exod | WelBeibl | 34:12 | Gwyliwch chi eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl hynny sy'n byw yn y wlad lle dych chi'n mynd, rhag iddyn nhw'ch baglu chi. | |
Exod | WelBeibl | 34:13 | Dw i eisiau i chi ddinistrio'u hallorau, malu'r colofnau cysegredig, a thorri polion y dduwies Ashera i lawr. | |
Exod | WelBeibl | 34:14 | Peidiwch plygu i addoli unrhyw dduw arall. Mae'r ARGLWYDD yn Dduw eiddigeddus – Eiddigedd ydy ei enw e. | |
Exod | WelBeibl | 34:15 | Gwyliwch eich bod chi ddim yn gwneud cytundeb gwleidyddol gyda'r bobl sy'n byw yn y wlad. Y peryg wedyn ydy y byddwch chi'n derbyn gwahoddiad i fwyta gyda nhw pan fyddan nhw'n addoli ac yn aberthu i'w duwiau. | |
Exod | WelBeibl | 34:16 | Byddwch chi'n gadael i'ch meibion briodi eu merched nhw. Bydd y rheiny yn addoli eu duwiau, ac yn cael eich meibion chi i fod yn anffyddlon i mi a gwneud yr un fath! | |
Exod | WelBeibl | 34:18 | Rhaid i chi gadw Gŵyl y Bara Croyw. Am saith diwrnod rhaid i chi fwyta bara heb furum ynddo, fel gwnes i orchymyn i chi. Mae hyn i ddigwydd ar yr amser iawn ym mis Abib, am mai dyna pryd ddaethoch chi allan o'r Aifft. | |
Exod | WelBeibl | 34:19 | Mae mab cyntaf pob gwraig, a phob anifail gwryw cyntaf i gael ei eni, yn perthyn i mi – o'r gwartheg, defaid a geifr. | |
Exod | WelBeibl | 34:20 | Mae'r asyn bach cyntaf i gael ei eni i gael ei brynu yn ôl gydag oen. Os nad ydy e'n cael ei brynu, rhaid ei ladd drwy dorri ei wddf. Rhaid i fab cyntaf pob gwraig gael ei brynu'n ôl. A does neb i ddod ata i heb rywbeth i'w offrymu. | |
Exod | WelBeibl | 34:21 | Cewch weithio am chwe diwrnod, ond rhaid i chi orffwys ar y seithfed. Rhaid i chi orffwys hyd yn oed os ydy hi'n amser i aredig neu i gasglu'r cnydau. | |
Exod | WelBeibl | 34:22 | Rhaid i chi gadw Gŵyl y Cynhaeaf – gyda ffrwyth cyntaf y cynhaeaf gwenith – a Gŵyl Casglu'r Cynhaeaf ar ddiwedd y flwyddyn. | |
Exod | WelBeibl | 34:23 | Felly, dair gwaith bob blwyddyn mae'r dynion i gyd i ddod o flaen y Meistr, yr ARGLWYDD, sef Duw Israel. | |
Exod | WelBeibl | 34:24 | Dw i'n mynd i yrru allan bobloedd o dy flaen di a rhoi mwy eto o dir i ti. Ac os byddi di'n ymddangos o flaen yr ARGLWYDD dy Dduw dair gwaith bob blwyddyn, fydd neb yn dod ac yn ceisio dwyn dy dir oddi arnat ti. | |
Exod | WelBeibl | 34:25 | Rhaid peidio offrymu gwaed anifail sydd wedi'i aberthu gyda bara sydd â burum ynddo. A does dim o aberth Gŵyl y Pasg i fod wedi'i adael ar ôl tan y bore wedyn. | |
Exod | WelBeibl | 34:26 | Tyrd â ffrwyth cyntaf gorau dy dir i deml yr ARGLWYDD dy Dduw. Paid berwi cig gafr ifanc yn llaeth ei fam.” | |
Exod | WelBeibl | 34:27 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Ysgrifenna hyn i gyd i lawr. Dyma amodau'r ymrwymiad dw i wedi'i wneud gyda ti a phobl Israel.” | |
Exod | WelBeibl | 34:28 | Roedd Moses yno gyda Duw am bedwar deg diwrnod, ddydd a nos. Wnaeth e ddim bwyta nac yfed o gwbl. A dyma fe'n ysgrifennu amodau'r ymrwymiad ar y llechi – sef y Deg Gorchymyn. | |
Exod | WelBeibl | 34:29 | Pan ddaeth Moses i lawr o ben Mynydd Sinai gyda dwy lechen y dystiolaeth yn ei law, doedd e ddim yn sylweddoli fod ei wyneb wedi bod yn disgleirio wrth i'r ARGLWYDD siarad ag e. | |
Exod | WelBeibl | 34:30 | Pan welodd Aaron a phobl Israel Moses yn dod, roedd ei wyneb yn dal i ddisgleirio, ac roedd ganddyn nhw ofn mynd yn agos ato. | |
Exod | WelBeibl | 34:31 | Ond dyma Moses yn galw arnyn nhw, a dyma Aaron a'r arweinwyr eraill yn dod yn ôl i siarad ag e. | |
Exod | WelBeibl | 34:32 | Wedyn dyma'r bobl i gyd yn dod draw ato, a dyma Moses yn dweud wrthyn nhw beth oedd y gorchmynion roedd Duw wedi'i rhoi iddo ar Fynydd Sinai. | |
Exod | WelBeibl | 34:33 | Pan oedd Moses wedi gorffen siarad â nhw, dyma fe'n rhoi gorchudd dros ei wyneb. | |
Exod | WelBeibl | 34:34 | Ond pan fyddai'n mynd i mewn i siarad â'r ARGLWYDD, byddai'n tynnu'r gorchudd i ffwrdd nes byddai'n dod allan eto. Wedyn byddai'n dweud wrth bobl Israel beth roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn iddo, | |