Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
HAGGAI
Up
1 2
Chapter 1
Hagg WelBeibl 1:1  Ar ddiwrnod cynta'r chweched mis o ail flwyddyn teyrnasiad y Brenin Dareius, dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr ARGLWYDD i Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a hefyd i Jehoshwa fab Iehotsadac, yr archoffeiriad:
Hagg WelBeibl 1:2  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: Mae'r bobl yma'n dweud, ‘Mae'n rhy fuan i ni ailadeiladu teml yr ARGLWYDD.’”
Hagg WelBeibl 1:3  Ond yna dyma'r proffwyd Haggai yn rhoi'r neges yma gan yr ARGLWYDD:
Hagg WelBeibl 1:4  “Ydy hi'n iawn eich bod chi'n byw yn eich tai crand, tra mae'r deml yma yn adfail?
Hagg WelBeibl 1:5  Felly dyma mae yr ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!
Hagg WelBeibl 1:6  Dych chi wedi hau digon, ond bach iawn ydy'r cynhaeaf; dych chi'n bwyta, ond byth yn cael eich llenwi; dych chi'n yfed, ond heb gael eich bodloni; dych chi'n gwisgo dillad, ond yn methu cadw'n gynnes; mae fel petai'r cyflog mae pobl yn ei ennill yn mynd i bwrs sydd â thwll ynddo!
Hagg WelBeibl 1:7  Ie, meddyliwch am funud beth dych chi'n wneud!’ —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Hagg WelBeibl 1:8  ‘Ewch i'r bryniau a dod â coed yn ôl i adeiladu'r deml; bydd hynny'n fy mhlesio, a bydd pobl yn fy mharchu,’ —meddai'r ARGLWYDD.
Hagg WelBeibl 1:9  ‘Roeddech chi'n disgwyl cnydau da, ond yn cael cnydau gwael. Roeddech chi'n ei gasglu, ond yna byddwn i'n ei chwythu i ffwrdd!’ —meddai'r ARGLWYDD hollbwerus. ‘Pam? – Am fod fy nhŷ i yn adfeilion, a chithau'n rhy brysur yn poeni amdanoch chi'ch hunain!
Hagg WelBeibl 1:10  Dyna pam mae'r awyr heb roi gwlith, a'r tir wedi peidio tyfu cnydau.
Hagg WelBeibl 1:11  Fi sydd wedi anfon sychder drwy'r wlad – ar y bryniau, ar yr ŷd a'r grawnwin a'r olewydd a phopeth arall sy'n tyfu o'r ddaear, ar bobl ac anifeiliaid, ac ar ffrwyth eich holl waith caled.’”
Hagg WelBeibl 1:12  Dyma Serwbabel fab Shealtiel, Jehoshwa fab Iehotsadac yr archoffeiriad, a phawb arall, yn gwneud beth roedd yr ARGLWYDD eu Duw yn ei ddweud, a gwrando ar neges Haggai, y proffwyd roedd e wedi'i anfon. Roedd y bobl yn parchu'r ARGLWYDD eto.
Hagg WelBeibl 1:13  Yna dyma Haggai, negesydd yr ARGLWYDD, yn rhoi neges arall gan Dduw i'r bobl, “‘Dw i gyda chi,’ meddai'r ARGLWYDD.”
Hagg WelBeibl 1:14  Dyma'r ARGLWYDD yn annog Serwbabel fab Shealtiel (llywodraethwr Jwda), Jehoshwa fab Iehotsadac (yr archoffeiriad), a phawb arall hefyd i weithredu: a dyma nhw'n bwrw iddi â'r gwaith o adeiladu teml eu Duw, yr ARGLWYDD hollbwerus.
Hagg WelBeibl 1:15  Dechreuodd y gwaith ar y pedwerydd ar hugain o'r chweched mis.
Chapter 2
Hagg WelBeibl 2:1  Yna ar yr unfed ar hugain o'r seithfed mis yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, dyma'r proffwyd Haggai yn cael y neges yma gan yr ARGLWYDD:
Hagg WelBeibl 2:2  “Dos i siarad â Serwbabel fab Shealtiel, llywodraethwr Jwda, a'r archoffeiriad Jehoshwa fab Iehotsadac. Dwed wrthyn nhw, a phawb arall hefyd:
Hagg WelBeibl 2:3  ‘Pwy ohonoch chi yma welodd y deml fel roedd hi ers talwm, yn ei holl ysblander? A sut mae'n edrych i chi nawr? Dim byd o'i chymharu mae'n siŵr!
