MARK
Chapter 8
Mark | WelBeibl | 8:1 | Roedd tyrfa fawr arall wedi casglu o'i gwmpas tua'r un adeg. Am bod dim bwyd gan y bobl, dyma Iesu'n galw'i ddisgyblion ato a dweud, | |
Mark | WelBeibl | 8:2 | “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta. | |
Mark | WelBeibl | 8:3 | Os anfona i nhw adre'n llwgu byddan nhw'n llewygu ar y ffordd. Mae rhai ohonyn nhw wedi dod o bell.” | |
Mark | WelBeibl | 8:4 | Atebodd y disgyblion, “Pa obaith sydd i unrhyw un ddod o hyd i ddigon o fwyd iddyn nhw yn y lle anial yma?!” | |
Mark | WelBeibl | 8:6 | Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w rhannu i'r bobl. A dyna wnaeth y disgyblion. | |
Mark | WelBeibl | 8:7 | Roedd ychydig o bysgod bach ganddyn nhw hefyd; a gwnaeth Iesu yr un peth gyda'r rheiny. | |
Mark | WelBeibl | 8:8 | Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben. | |
Mark | WelBeibl | 8:11 | Daeth Phariseaid ato, a dechrau ffraeo. “Profa pwy wyt ti drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol,” medden nhw. | |
Mark | WelBeibl | 8:12 | Ochneidiodd Iesu'n ddwfn, a dweud: “Pam mae'r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!” | |
Mark | WelBeibl | 8:13 | Yna gadawodd nhw, a mynd yn ôl i mewn i'r cwch a chroesi drosodd i ochr arall Llyn Galilea. | |
Mark | WelBeibl | 8:14 | Roedd y disgyblion wedi anghofio mynd â bwyd gyda nhw. Dim ond un dorth fach oedd ganddyn nhw yn y cwch. | |
Mark | WelBeibl | 8:15 | Dyma Iesu'n eu rhybuddio nhw: “Byddwch yn ofalus! Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid, a burum Herod hefyd.” | |
Mark | WelBeibl | 8:16 | Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad mai tynnu sylw at y ffaith fod ganddyn nhw ddim bara oedd e. | |
Mark | WelBeibl | 8:17 | Roedd Iesu'n gwybod beth roedden nhw'n ddweud, a gofynnodd iddyn nhw: “Pam dych chi'n poeni eich bod heb fara? Ydych chi'n dal ddim yn deall? Pryd dych chi'n mynd i ddysgu? Ydych chi wedi troi'n ystyfnig? | |
Mark | WelBeibl | 8:18 | Ydych chithau hefyd yn ddall er bod llygaid gynnoch chi, ac yn fyddar er bod clustiau gynnoch chi? Ydych chi'n cofio dim byd? | |
Mark | WelBeibl | 8:19 | Pan o'n i'n rhannu'r pum torth rhwng y pum mil, sawl basgedaid o dameidiau oedd dros ben wnaethoch chi eu casglu?” “Deuddeg,” medden nhw. | |
Mark | WelBeibl | 8:20 | “A phan o'n i'n rhannu'r saith torth i'r pedair mil, sawl llond cawell o dameidiau wnaethoch chi eu casglu?” “Saith,” medden nhw. | |
Mark | WelBeibl | 8:22 | Dyma nhw'n cyrraedd Bethsaida, a dyma rhyw bobl yn dod â dyn dall at Iesu a gofyn iddo ei gyffwrdd. | |
Mark | WelBeibl | 8:23 | Gafaelodd Iesu yn llaw y dyn dall a'i arwain allan o'r pentref. Ar ôl poeri ar lygaid y dyn a gosod dwylo arno, gofynnodd Iesu iddo, “Wyt ti'n gweld o gwbl?” | |
Mark | WelBeibl | 8:24 | Edrychodd i fyny, ac meddai, “Ydw, dw i'n gweld pobl; ond maen nhw'n edrych fel coed yn symud o gwmpas.” | |
Mark | WelBeibl | 8:25 | Yna rhoddodd Iesu ei ddwylo ar lygaid y dyn eto. Pan agorodd y dyn ei lygaid, roedd wedi cael ei olwg yn ôl! Roedd yn gweld popeth yn glir. | |
Mark | WelBeibl | 8:27 | Aeth Iesu a'i ddisgyblion yn eu blaenau i'r pentrefi o gwmpas Cesarea Philipi. Ar y ffordd yno gofynnodd iddyn nhw, “Pwy mae pobl yn ddweud ydw i?” | |
Mark | WelBeibl | 8:28 | Dyma nhw'n ateb, “Mae rhai yn dweud mai Ioan Fedyddiwr wyt ti; eraill yn dweud Elias; a phobl eraill eto'n dweud mai un o'r proffwydi wyt ti.” | |
Mark | WelBeibl | 8:29 | “Ond beth amdanoch chi?” gofynnodd, “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?” Atebodd Pedr, “Ti ydy'r Meseia.” | |
Mark | WelBeibl | 8:31 | Dechreuodd esbonio iddyn nhw fod rhaid iddo fe, Mab y Dyn, ddioddef yn ofnadwy. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn ei wrthod. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn. | |
Mark | WelBeibl | 8:32 | Roedd yn siarad yn hollol blaen gyda nhw. Felly dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau. | |
Mark | WelBeibl | 8:33 | Ond trodd Iesu i edrych ar ei ddisgyblion, ac yna dweud y drefn wrth Pedr o'u blaenau nhw. “Dos o'm golwg i Satan!” meddai. “Rwyt ti'n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw'n eu gweld nhw.” | |
Mark | WelBeibl | 8:34 | Wedyn galwodd y dyrfa ato gyda'i ddisgyblion, a dwedodd wrthyn nhw: “Rhaid i bwy bynnag sydd am fy nilyn i stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi. | |
Mark | WelBeibl | 8:35 | Bydd y rhai sy'n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i a'r newyddion da, yn diogelu bywyd go iawn. | |