Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 47
Isai WelBeibl 47:1  “I lawr â ti! Eistedd yn y llwch, o wyryf, ferch Babilon. Eistedd ar lawr, ferch y Babiloniaid, mae dy ddyddiau ar yr orsedd wedi darfod. Gei di ddim dy alw yn dyner ac yn dlos byth eto.
Isai WelBeibl 47:2  Gafael yn y felin law i falu blawd. Tyn dy fêl, rhwyga dy wisg, a dangos dy goesau wrth gerdded drwy afonydd.
Isai WelBeibl 47:3  Byddi'n gwbl noeth, a bydd dy rannau preifat yn y golwg. Dw i'n mynd i ddial, a fydd neb yn fy rhwysto i.”
Isai WelBeibl 47:4  Dyna mae'r un sy'n ein gollwng ni'n rhydd yn ei ddweud —yr ARGLWYDD hollbwerus ydy ei enw— Un Sanctaidd Israel.
Isai WelBeibl 47:5  “Eistedd yn dawel! Dos i'r tywyllwch, ferch y Babiloniaid. Gei di ddim dy alw yn ‛Feistres y Teyrnasoedd‛ byth eto.
Isai WelBeibl 47:6  Rôn wedi digio gyda'm pobl, felly cosbais fy etifeddiaeth; rhoddais nhw yn dy ddwylo di, ond wnest ti ddangos dim trugaredd atyn nhw. Roeddet ti hyd yn oed yn cam-drin pobl mewn oed.
Isai WelBeibl 47:7  ‘Fi fydd y feistres am byth,’ meddet ti. Wnest ti ddim meddwl am funud beth fyddai'n digwydd yn y diwedd.
Isai WelBeibl 47:8  Felly, gwrando ar hyn, ti sy wedi dy sbwylio – ti sy'n ofni neb na dim, ac yn meddwl, ‘Fi ydy'r un – does neb tebyg i mi! Fydda i byth yn weddw, nac yn gwybod beth ydy colli plant.’
Isai WelBeibl 47:9  Ond yn sydyn bydd y ddau beth yn digwydd ar yr un diwrnod: colli dy blant a chael dy hun yn weddw. Byddi'n cael dy lethu'n llwyr ganddyn nhw, er gwaetha dy holl ddewino a'th swynion gorau.
Isai WelBeibl 47:10  Roeddet ti mor hunanfodlon yn dy ddrygioni, ac yn meddwl, ‘Does neb yn fy ngweld i.’ Roedd dy ddoethineb a dy glyfrwch yn dy arwain ar gyfeiliorn, ac roeddet ti'n dweud wrthot ti dy hun, ‘Fi ydy'r un – does neb tebyg i mi!’
Isai WelBeibl 47:11  Ond mae dinistr yn dod, a fydd dy holl swynion ddim yn ei gadw draw. Mae trychineb ar fin disgyn, a fyddi di ddim yn gallu ei droi i ffwrdd. Yn sydyn bydd dinistr yn dod arnat heb yn wybod.
Isai WelBeibl 47:12  Dal ati gyda dy swynion a'th ddewino – rwyt wedi bod yn ymarfer ers pan oeddet ti'n blentyn! Falle y cei di help! Falle gwnei di ddychryn y gelyn!
Isai WelBeibl 47:13  Ti'n gwastraffu dy amser yn gwrando ar holl gynghorion y rhai sy'n syllu i'r awyr ac yn darllen y sêr, ac yn dweud o fis i fis beth sy'n mynd i ddigwydd i ti! Gad iddyn nhw sefyll i fyny a dy achub di!
Isai WelBeibl 47:14  Maen nhw fel gwellt yn cael ei losgi'n y tân. Allan nhw ddim achub eu hunain rhag gwres y fflamau cryfion. Nid glo i dwymo wrtho ydy hwn, neu dân i eistedd o'i flaen!
Isai WelBeibl 47:15  Dyna faint o help ydyn nhw i ti – y rhai buost ti'n delio gyda nhw ers pan oeddet ti'n blentyn. Maen nhw i gyd wedi mynd eu ffordd eu hunain, a does neb ar ôl i dy achub di!”