EZEKIEL
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
Chapter 19
| Ezek | WelBeibl | 19:2 | Dwed fel hyn: ‘Sut un oedd dy fam di? Onid llewes gyda'r llewod, yn gorwedd gyda'r llewod ifanc ac yn magu ei chenawon? | |
| Ezek | WelBeibl | 19:3 | Magodd un o'i chenawon, a thyfodd i fod yn llew ifanc cryf. Dysgodd sut i hela a rhwygo'i ysglyfaeth; roedd yn bwyta cnawd dynol. | |
| Ezek | WelBeibl | 19:4 | Clywodd y gwledydd o'i gwmpas amdano, a chafodd ei ddal yn eu trap. Dyma nhw'n ei gymryd gyda bachau yn gaeth i'r Aifft. | |
| Ezek | WelBeibl | 19:5 | Pan welodd y fam ei fod wedi mynd, a bod ei gobaith wedi chwalu, cymerodd un arall o'i chenawon, a'i fagu i fod yn llew ifanc cryf. | |
| Ezek | WelBeibl | 19:6 | Cerddodd yng nghanol y llewod, wedi tyfu i fod yn llew ifanc cryf. Dysgodd sut i hela a rhwygo'i ysglyfaeth; roedd yn bwyta cnawd dynol. | |
| Ezek | WelBeibl | 19:7 | Cymerodd y gweddwon iddo'i hun a dinistrio'r trefi'n llwyr. Pan oedd yn rhuo, roedd yn codi ofn ar bawb drwy'r wlad. | |
| Ezek | WelBeibl | 19:8 | Daeth byddinoedd y gwledydd o'i gwmpas i ymosod arno. Dyma nhw'n taflu eu rhwyd drosto a'i ddal yn eu trap; | |
| Ezek | WelBeibl | 19:9 | rhoi coler a bachyn am ei wddf, a mynd ag e at frenin Babilon. Cafodd ei ddal yn gaeth yn y carchar fel bod ei ruo i'w glywed ddim mwy ar fynyddoedd Israel. | |
| Ezek | WelBeibl | 19:10 | Roedd dy fam fel gwinwydden gyda brigau hir wedi'i phlannu ar lan y dŵr. Roedd ei changhennau yn llawn ffrwyth am fod digon o ddŵr iddi. | |
| Ezek | WelBeibl | 19:11 | Tyfodd ei changhennau'n ddigon cryf i wneud teyrnwialen brenin ohonyn nhw. Tyfodd yn uchel at y cymylau; roedd pawb yn ei gweld am ei bod mor dal ac mor ganghennog. | |
| Ezek | WelBeibl | 19:12 | Ond cafodd ei thynnu o'r gwraidd a'i thaflu ar lawr. Chwythodd gwynt poeth y dwyrain a chrino ei changhennau ffrwythlon. Llosgodd yn y tân. | |