Hagg WelBeibl 2:4  Ond dal ati, Serwbabel. Dal ati, Jehoshwa fab Iehotsadac. A daliwch chithau ati, bawb,’—meddai'r ARGLWYDD. ‘Daliwch ati i weithio, oherwydd dw i gyda chi’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Hagg WelBeibl 2:5  ‘Fel gwnes i addo i chi pan ddaethoch chi allan o wlad yr Aifft, mae fy Ysbryd yn dal gyda chi. Peidiwch bod ag ofn!’”
Hagg WelBeibl 2:6  “Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: ‘Unwaith eto, cyn bo hir, dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear, y môr a'r tir.
Hagg WelBeibl 2:7  Bydda i'n ysgwyd y gwledydd i gyd. Byddan nhw'n dod ac yn cyflwyno'u trysorau, a bydda i'n llenwi'r deml yma â chyfoeth ac ysblander,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Hagg WelBeibl 2:8  ‘Fi piau'r arian, a fi piau'r aur,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus.
Hagg WelBeibl 2:9  ‘Bydd y deml yma yn llawer harddach yn y dyfodol nag oedd hi o'r blaen,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus; ‘a bydda i'n dod â llwyddiant a heddwch i'r lle yma.’ Ydy, mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi dweud.”
Hagg WelBeibl 2:10  Ar y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis yn yr ail flwyddyn i'r Brenin Dareius deyrnasu, cafodd y proffwyd Haggai y neges yma gan yr ARGLWYDD:
Hagg WelBeibl 2:11  Dyma mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud: “Gofynnwch i'r offeiriaid am arweiniad o'r Gyfraith:
Hagg WelBeibl 2:12  ‘Os ydy rhywun yn cario cig anifail wedi'i aberthu wedi'i lapio yn ei fantell, a'r dilledyn hwnnw wedyn yn cyffwrdd â bara neu stiw, gwin, olew, neu ryw fwyd arall, fydd e'n gwneud y bwydydd hynny'n gysegredig?’” Ateb yr offeiriaid oedd, “Na fydd.”
Hagg WelBeibl 2:13  A dyma Haggai yn gofyn wedyn, “Os ydy rhywun sy'n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw yn dod i gysylltiad â'r bwydydd hynny, fydd hynny'n gwneud y bwydydd yn aflan?” A dyma'r offeiriaid yn ateb, “Bydd.”
Hagg WelBeibl 2:14  Yna dyma Haggai yn dweud: “‘Mae'r un peth yn wir am y bobl yma a'r genedl yma,’ meddai'r ARGLWYDD, ‘a'u cynnyrch nhw i gyd. Mae popeth maen nhw'n ei offrymu yn aflan!
Hagg WelBeibl 2:15  “‘Meddyliwch sut roedd pethau cyn i'r gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddechrau.
Hagg WelBeibl 2:16  Pan oedd rhywun yn disgwyl dau ddeg mesur o ŷd, doedd ond deg yno; ac os oedd rhywun eisiau codi hanner can mesur o win o'r cafn, doedd ond dau ddeg yno.
Hagg WelBeibl 2:17  Rôn i'n eich cosbi chi drwy anfon gormod o wres, gormod o law neu genllysg ar eich cnydau, ond wnaethoch chi ddim troi ata i,’ meddai'r ARGLWYDD.
Hagg WelBeibl 2:18  “‘Meddyliwch sut mae pethau wedi bod ers y diwrnod pan gafodd y sylfeini eu gosod i ailadeiladu teml yr ARGLWYDD, ie, hyd heddiw (y pedwerydd ar hugain o'r nawfed mis):
Hagg WelBeibl 2:19  Falle nad oes grawn yn yr ysgubor, ac nad ydy'r gwinwydd, y coed ffigys, y pomgranadau a'r coed olewydd wedi rhoi eu ffrwyth eto, ond o heddiw ymlaen dw i'n mynd i'ch bendithio chi.’”
Hagg WelBeibl 2:20  A dyma Haggai yn cael ail neges gan yr ARGLWYDD ar y pedwerydd ar hugain o'r mis:
Hagg WelBeibl 2:21  “Dwed hyn wrth Serwbabel, llywodraethwr Jwda: ‘Dw i'n mynd i ysgwyd y nefoedd a'r ddaear.
Hagg WelBeibl 2:22  Dw i'n mynd i chwalu gorseddau brenhinol a dinistrio grym llywodraethau'r gwledydd. Bydda i'n troi'r cerbydau rhyfel drosodd, gyda'i gyrrwyr. Bydd ceffylau rhyfel yn syrthio, a'u marchogion yn lladd ei gilydd.
Hagg WelBeibl 2:23  “‘Y diwrnod hwnnw,’—meddai'r ARGLWYDD hollbwerus—‘bydda i'n dy gymryd di, Serwbabel fy ngwas, ac yn dy wneud di fel sêl-fodrwy. Dw i wedi dy ddewis di.’ Dyna mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddweud.”