ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 20
Isai | WelBeibl | 20:1 | Roedd hi'r flwyddyn yr anfonodd Sargon, brenin Asyria, ei brif swyddog milwrol i ymosod ar dref Ashdod, a'i choncro. | |
Isai | WelBeibl | 20:2 | Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Eseia fab Amos, a dweud, “Dos, datod y sachliain oddi amdanat, a thynna dy sandalau i ffwrdd.” A dyma Eseia yn gwneud hynny, a cherdded o gwmpas yn noeth a heb ddim am ei draed. | |
Isai | WelBeibl | 20:3 | Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Arwydd ydy hwn sy'n rhybudd i'r Aifft a theyrnas Cwsh yn nwyrain Affrica: Fel mae fy ngwas Eseia wedi cerdded o gwmpas am dair blynedd yn noeth a heb ddim am ei draed, | |
Isai | WelBeibl | 20:4 | bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid i ffwrdd, ac yn caethgludo pobl Cwsh – ifanc a hen, yn noeth a heb ddim am eu traed, a'u tinau yn y golwg – bydd yn sarhad ar yr Aifft! | |
Isai | WelBeibl | 20:5 | Byddan nhw'n ddigalon, a bydd ganddyn nhw gywilydd o'r Affricaniaid (y rhai roedden nhw wedi gobeithio ynddyn nhw), a'r Aifft (y rhai roedden nhw'n eu brolio). | |