Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
JOSHUA
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 8
Josh WelBeibl 8:1  Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Paid bod ag ofn na phanicio! Dos â'r fyddin gyfan i ymosod ar Ai. Dw i'n mynd i roi brenin Ai, ei bobl, ei dref a'i dir, yn dy ddwylo di.
Josh WelBeibl 8:2  Gwna'r un fath ag a wnest ti i Jericho. Ond y tro yma cei gadw unrhyw stwff rwyt ti eisiau, a'r anifeiliaid. Gosod filwyr yr ochr arall i'r dref, yn barod i ymosod arni.”
Josh WelBeibl 8:3  Felly dyma Josua a'i fyddin gyfan yn paratoi i ymosod ar Ai. Dewisodd 30,000 o'i ddynion gorau, i'w hanfon allan ganol nos.
Josh WelBeibl 8:4  Dwedodd wrthyn nhw, “Mae rhai ohonoch chi i fynd i ddisgwyl yr ochr arall i'r dref, mor agos ag y gallwch chi heb gael eich gweld, yn barod i ymosod arni.
Josh WelBeibl 8:5  Bydda i'n arwain gweddill y fyddin i ymosod o'r un cyfeiriad ag o'r blaen. Pan ddôn nhw allan o'r dref i ymladd yn ein herbyn ni, fel y gwnaethon nhw'r tro dwetha, byddwn ni'n troi'n ôl ac yn ffoi o'u blaenau nhw.
Josh WelBeibl 8:6  Byddan nhw'n gadael y dref a dod ar ein holau ni, gan feddwl ein bod ni'n ffoi oddi wrthyn nhw fel o'r blaen.
Josh WelBeibl 8:7  Wedyn byddwch chi'n dod allan o'r lle buoch chi'n cuddio ac yn concro'r dre. Bydd yr ARGLWYDD eich Duw yn ei rhoi yn eich dwylo chi.
Josh WelBeibl 8:8  Wedyn llosgwch y dref yn llwyr, fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud. Dyna'ch ordors chi.”
Josh WelBeibl 8:9  Felly dyma Josua yn eu hanfon nhw i ffwrdd, ac aethon nhw i guddio rhwng Bethel ac Ai, i'r gorllewin o'r dref. Arhosodd Josua gyda gweddill y bobl.
Josh WelBeibl 8:10  Yna'n gynnar y bore wedyn, dyma Josua yn casglu gweddill ei fyddin, a dyma fe ac arweinwyr eraill Israel yn eu harwain nhw i ymosod ar Ai.
Josh WelBeibl 8:11  Dyma nhw'n gwersylla yr ochr arall i'r dyffryn oedd i'r gogledd o Ai.
Josh WelBeibl 8:12  Roedd Josua eisoes wedi anfon pum mil o ddynion i guddio i'r gorllewin o'r dref, rhwng Bethel ac Ai.
Josh WelBeibl 8:13  Felly roedd pawb yn eu lle – y brif fyddin i'r gogledd o'r dref, a'r milwyr eraill yn barod i ymosod o'r gorllewin. Yna aeth Josua ei hun i dreulio'r nos ar ganol y dyffryn.
Josh WelBeibl 8:14  Y bore wedyn, pan welodd brenin Ai bobl Israel, dyma fe'n arwain ei fyddin allan i ymladd yn eu herbyn. Aeth i'r dwyrain, i le oedd yn edrych allan dros Ddyffryn Iorddonen. Doedd e ddim yn sylweddoli fod dynion yn cuddio yr ochr arall i'r dref.
Josh WelBeibl 8:15  Yna dyma Josua a phobl Israel yn cymryd arnyn nhw eu bod wedi'u curo, a throi'n ôl i ffoi i gyfeiriad yr anialwch.
Josh WelBeibl 8:16  Cafodd dynion Ai i gyd eu galw allan i fynd ar eu holau. A dyna sut cawson nhw eu harwain i ffwrdd oddi wrth y dref.
Josh WelBeibl 8:17  Doedd dim dynion o gwbl ar ôl yn Ai nac yn Bethel. Roedden nhw i gyd wedi mynd ar ôl pobl Israel, ac wedi gadael y dref yn gwbl ddiamddiffyn.
Josh WelBeibl 8:18  Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Josua, “Dal dy waywffon i gyfeiriad Ai. Dw i'n rhoi'r dref yn dy law di.” Felly dyma Josua yn dal ei waywffon i gyfeiriad Ai.
