Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PSALMS
Prev Up Next
Chapter 91
Psal WelBeibl 91:1  Bydd y sawl mae'r Duw Goruchaf yn ei amddiffyn yn aros yn saff dan gysgod yr Hollalluog.
Psal WelBeibl 91:2  Dywedais, “ARGLWYDD, rwyt ti'n gaer ddiogel, yn lle hollol saff i mi fynd. Ti ydy fy Nuw i, yr un dw i'n ei drystio.”
Psal WelBeibl 91:3  Bydd Duw yn dy achub di o drap yr heliwr, a rhag y pla marwol.
Psal WelBeibl 91:4  Bydd e'n rhoi ei adain drosot ti, a byddi'n saff o dan blu ei adenydd. Mae'r ffaith fod Duw yn dweud y gwir yn darian sy'n dy amddiffyn di.
Psal WelBeibl 91:5  Paid bod ag ofn dim sy'n dy ddychryn yn y nos, na'r saeth sy'n hedfan yn y dydd;
Psal WelBeibl 91:6  yr haint sy'n llechu yn y tywyllwch, na'r dinistr sy'n taro'n sydyn ganol dydd.
Psal WelBeibl 91:7  Gall mil o ddynion syrthio ar dy law chwith, a deg mil ar y dde, ond fyddi di ddim yn cael dy gyffwrdd.
Psal WelBeibl 91:8  Byddi'n cael gweld drosot ti dy hun – byddi'n gweld y rhai drwg yn cael eu cosbi.
Psal WelBeibl 91:9  Wyt, rwyt ti'n lle saff i mi guddio, ARGLWYDD! Gad i'r Duw Goruchaf fod yn hafan ddiogel i ti,
Psal WelBeibl 91:10  a fyddi di ddim yn cael unrhyw niwed. Fydd dim haint yn dod yn agos i dy gartref di.
Psal WelBeibl 91:11  Achos bydd e'n gorchymyn i'w angylion dy amddiffyn di lle bynnag rwyt ti'n mynd.
Psal WelBeibl 91:12  Byddan nhw'n dy ddal yn eu breichiau fel na fyddi'n taro dy droed ar garreg.
Psal WelBeibl 91:13  Byddi di'n sathru'r llew a'r cobra dan draed; fydd llewod ifanc a nadroedd ddim yn beryg i ti.
Psal WelBeibl 91:14  “Dw i'n mynd i gadw'r un sy'n ffyddlon i mi yn saff,” meddai'r ARGLWYDD; “bydda i'n amddiffyn yr un sy'n fy nabod i.
Psal WelBeibl 91:15  Pan fydd e'n galw arna i, bydda i'n ateb. Bydda i gydag e drwy bob argyfwng. Bydda i'n ei achub e ac yn ei anrhydeddu.
Psal WelBeibl 91:16  Bydd e'n cael byw i oedran teg, a mwynhau bywyd, am fy mod wedi'i achub.”