I CHRONICLES
Chapter 5
I Ch | WelBeibl | 5:1 | Meibion Reuben, mab hynaf Israel (Reuben oedd y mab hynaf, ond am ei fod wedi cael rhyw gydag un o gariadon ei dad, dyma fe'n colli safle'r mab hynaf. Meibion Joseff, mab Israel, gafodd y safle yna yn ei le. Felly dydy'r achau ddim yn cael eu cyfrif yn ôl trefn geni. | |
I Ch | WelBeibl | 5:2 | Er bod Jwda wedi dod yn gryfach na'i frodyr, ac arweinydd wedi codi o'i ddisgynyddion, roedd safle'r mab hynaf yn mynd i Joseff.) | |
I Ch | WelBeibl | 5:6 | i Beëra oedd wedi cael ei gymryd yn gaeth gan Tiglath-pileser, brenin Asyria. Beëra oedd pennaeth llwyth Reuben. | |
I Ch | WelBeibl | 5:7 | Dyma'i frodyr wedi'u rhestru yn ôl y drefn yn y cofrestrau teuluol: Y pennaeth oedd Jeiel, yna Sechareia, | |
I Ch | WelBeibl | 5:8 | yna Bela fab Asas, ŵyr Shema a gor-ŵyr Joel. Roedd y rhain yn byw yn Aroer, a'u tir yn ymestyn i Nebo a Baal-meon. | |
I Ch | WelBeibl | 5:9 | I'r dwyrain roedd eu tir yn cyrraedd ymyl yr anialwch sydd yr ochr yma i afon Ewffrates. Roedd angen y tir yma i gyd am fod ganddyn nhw ormod o anifeiliaid i'w cadw yn Gilead. | |
I Ch | WelBeibl | 5:10 | Pan oedd Saul yn frenin dyma nhw'n ymosod ar yr Hagriaid a'u trechu nhw. Dyma nhw'n cymryd y tir i gyd sydd i'r dwyrain o Gilead. | |
I Ch | WelBeibl | 5:11 | Roedd disgynyddion Gad yn byw wrth eu hymyl, yn Bashan, a'r holl ffordd i Salca yn y dwyrain: | |
I Ch | WelBeibl | 5:13 | Eu perthnasau nhw, arweinwyr saith clan arall, oedd Michael, Meshwlam, Sheba, Iorai, Iacan, Sïa, ac Eber. | |
I Ch | WelBeibl | 5:14 | Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Afichaïl fab Chwri, mab Iaroach, mab Gilead, mab Michael, mab Ieshishai, mab Iachdo, mab Bws. | |
I Ch | WelBeibl | 5:16 | Roedden nhw'n byw yn Gilead ac ym mhentrefi Bashan, a drwy dir pori Saron i'r pen draw pellaf. | |
I Ch | WelBeibl | 5:17 | Cafodd y rhain i gyd eu rhestru yn y cofrestrau teuluol pan oedd Jotham yn frenin Jwda, a Jeroboam yn frenin ar Israel. | |
I Ch | WelBeibl | 5:18 | Rhwng y tri llwyth (Reuben, Gad a hanner llwyth Manasse) roedd 44,760 o ddynion dewr oedd yn gallu ymladd. Roedd y rhain yn cario tarian a chleddyf, yn gallu trin bwa saeth, ac yn rhyfelwyr da. | |
I Ch | WelBeibl | 5:20 | Cawson nhw help Duw i ymladd, a llwyddo i drechu'r Hagriaid a phawb oedd gyda nhw. Roedden nhw wedi galw ar Dduw yng nghanol y frwydr, a gofyn iddo am help. A dyma Duw yn gwrando arnyn nhw am eu bod nhw wedi ymddiried ynddo. | |
I Ch | WelBeibl | 5:21 | Yna dyma nhw'n cymryd anifeiliaid yr Hagriaid – 50,000 o gamelod, 250,000 o ddefaid, a 2,000 o asynnod. Dyma nhw hefyd yn cymryd 100,000 o bobl yn gaethion. | |
I Ch | WelBeibl | 5:22 | Am mai rhyfel Duw oedd hwn cafodd llawer iawn o'r gelynion eu lladd. Buon nhw'n byw ar dir yr Hagriaid hyd amser y gaethglud. | |
I Ch | WelBeibl | 5:23 | Dyma hanner llwyth Manasse yn setlo yn yr ardal hefyd. Roedd yna gymaint ohonyn nhw nes iddyn nhw ymledu o Bashan i Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon. | |
I Ch | WelBeibl | 5:24 | Dyma benaethiaid eu teuluoedd nhw: Effer, Ishi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafiâ, a Iachdiel. Roedd y penaethiaid hyn yn filwyr profiadol ac yn enwog. | |
I Ch | WelBeibl | 5:25 | Ond dyma nhw'n troi'u cefnau ar Dduw eu hynafiaid a mynd ar ôl duwiau pobl y wlad (y bobl oedd Duw wedi'u dinistrio o'u blaenau). | |