Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
EZEKIEL
Prev Up Next
Chapter 29
Ezek WelBeibl 29:1  Roedd hi ddeg mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y deuddegfed diwrnod o'r degfed mis. Dyma'r ARGLWYDD yn rhoi'r neges yma i mi:
Ezek WelBeibl 29:2  “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu'r Pharo, brenin yr Aifft, a proffwydo yn ei erbyn e a holl wlad yr Aifft.
Ezek WelBeibl 29:3  Dyma rwyt ti i'w ddweud, ‘Dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i ddelio gyda ti! y Pharo, brenin yr Aifft; y ddraig fawr sy'n gorwedd yng nghanol ei ffosydd. “Fi piau afon Nîl,” meddet ti, “a fi sydd wedi'i chreu hi.”
Ezek WelBeibl 29:4  Bydda i'n rhoi bachyn yn dy ên ac yn dy lusgo allan o'r dŵr gyda physgod o'r ffosydd yn glynu wrth dy groen.
Ezek WelBeibl 29:5  Bydda i'n dy daflu i'r anialwch, ti a physgod y ffosydd. Byddi'n gorwedd, heb dy gladdu, i farw ar dir agored – yn fwyd i'r anifeiliaid ac i'r adar.
Ezek WelBeibl 29:6  Yna bydd pawb sy'n byw yn yr Aifft yn gweld mai fi ydy'r ARGLWYDD. Rwyt wedi bod yn ffon fagl wan fel brwynen i bobl Israel bwyso arni.
Ezek WelBeibl 29:7  Dyma nhw'n gafael ynot, ond dyma ti'n torri ac yn bwrw eu hysgwydd o'i lle. Wrth iddyn nhw bwyso arnat dyma ti'n hollti a gadael eu cluniau'n sigledig.
Ezek WelBeibl 29:8  “‘Felly, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n anfon byddin i ymosod arnat ti, a bydd yr holl bobl a'r anifeiliaid yn cael eu lladd.
Ezek WelBeibl 29:9  Bydd yr Aifft yn dir diffaith gwag. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD. “‘Am dy fod wedi dweud, “Fi piau afon Nîl, a fi sydd wedi'i chreu hi,”
Ezek WelBeibl 29:10  dw i'n mynd i ddelio gyda ti a dy ffosydd. Dw i'n mynd i droi gwlad yr Aifft yn anialwch diffaith yr holl ffordd o Migdol yn y gogledd i Aswan yn y de, sydd ar y ffin gydag Ethiopia.
Ezek WelBeibl 29:11  Fydd neb yn gallu byw yno am bedwar deg o flynyddoedd – fydd dim pobl nac anifeiliaid yn crwydro yno.
Ezek WelBeibl 29:12  Bydda i'n gwneud gwlad yr Aifft yn anialwch gwaeth nag unrhyw wlad. Bydd ei threfi a'i dinasoedd yn adfeilion. Bydd pobl yr Aifft yn cael eu gyrru ar chwâl drwy'r gwledydd i gyd.
Ezek WelBeibl 29:13  “‘Ond yna, dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Ar ddiwedd y pedwar deg mlynedd bydda i'n casglu pobl yr Aifft o'r gwledydd lle roedden nhw ar chwâl.
Ezek WelBeibl 29:14  Bydda i'n adfer sefyllfa pobl yr Aifft a dod â nhw yn ôl i ardal Pathros, i wlad eu mebyd. Ond gwlad ddi-nod fydd yr Aifft.
Ezek WelBeibl 29:15  Bydd hi'n un o'r gwledydd lleia dylanwadol, a fydd hi byth yn rheoli gwledydd eraill eto.
Ezek WelBeibl 29:16  A fydd Israel ddim yn pwyso arni byth eto. Bydd hi'n atgoffa Israel o'i phechod yn troi at yr Aifft am help. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.’”
Ezek WelBeibl 29:17  Roedd hi ddau ddeg saith mlynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar ddiwrnod cynta'r flwyddyn. A dyma fi'n cael neges gan yr ARGLWYDD:
Ezek WelBeibl 29:18  “Ddyn, mae byddin Nebwchadnesar brenin Babilon wedi brwydro'n galed yn erbyn Tyrus. Maen nhw wedi gweithio'u bysedd at yr asgwrn, ond dydy'r milwyr wedi ennill dim ar ôl yr holl ymdrech!
Ezek WelBeibl 29:19  Felly dyma mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft yn nwylo Nebwchadnesar, brenin Babilon. Bydd e'n cymryd holl gyfoeth y wlad ac yn ysbeilio'i thrysorau i dalu cyflog i'w filwyr.
Ezek WelBeibl 29:20  Dw i'n mynd i roi gwlad yr Aifft iddo i'w ddigolledu am yr holl ymdrech yn ymosod ar Tyrus. Mae e wedi bod yn gwneud hyn i mi.” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
Ezek WelBeibl 29:21  “Bryd hynny bydda i'n gwneud Israel yn wlad gref unwaith eto, a bydd pobl yn gwrando ar beth rwyt ti'n ddweud. Byddan nhw'n deall wedyn mai fi ydy'r ARGLWYDD.”