Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 31
Ezek WelBeibl 31:1  Roedd hi un deg un mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r trydydd mis. A dyma fi'n cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:
Ezek WelBeibl 31:2  “Ddyn, dywed wrth y Pharo, brenin yr Aifft, a'i bobl i gyd: ‘Oes rhywbeth sy'n cymharu â dy fawredd di?
Ezek WelBeibl 31:3  Roedd Asyria fel coeden gedrwydd yn Libanus, a'i changhennau hardd fel cysgod y goedwig. Roedd yn aruthrol dal, a'i brigau uchaf yn y cymylau.
Ezek WelBeibl 31:4  Y dŵr oedd yn gwneud iddi dyfu, a'r ffynhonnau dwfn yn ei gwneud yn dal. Roedd nentydd yn llifo o'i chwmpas; a sianeli dŵr yn dyfrio'r coed i gyd.
Ezek WelBeibl 31:5  Ond roedd y goeden hon yn dalach na'r coed o'i chwmpas i gyd. Canghennau mawr a brigau hir, a'i gwreiddiau'n lledu at y dŵr.
Ezek WelBeibl 31:6  Roedd yr adar i gyd yn nythu yn ei brigau, a'r anifeiliaid gwyllt yn geni rhai bach dan ei changhennau. Roedd y gwledydd mawr i gyd yn byw dan ei chysgod.
Ezek WelBeibl 31:7  Roedd yn rhyfeddol o hardd gyda'i changhennau hir, a'i gwreiddiau'n ymestyn yn ddwfn at ddigonedd o ddŵr.
Ezek WelBeibl 31:8  Doedd coed cedrwydd eraill gardd Duw ddim yn cystadlu â hi. Doedd canghennau'r coed pinwydd ddim byd tebyg; a'r coed planwydd yn ddim o'u cymharu â hi. Doedd dim un o goed gardd Duw mor hardd â hon!
Ezek WelBeibl 31:9  Fi wnaeth hi'n hardd gyda'i holl ganghennau. Roedd coed Eden i gyd, gardd Duw, yn genfigennus ohoni.
Ezek WelBeibl 31:10  “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Am ei bod hi mor falch ohoni ei hun, mor aruthrol dal gyda'i brigau uchaf yn y cymylau,
Ezek WelBeibl 31:11  rhois hi yn nwylo arweinydd y cenhedloedd, i'w chosbi am ei drygioni. Dw i wedi'i thaflu hi i ffwrdd.
Ezek WelBeibl 31:12  Mae byddin estron y wlad fwya creulon wedi'i thorri i lawr a'i gadael i orwedd ar y mynyddoedd. Mae ei changhennau'n gorwedd ar chwâl yn y dyffrynnoedd a'r ceunentydd. Mae pawb oedd yn cysgodi oddi tani wedi ffoi pan gafodd ei thaflu i ffwrdd.
Ezek WelBeibl 31:13  Mae'r adar i gyd yn clwydo ar ei boncyff marw, a'r anifeiliaid gwyllt yn cerdded dros ei changhennau.
Ezek WelBeibl 31:14  “‘Digwyddodd hyn i stopio i unrhyw goeden arall dyfu mor dal nes bod ei brigau uchaf yn y cymylau. Byddan nhw i gyd, fel pobl feidrol, yn marw yn nyfnder y ddaear. Byddan nhw'n ymuno gyda phawb arall sydd yn y Pwll.
Ezek WelBeibl 31:15  “‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan aeth Asyria i lawr i'r bedd, roedd y dyfnder yn galaru amdani. Dyma fi'n dal yr afonydd yn ôl oddi wrthi. Gwisgais Libanus mewn du, a gwneud i'r coed eraill i gyd wywo.
Ezek WelBeibl 31:16  Roedd y gwledydd i gyd yn crynu pan glywon nhw amdani'n syrthio, pan wnes i ei thaflu i lawr i fyd y meirw gyda phawb arall sydd yn y Pwll. Yn y byd tanddaearol cafodd coed Eden i gyd a'r gorau o goed Libanus, pob un oedd wedi cael digon o ddŵr, eu bodloni.
Ezek WelBeibl 31:17  Roedd ei chefnogwyr i gyd (y gwledydd oedd wedi byw dan ei chysgod) wedi mynd i lawr i fyd y meirw gyda hi, i ymuno gyda phawb arall oedd wedi'u lladd â'r cleddyf.
Ezek WelBeibl 31:18  “‘Pa un o goed Eden sydd unrhyw beth tebyg i ti? Ond byddi dithau'n cael dy fwrw i lawr i ddyfnder y ddaear gyda choed Eden. Byddi'n byw gyda'r paganiaid eraill gafodd eu lladd â'r cleddyf!’ Dyna fydd yn digwydd i'r Pharo a'i fyddin enfawr,” meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD.