Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
MATTHEW
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 16
Matt WelBeibl 16:1  Daeth Phariseaid a Sadwceaid at Iesu a gofyn iddo brofi pwy oedd drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol.
Matt WelBeibl 16:2  Atebodd nhw, “Pan mae'r haul yn machlud dych chi'n dweud, ‘Bydd hi'n braf fory – mae'r awyr yn goch,’
Matt WelBeibl 16:3  ac yn y bore, ‘Bydd hi'n stormus heddiw – mae'r awyr yn goch a'r cymylau'n ddu.’ Dych chi'n gwybod sut mae'r tywydd yn argoeli, ond does gynnoch chi ddim syniad sut i ddeall yr arwyddion o beth sy'n digwydd nawr.
Matt WelBeibl 16:4  Cenhedlaeth ddrwg ac anffyddlon sy'n gofyn am gael gweld gwyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i! Yr unig arwydd gân nhw ydy arwydd y proffwyd Jona.” Yna gadawodd nhw a mynd i ffwrdd.
Matt WelBeibl 16:5  Pan groesodd y disgyblion i ochr arall y llyn, roedden nhw wedi anghofio mynd â bara gyda nhw.
Matt WelBeibl 16:6  Meddai Iesu wrthyn nhw, “Byddwch yn ofalus! Cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid a'r Sadwceaid.”
Matt WelBeibl 16:7  Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad ei fod yn tynnu sylw at y ffaith eu bod heb fynd â bara gyda nhw.
Matt WelBeibl 16:8  Roedd Iesu'n gwybod beth oedden nhw'n ei drafod, ac meddai, “Ble mae'ch ffydd chi? Pam dych chi'n poeni eich bod heb fara?
Matt WelBeibl 16:9  Ydych chi'n dal ddim yn deall? Ydych chi ddim yn cofio'r pum torth i fwydo'r pum mil, a sawl basgedaid wnaethoch chi eu casglu?
Matt WelBeibl 16:10  Neu'r saith torth i fwydo'r pedair mil, a sawl llond cawell wnaethoch chi eu casglu?
Matt WelBeibl 16:11  Ydych chi ddim yn gweld mod i ddim yn siarad am fara go iawn? Dw i am i chi gadw draw oddi wrth furum y Phariseaid a'r Sadwceaid.”
Matt WelBeibl 16:12  Roedden nhw'n deall wedyn mai nid sôn am fara go iawn oedd e; eisiau iddyn nhw osgoi dysgeidiaeth y Phariseaid a'r Sadwceaid oedd e.
Matt WelBeibl 16:13  Pan gyrhaeddodd Iesu ardal Cesarea Philipi, gofynnodd i'w ddisgyblion, “Pwy mae pobl yn ei ddweud ydw i, Mab y Dyn?”
Matt WelBeibl 16:14  “Mae rhai yn dweud Ioan Fedyddiwr,” medden nhw, “eraill yn dweud Elias, ac eraill eto'n dweud Jeremeia neu un o'r proffwydi.”
Matt WelBeibl 16:15  “Ond beth amdanoch chi?” meddai. “Pwy dych chi'n ddweud ydw i?”
Matt WelBeibl 16:16  Atebodd Simon Pedr, “Ti ydy'r Meseia, Mab y Duw byw.”
Matt WelBeibl 16:17  “Rwyt ti wedi dy fendithio'n fawr, Simon fab Jona,” meddai Iesu, “am mai dim person dynol ddangosodd hyn i ti, ond fy Nhad yn y nefoedd.
Matt WelBeibl 16:18  A dw i'n dweud wrthyt ti mai ti ydy Pedr (sef ‛y garreg‛). A dyma'r graig dw i'n mynd i adeiladu fy eglwys arni hi, a fydd grym marwolaeth ddim yn ei gorchfygu hi.
Matt WelBeibl 16:19  Dw i'n mynd i roi allweddi teyrnas yr Un nefol i ti; bydd beth bynnag rwyt ti'n ei rwystro ar y ddaear wedi'i rwystro yn y nefoedd, a bydd beth bynnag rwyt ti'n ei ganiatáu ar y ddaear wedi'i ganiatáu yn y nefoedd.”
Matt WelBeibl 16:20  Yna dyma Iesu'n rhybuddio'i ddisgyblion i beidio dweud wrth neb mai fe oedd y Meseia.
Matt WelBeibl 16:21  O hynny ymlaen dechreuodd Iesu esbonio i'w ddisgyblion fod rhaid iddo fynd i Jerwsalem. Byddai'r arweinwyr Iddewig, y prif offeiriaid a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn gwneud iddo ddiodde'n ofnadwy. Byddai'n cael ei ladd, ond yna'n dod yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn.
Matt WelBeibl 16:22  Dyma Pedr yn mynd ag e i'r naill ochr, a dweud y drefn wrtho am ddweud y fath bethau. “Duw a'n gwaredo!” meddai, “Wnaiff hynny byth ddigwydd i ti, Arglwydd!”
Matt WelBeibl 16:23  Ond trodd Iesu, a dweud wrth Pedr, “Dos o'm golwg i Satan! Rwyt ti'n rhwystr i mi; rwyt ti'n meddwl fel mae pobl yn meddwl yn lle gweld pethau fel mae Duw'n eu gweld nhw.”
Matt WelBeibl 16:24  Yna dyma Iesu'n dweud wrth ei ddisgyblion, “Os ydy rhywun am fy nilyn i, rhaid iddyn nhw stopio rhoi nhw eu hunain gyntaf. Rhaid iddyn nhw aberthu eu hunain dros eraill a cherdded yr un llwybr â mi.
Matt WelBeibl 16:25  Bydd y rhai sy'n ceisio achub eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond bydd y rhai hynny sy'n barod i ollwng gafael yn eu bywydau er fy mwyn i, yn dod o hyd i fywyd go iawn.
Matt WelBeibl 16:26  Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli'r enaid? Oes unrhyw beth sy'n fwy gwerthfawr na'r enaid?
Matt WelBeibl 16:27  Bydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a'r angylion gyda mi. Bydda i'n rhoi gwobr i bawb ar sail beth maen nhw wedi'i wneud.
Matt WelBeibl 16:28  Credwch chi fi, wnaiff rhai ohonoch chi sy'n sefyll yma ddim marw cyn cael gweld Mab y Dyn yn dod i deyrnasu.”