Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 17
Ezek WelBeibl 17:2  “Ddyn, dyma bos i ti ei rannu gyda phobl Israel. Stori iddyn nhw.
Ezek WelBeibl 17:3  Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Eryr mawr a'i adenydd enfawr a'i blu hir ar eu blaenau. Daeth eryr a'i wisg amryliw draw i Libanus. Pigo coron y goeden gedrwydd
Ezek WelBeibl 17:4  a thorri ei brigyn uchaf. Ei gario i ffwrdd i wlad masnachwyr, a'i blannu yn ninas y farchnad.
Ezek WelBeibl 17:5  Cymerodd un o hadau'r wlad a'i blannu mewn pridd da, yn sbrigyn wedi'i osod ar lan y dŵr fel coeden helygen.
Ezek WelBeibl 17:6  Blagurodd, a throi yn winwydden yn tyfu a lledu'n isel. Roedd ei gwreiddiau oddi tanodd a'i changhennau'n ymestyn at yr eryr. Tyfodd ei changhennau a daeth dail ar ei brigau.
Ezek WelBeibl 17:7  Ond roedd eryr mawr arall, gydag adenydd enfawr a thrwch o blu hardd. A dyma'r winwydden yn troi ei gwreiddiau at hwnnw, ac yn ymestyn ei changhennau ato i gael ei dyfrio ganddo.
Ezek WelBeibl 17:8  Roedd wedi'i phlannu mewn pridd da ar lan digonedd o ddŵr, i'w changhennau ledu ac i ffrwyth dyfu arni, yn winwydden hardd.’
Ezek WelBeibl 17:9  Ond dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Fydd hi'n llwyddo? Na – bydd yr eryr yn ei chodi o'r gwraidd, yn tynnu ei ffrwyth oddi arni a'i gadael i bydru. Bydd ei dail ir yn gwywo. Fydd dim angen byddin fawr gref i dynnu ei gwreiddiau o'r pridd.
Ezek WelBeibl 17:10  Ar ôl ei thrawsblannu, fydd hi'n llwyddo? Na – bydd gwynt poeth y dwyrain yn chwythu a bydd hi'n crino'n llwyr. Bydd hi'n gwywo yn y tir lle tyfodd!’”
Ezek WelBeibl 17:12  “Dwed wrth rebeliaid anufudd Israel: ‘Does gynnoch chi ddim syniad am beth dw i'n sôn, nac oes?’ Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma'r ystyr. Daeth brenin Babilon i Jerwsalem a chymryd brenin Jwda a'i swyddogion yn garcharorion i Babilon.
Ezek WelBeibl 17:13  Wedyn, dyma frenin Babilon yn gwneud cytundeb gydag un o deulu brenhinol Jwda, a'i gael i addo ar lw y byddai'n ufudd iddo. A gwnaeth yr un peth gyda rhai o bobl bwysig y wlad.
Ezek WelBeibl 17:14  Roedd eisiau cadw'r wlad yn wan, a gwneud yn siŵr na fyddai hi'n gwrthryfela yn ei erbyn. Os oedd hi am gadw ei hunaniaeth, byddai'n rhaid iddi gadw amodau'r cytundeb.
Ezek WelBeibl 17:15  Ond dyma'r un wnaeth y cytundeb yn gwrthryfela yn erbyn brenin Babilon drwy anfon ei lysgenhadon i'r Aifft i ofyn am geffylau rhyfel a byddin fawr. Fydd e'n llwyddo? Ydy e'n mynd i allu torri'r cytundeb ac osgoi cael ei gosbi?
Ezek WelBeibl 17:16  Na, bydd e'n cael ei ladd. Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘bydd e'n marw yn Babilon, gwlad y brenin wnaeth y cytundeb gydag e'n y lle cyntaf a gadael iddo lywodraethu.
Ezek WelBeibl 17:17  Fydd y Pharo gyda'i fyddin fawr a'i holl rym milwrol ddim help o gwbl pan fydd Babilon yn ymosod ar Jerwsalem eto ac yn codi rampiau a thyrau gwarchae yn ei herbyn. Bydd lot fawr o bobl yn cael eu lladd.
Ezek WelBeibl 17:18  Roedd e wedi gwneud cytundeb ar lw ac yna ei dorri; addo bod yn ufudd ac yna torri ei air. Gwylia di, fydd e ddim yn dianc!’
Ezek WelBeibl 17:19  “Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr yn ei ddweud: ‘Mor sicr â'r ffaith mai fi ydy'r Duw byw, dw i'n mynd i'w gosbi e am dorri ei ymrwymiad i mi a'r cytundeb wnaeth e o mlaen i.
Ezek WelBeibl 17:20  Bydd e'n cael ei ddal. Bydda i'n taflu fy rhwyd drosto a mynd ag e'n gaeth i Babilon, a bydda i'n ei farnu yno am iddo fy mradychu i.
Ezek WelBeibl 17:21  Bydd ei filwyr gorau'n cael eu lladd yn y rhyfel, a'r gweddill yn cael eu gwasgaru i bob cyfeiriad. Byddwch chi'n gwybod wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD sy'n dweud beth sydd i ddod.’
Ezek WelBeibl 17:22  “Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i gymryd sbrigyn o ben uchaf y goeden gedrwydd; bydda i'n ei bigo o goron y goeden, a'i blannu ar ben mynydd uchel.
Ezek WelBeibl 17:23  Bydda i'n ei blannu ar fynydd uchaf Israel. Bydd yn tyfu'n goeden gedrwydd hardd ffrwythlon, a bydd adar o bob math yn nythu ynddi ac yn cysgodi dan ei changhennau.
Ezek WelBeibl 17:24  Bydd pob coeden yng nghefn gwlad yn cydnabod mai fi ydy'r ARGLWYDD. Fi sy'n gwneud y goeden fawr yn fach a'r goeden fach yn fawr. Fi sy'n gwneud i goeden ir grino, ac i goeden farw flaguro eto. Fi ydy'r ARGLWYDD, a bydd beth dw i'n ddweud yn digwydd!’”