Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
I CHRONICLES
Prev Up Next
Chapter 3
I Ch WelBeibl 3:1  Dyma'r meibion gafodd Dafydd pan oedd yn byw yn Hebron: Amnon oedd yr hynaf, plentyn Achinoam o Jesreel. Yr ail oedd Daniel, plentyn Abigail o Carmel, gweddw Nabal.
I Ch WelBeibl 3:2  Y trydydd oedd Absalom, mab Maacha oedd yn ferch i Talmai, brenin Geshwr. Y pedwerydd oedd Adoneia, mab Haggith.
I Ch WelBeibl 3:3  Y pumed oedd Sheffateia mab Abital. Y chweched oedd Ithream, plentyn Egla, gwraig arall iddo.
I Ch WelBeibl 3:4  Cafodd y chwech yma eu geni pan oedd Dafydd yn Hebron. Roedd yn frenin yno am saith mlynedd a hanner. Yna roedd yn frenin yn Jerwsalem am dri deg tair o flynyddoedd.
I Ch WelBeibl 3:5  A dyma'r meibion gafodd e yno: Shamma, Shofaf, Nathan, a Solomon. Mam y pedwar oedd Bathseba ferch Ammiel.
I Ch WelBeibl 3:6  Naw mab arall Dafydd oedd: Ifchar, Elishwa, Eliffelet,
I Ch WelBeibl 3:9  Meibion Dafydd oedd y rhain i gyd, heb gyfri plant ei bartneriaid. Tamar oedd eu chwaer nhw.
I Ch WelBeibl 3:10  Mab Solomon oedd Rehoboam, wedyn Abeia, ei fab e, ac yn y blaen drwy Asa, Jehosaffat,
I Ch WelBeibl 3:15  a'i bedwar mab e, Iochanan (yr hynaf), yna Jehoiacim, Sedeceia, a Shalwm.
I Ch WelBeibl 3:17  Meibion Jehoiachin (gafodd ei gaethgludo): Shealtiel,
I Ch WelBeibl 3:18  Malciram, Pedaia, Shenatsar, Iecameia, Hoshama, a Nedabeia.
I Ch WelBeibl 3:19  Meibion Pedaia: Serwbabel a Shimei. Meibion Serwbabel: Meshwlam a Chananeia; a Shlomit oedd eu chwaer nhw.
I Ch WelBeibl 3:20  Hefyd pump arall, sef Chashwfa, Ohel, Berecheia, Chasadeia, a Iwshaf-chesed.
I Ch WelBeibl 3:21  Disgynyddion Chananeia: Plateia a Ieshaia, meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, a meibion Shechaneia.
I Ch WelBeibl 3:22  Disgynyddion Shechaneia: Shemaia a'i feibion: Chattwsh, Igal, Barîach, Nearia, a Shaffat – chwech i gyd.
I Ch WelBeibl 3:23  Meibion Nearia: Elioenai, Heseceia, ac Asricam, tri.
I Ch WelBeibl 3:24  Meibion Elioenai: Hodafiâ, Eliashif, Pelaia, Accwf, Iochanan, Delaia, ac Anani – saith i gyd.