Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I KINGS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 13
I Ki WelBeibl 13:1  Pan oedd Jeroboam yn sefyll wrth yr allor yn Bethel yn llosgi arogldarth, dyma broffwyd yn cyrraedd yno o Jwda, wedi'i anfon gan yr ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 13:2  Dyma fe'n cyhoeddi neges gan yr ARGLWYDD yn erbyn yr allor: “O allor, allor!” meddai, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud. ‘Bydd plentyn yn cael ei eni i deulu Dafydd. Joseia fydd ei enw. Bydd e'n lladd offeiriaid yr allorau lleol sy'n dod yma i losgi arogldarth! Bydd esgyrn dynol yn cael eu llosgi arnat ti!
I Ki WelBeibl 13:3  Ac mae'r ARGLWYDD yn rhoi'r arwydd yma heddiw: Bydd yr allor yn cael ei dryllio, a'r lludw sydd arni'n syrthio ar lawr.’”
I Ki WelBeibl 13:4  Pan glywodd y brenin beth ddwedodd y proffwyd am yr allor yn Bethel, dyma fe'n estyn ei law allan dros yr allor. “Arestiwch e!” meddai. A dyma'r fraich oedd wedi'i hestyn allan yn cael ei pharlysu. Doedd e ddim yn gallu ei thynnu'n ôl.
I Ki WelBeibl 13:5  Ac yna dyma'r allor yn dryllio a'r lludw arni yn syrthio ar lawr, yn union fel roedd y proffwyd wedi dweud wrth gyhoeddi neges yr ARGLWYDD.
I Ki WelBeibl 13:6  Ymateb y brenin oedd pledio ar y proffwyd, “Gweddïa ar yr ARGLWYDD dy Dduw, a gofyn iddo wella fy mraich i.” A dyma'r proffwyd yn gweddïo ar yr ARGLWYDD, a dyma fraich y brenin yn cael ei gwneud yn iach fel o'r blaen.
I Ki WelBeibl 13:7  Yna dyma'r brenin yn dweud wrth y proffwyd, “Tyrd adre gyda mi i gael rhywbeth i'w fwyta. Dw i eisiau rhoi anrheg i ti.”
I Ki WelBeibl 13:8  Ond dyma'r proffwyd yn ei ateb, “Hyd yn oed petaet ti'n rhoi hanner dy eiddo i mi, fyddwn ni ddim yn mynd gyda ti i fwyta dim nac i yfed dŵr yn y lle yma.
I Ki WelBeibl 13:9  Achos dwedodd y ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta nac yfed dim yno, a phaid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’”
I Ki WelBeibl 13:10  Felly dyma fe'n troi am adre ar hyd ffordd wahanol i'r ffordd ddaeth e i Fethel.
I Ki WelBeibl 13:11  Roedd yna broffwyd arall, dyn hen iawn, yn byw yn Bethel. Dyma'i feibion yn dweud wrtho am beth oedd wedi digwydd yn Bethel y diwrnod hwnnw, a beth oedd y proffwyd wedi'i ddweud wrth y brenin.
I Ki WelBeibl 13:12  A dyma fe'n eu holi, “Pa ffordd aeth e?” Esboniodd ei feibion iddo pa ffordd roedd y proffwyd o Jwda wedi mynd.
I Ki WelBeibl 13:13  Yna dyma fe'n gofyn iddyn nhw gyfrwyo asyn iddo. Dyma nhw'n gwneud hynny, ac aeth ar ei gefn
I Ki WelBeibl 13:14  a mynd ar ôl y proffwyd. Daeth o hyd iddo yn eistedd o dan goeden dderwen, a gofynnodd iddo, “Ai ti ydy'r proffwyd ddaeth o Jwda?” A dyma hwnnw'n ateb, “Ie.”
I Ki WelBeibl 13:15  Yna dyma fe'n dweud wrtho, “Tyrd adre gyda mi am damaid o fwyd.”
I Ki WelBeibl 13:16  Ond dyma'r proffwyd yn ateb, “Alla i ddim mynd yn ôl gyda ti, na bwyta ac yfed dim yn y lle yma.
I Ki WelBeibl 13:17  Dwedodd yr ARGLWYDD yn glir wrtho i, ‘Paid bwyta dim nac yfed dŵr yno, a phaid mynd adre'r ffordd aethost ti yno.’”
