ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 8
Isai | WelBeibl | 8:1 | Yna dwedodd yr ARGLWYDD wrtho i, “Dos i nôl hysbysfwrdd mawr ac ysgrifenna arno'n glir ‘I Maher-shalal-has-bas’.” | |
Isai | WelBeibl | 8:2 | Dyma fi'n cymryd dau dyst gyda mi, dynion y gallwn i ddibynnu arnyn nhw, sef Wreia yr offeiriad a Sechareia fab Ieberecheia. | |
Isai | WelBeibl | 8:3 | Wedyn dyma fi'n gorwedd gyda'm gwraig a dyma hi'n beichiogi. Bachgen gafodd hi, a dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i, “Galw fe'n Maher-shalal-has-bas, | |
Isai | WelBeibl | 8:4 | achos cyn i'r bachgen allu dweud ‘dad’ neu ‘mam’, bydd brenin Asyria wedi cymryd cyfoeth Damascus a Samaria i gyd.” | |
Isai | WelBeibl | 8:6 | “Mae'r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa, sy'n llifo'n dawel, ac wedi plesio Resin a mab Remaleia. | |
Isai | WelBeibl | 8:7 | Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryf yr Ewffrates lifo drostyn nhw – sef brenin Asyria a'i fyddin. Bydd fel afon yn torri allan o'i sianelau, ac yn gorlifo'i glannau. | |
Isai | WelBeibl | 8:8 | Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogydd ac yn codi at y gwddf. Mae ei adenydd wedi'u lledu dros dy dir i gyd, Emaniwel!” | |
Isai | WelBeibl | 8:9 | Casglwch i ryfel, chi bobloedd – ond cewch eich dryllio! Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw'r byd: paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio; paratowch i ryfela – ond cewch eich dryllio! | |
Isai | WelBeibl | 8:10 | Cynlluniwch strategaeth – ond bydd yn methu! Cytunwch beth i'w wneud – ond fydd e ddim yn llwyddo. Achos mae Duw gyda ni! | |
Isai | WelBeibl | 8:11 | Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i – fel petai'n gafael ynof fi a'm rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â'r bobl yma: | |
Isai | WelBeibl | 8:12 | “Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’ bob tro mae'r bobl yma'n dweud fod cynllwyn! Does dim rhaid dychryn na bod ag ofn beth maen nhw'n ei ofni. | |
Isai | WelBeibl | 8:13 | Yr ARGLWYDD hollbwerus ydy'r un i'w barchu! Fe ydy'r unig un i'w ofni, a dychryn rhagddo! | |
Isai | WelBeibl | 8:14 | Bydd e'n gysegr – ond i ddau deulu brenhinol Israel bydd yn garreg sy'n baglu pobl a chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio. Bydd fel trap neu fagl i'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem. | |
Isai | WelBeibl | 8:15 | Bydd llawer yn baglu, yn syrthio ac yn cael eu dryllio; ac eraill yn cael eu rhwymo a'u dal.” | |
Isai | WelBeibl | 8:16 | Bydd y rhybudd yma'n cael ei rwymo, a'r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a'i chadw gan fy nisgyblion i. | |
Isai | WelBeibl | 8:17 | Dw i'n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i'n ei drystio fe! | |
Isai | WelBeibl | 8:18 | Dyma fi, a'r plant mae'r ARGLWYDD wedi'u rhoi i mi. Maen nhw'n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD hollbwerus, sy'n byw ar Fynydd Seion. | |
Isai | WelBeibl | 8:19 | Bydd pobl yn dweud wrthoch chi, “Ewch i holi'r swynwyr a'r dewiniaid sy'n sgrechian a griddfan. Oni ddylai pobl geisio'u ‛duwiau‛ – holi'r meirw ar ran y byw?” | |
Isai | WelBeibl | 8:20 | “At y gyfraith a'r dystiolaeth! Os nad ydyn nhw'n siarad yn gyson â'r neges yma, maen nhw yn y tywyllwch.” | |
Isai | WelBeibl | 8:21 | Maen nhw'n cerdded o gwmpas mewn eisiau a newyn. Am eu bod yn llwgu byddan nhw'n gwylltio ac yn melltithio'u brenin a'u ‛duwiau‛, wrth edrych i fyny. | |