DEUTERONOMY
Chapter 10
Deut | WelBeibl | 10:1 | “Dyna pryd y dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, ‘Cerfia ddwy lechen garreg, fel y rhai cyntaf, a hefyd gwna gist o bren; yna tyrd i fyny'r mynydd ata i. | |
Deut | WelBeibl | 10:2 | Gwna i ysgrifennu ar y ddwy lechen yr union eiriau oedd ar y llechi cyntaf, y rhai wnest ti eu torri. Yna rhaid i ti eu rhoi nhw yn y gist.’ | |
Deut | WelBeibl | 10:3 | “Felly dyma fi'n gwneud cist o goed acasia, a cherfio dwy lechen garreg oedd yr un fath â'r rhai cyntaf. Wedyn dyma fi'n mynd i fyny'r mynydd yn cario'r ddwy lechen. | |
Deut | WelBeibl | 10:4 | A dyma'r ARGLWYDD yn ysgrifennu'r un geiriau ag o'r blaen ar y ddwy lechen, sef y Deg Gorchymyn (beth roedd e wedi'i ddweud wrthoch chi o ganol y tân ar y mynydd, pan oeddech chi wedi casglu at eich gilydd). Yna dyma fe'n eu rhoi nhw i mi, | |
Deut | WelBeibl | 10:5 | a dyma fi'n mynd yn ôl i lawr o'r mynydd, a'u rhoi nhw yn y gist roeddwn i wedi'i gwneud. Maen nhw'n dal tu mewn i'r gist hyd heddiw. Dyna roedd yr ARGLWYDD wedi'i orchymyn. | |
Deut | WelBeibl | 10:6 | “Teithiodd pobl Israel o ffynhonnau Bene-iacân i Mosera. Dyna pryd fuodd Aaron farw, a chael ei gladdu, a dyma'i fab Eleasar yn dod yn offeiriad yn ei le. | |
Deut | WelBeibl | 10:7 | Wedyn dyma nhw'n mynd ymlaen i Gwdgoda, ac yna i Iotbatha, lle roedd lot fawr o nentydd. | |
Deut | WelBeibl | 10:8 | A dyna pryd wnaeth yr ARGLWYDD ddewis llwyth Lefi i gario Arch ymrwymiad yr ARGLWYDD, ac i'w wasanaethu fel offeiriaid a bendithio'r bobl ar ei ran. Ac maen nhw'n dal i wneud hynny hyd heddiw. | |
Deut | WelBeibl | 10:9 | A dyna pam nad oes gan lwyth Lefi dir, fel y llwythau eraill. Yr ARGLWYDD ei hun ydy eu siâr nhw, fel roedd yr ARGLWYDD wedi addo i Lefi. | |
Deut | WelBeibl | 10:10 | “Dyma fi'n aros ar y mynydd fel y gwnes i y tro cyntaf, ddydd a nos am bedwar deg diwrnod. A dyma'r ARGLWYDD yn gwrando arna i eto, a phenderfynu peidio'ch dinistrio chi. | |
Deut | WelBeibl | 10:11 | Dyma fe'n dweud wrtho i, ‘Dos, ac arwain y bobl yma i gymryd y tir wnes i ei addo i'w hynafiaid.’ | |
Deut | WelBeibl | 10:12 | “Nawr, bobl Israel, beth mae'r ARGLWYDD eich Duw eisiau i chi ei wneud? Mae e eisiau i chi ei barchu, byw fel mae e wedi gorchymyn i chi, ei garu, ei wasanaethu â'ch holl galon ac â'ch holl enaid, | |
Deut | WelBeibl | 10:13 | a chadw'r gorchmynion a'r arweiniad dw i'n eu pasio ymlaen i chi heddiw. Wedyn bydd pethau'n mynd yn dda i chi. | |
Deut | WelBeibl | 10:14 | Yr ARGLWYDD sydd biau popeth sy'n bodoli – y ddaear a'r cwbl sydd arni, a'r awyr, a hyd yn oed y nefoedd uchod. | |
Deut | WelBeibl | 10:15 | Ac eto, eich hynafiaid chi wnaeth e eu caru, a chi, eu disgynyddion, wnaeth e eu dewis. | |
Deut | WelBeibl | 10:17 | Mae'r ARGLWYDD eich Duw yn fwy pwerus na'r duwiau eraill i gyd, ac yn Feistr ar bob meistr arall. Fe ydy'r Duw mawr, cryf a rhyfeddol, sy'n ddiduedd, a byth yn derbyn breib. | |
Deut | WelBeibl | 10:18 | Mae e'n gwneud yn siŵr fod plant amddifad a gweddwon yn cael cyfiawnder, ac mae e'n caru'r mewnfudwyr, ac yn rhoi bwyd a dillad iddyn nhw. | |
Deut | WelBeibl | 10:19 | Felly dylech chithau hefyd ddangos cariad at fewnfudwyr, achos pobl o'r tu allan oeddech chi yng ngwlad yr Aifft. | |
Deut | WelBeibl | 10:20 | Rhaid i chi barchu'r ARGLWYDD eich Duw, ei wasanaethu, aros yn ffyddlon iddo, a defnyddio'i enw e'n unig i dyngu llw. | |
Deut | WelBeibl | 10:21 | Fe ydy'r un i'w foli. Fe ydy'ch Duw chi, yr un dych chi wedi'i weld yn gwneud pethau rhyfeddol ar eich rhan chi. | |