I Ki WelBeibl 13:18  Ond dyma'r hen broffwyd yn dweud, “Dw i hefyd yn broffwyd fel ti. Mae angel wedi rhoi neges i mi gan yr ARGLWYDD yn dweud wrtho i am fynd â ti yn ôl adre gyda mi i ti gael rhywbeth i'w fwyta a'i yfed.” Ond dweud celwydd oedd e.
I Ki WelBeibl 13:19  Felly dyma'r proffwyd o Bethel yn mynd yn ôl gydag e i gael bwyd a diod yn ei dŷ.
I Ki WelBeibl 13:20  Tra oedden nhw'n bwyta dyma'r hen broffwyd oedd wedi'i ddenu'n ôl yn cael neges gan yr ARGLWYDD, ac
I Ki WelBeibl 13:21  yn dweud wrth y proffwyd o Jwda, “Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: ‘Ti wedi bod yn anufudd, a ddim wedi gwrando ar y gorchymyn roddodd yr ARGLWYDD dy Dduw i ti.
I Ki WelBeibl 13:22  Ti wedi dod yn ôl i fwyta ac yfed yn y lle yma, er ei fod wedi dweud wrthot ti am beidio gwneud hynny. Felly fydd dy gorff di ddim yn cael ei gladdu ym medd dy deulu.’”
I Ki WelBeibl 13:23  Ar ôl iddo orffen bwyta, dyma'r hen broffwyd o Bethel yn cyfrwyo ei asyn i'r proffwyd o Jwda.
I Ki WelBeibl 13:24  Pan oedd ar ei ffordd, dyma lew yn ymosod arno a'i ladd. Dyna lle roedd ei gorff yn gorwedd ar ochr y ffordd, a'r asyn a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl.
I Ki WelBeibl 13:25  Dyma ryw bobl oedd yn digwydd mynd heibio yn gweld y corff ar ochr y ffordd a'r llew yn sefyll wrth ei ymyl. A dyma nhw'n sôn am y peth yn y dre lle roedd yr hen broffwyd yn byw.
I Ki WelBeibl 13:26  Pan glywodd yr hen broffwyd am y peth, dyma fe'n dweud, “Y proffwyd fuodd yn anufudd i'r ARGLWYDD ydy e. Mae'r ARGLWYDD wedi gadael i lew ei larpio a'i ladd, yn union fel gwnaeth e ddweud.”
I Ki WelBeibl 13:27  Yna gofynnodd i'w feibion gyfrwyo ei asyn iddo. Wedi iddyn nhw wneud hynny
I Ki WelBeibl 13:28  dyma fe'n mynd a dod o hyd i'r corff ar ochr y ffordd, gyda'r llew a'r asyn yn sefyll wrth ei ymyl. (Doedd y llew ddim wedi bwyta'r corff nac ymosod ar yr asyn.)
I Ki WelBeibl 13:29  Dyma'r hen broffwyd yn codi'r corff ar yr asyn a mynd yn ôl i'r dre i alaru drosto a'i gladdu.
I Ki WelBeibl 13:30  Rhoddodd y corff yn ei fedd ei hun, a galaru a dweud, “O, fy mrawd!”
I Ki WelBeibl 13:31  Wedi iddo ei gladdu, dyma fe'n dweud wrth ei feibion, “Pan fydda i'n marw, claddwch fi yn yr un bedd â'r proffwyd, a gosod fy esgyrn i wrth ymyl ei esgyrn e.
I Ki WelBeibl 13:32  Bydd y neges roddodd yr ARGLWYDD iddo i'w chyhoeddi, yn erbyn allor Bethel a holl demlau lleol Samaria, yn siŵr o ddod yn wir.”
I Ki WelBeibl 13:33  Ond hyd yn oed ar ôl i hyn ddigwydd, wnaeth Jeroboam ddim stopio gwneud pethau drwg. Roedd yn dal i wneud pob math o bobl yn offeiriad i'w allorau. Roedd yn apwyntio pwy bynnag oedd yn ffansïo'r job.
I Ki WelBeibl 13:34  Y pechod yma oedd y rheswm pam gafodd teulu brenhinol Jeroboam ei chwalu a'i ddileu oddi ar wyneb y ddaear.