Josh WelBeibl 8:19  Pan wnaeth hynny, dyma'r milwyr oedd yn cuddio yr ochr arall i'r dref yn codi ac yn ymosod arni. Yn syth ar ôl ei chipio, dyma nhw'n ei rhoi ar dân.
Josh WelBeibl 8:20  Pan edrychodd dynion Ai yn ôl, dyma nhw'n gweld y mwg o'r dre yn codi i'r awyr. Doedden nhw ddim yn gwybod lle i droi. Yna dyma fyddin Israel, oedd wedi bod yn dianc oddi wrthyn nhw, yn troi ac yn ymosod arnyn nhw.
Josh WelBeibl 8:21  Roedd Josua a'i fyddin yn gweld fod y milwyr eraill wedi concro'r dre, a'i rhoi hi ar dân. Felly dyma nhw'n troi'n ôl ac yn ymosod ar fyddin Ai.
Josh WelBeibl 8:22  Wedyn dyma'r milwyr oedd wedi concro'r dre yn dod allan i ymladd hefyd. Roedd dynion Ai wedi'u dal yn y canol. Cawson nhw i gyd eu lladd gan filwyr Israel. Wnaeth neb ddianc.
Josh WelBeibl 8:23  Ond roedden nhw wedi dal brenin Ai yn fyw, a dyma nhw'n mynd ag e at Josua.
Josh WelBeibl 8:24  Ar ôl lladd pob un o ddynion Ai oedd wedi dod allan i gyfeiriad yr anialwch i ymladd gyda nhw, aethon nhw yn ôl i Ai a lladd pawb oedd yn dal yn fyw yno.
Josh WelBeibl 8:25  Cafodd poblogaeth Ai i gyd ei lladd y diwrnod hwnnw – un deg dau o filoedd i gyd.
Josh WelBeibl 8:26  Wnaeth Josua ddim rhoi ei gleddyf i lawr i roi diwedd ar yr ymladd nes roedd pobl Ai i gyd wedi'u lladd.
Josh WelBeibl 8:27  Ond cafodd Israel gadw'r anifeiliaid oedd yno, ac unrhyw stwff gwerthfawr roedden nhw am ei gadw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Josua.
Josh WelBeibl 8:28  Cafodd tref Ai ei llosgi'n ulw gan Josua. Cafodd ei gadael yn domen o adfeilion. Fyddai neb yn gallu byw yno byth eto – ac felly mae hi hyd heddiw!
Josh WelBeibl 8:29  Yna dyma Josua yn crogi brenin Ai, a'i adael yn hongian ar bren nes iddi nosi. Wedi i'r haul fachlud, dyma Josua yn gorchymyn tynnu'r corff i lawr, a dyma nhw'n ei daflu wrth giât y dref a chodi pentwr mawr o gerrig drosto – mae'n dal yna hyd heddiw.
Josh WelBeibl 8:30  Yna dyma Josua yn codi allor i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ar Fynydd Ebal.
Josh WelBeibl 8:31  (Cododd yr allor yn union fel roedd Moses, gwas yr ARGLWYDD, wedi gorchymyn yn sgrôl Cyfraith Moses – gyda cerrig heb eu naddu na'u cerfio gydag unrhyw offer haearn.) A dyma nhw'n cyflwyno aberthau i'w llosgi arni, ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Josh WelBeibl 8:32  Yna, o flaen pobl Israel, dyma Josua yn naddu ar y cerrig gopi o'r Gyfraith ysgrifennodd Moses.
Josh WelBeibl 8:33  Roedd pobl Israel i gyd yno – Israeliaid a'r bobl eraill o'r tu allan oedd gyda nhw – ac roedd yr arweinwyr hŷn, y swyddogion a'r barnwyr, yn sefyll bob ochr i'r Arch, o flaen yr offeiriaid o lwyth Lefi, oedd yn cario Arch Ymrwymiad yr ARGLWYDD. Safodd hanner y bobl o flaen Mynydd Gerisim, a'r hanner arall o flaen Mynydd Ebal, fel roedd Moses wedi gorchymyn iddyn nhw wneud ar gyfer y seremoni fendithio.
Josh WelBeibl 8:34  Yna dyma Josua yn darllen yn uchel y bendithion a'r melltithion sydd wedi'u hysgrifennu yn sgrôl y Gyfraith.
Josh WelBeibl 8:35  Darllenodd y cwbl o flaen pobl Israel i gyd, yn cynnwys gwragedd, plant, a'r bobl o'r tu allan oedd yn byw gyda nhw.