Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 46
Isai WelBeibl 46:1  Mae Bel ar ei liniau, a Nabw yn gorwedd ar ei wyneb. Baich ar gefn anifeiliaid ydy eu delwau nhw, pethau mae'n rhaid eu cario – llwyth trwm ar gefn anifeiliaid blinedig!
Isai WelBeibl 46:2  Maen nhw hefyd wedi syrthio a phlygu gyda'i gilydd; doedd dim modd arbed y llwyth, ac maen nhw ar eu ffordd i'r gaethglud.
Isai WelBeibl 46:3  “Gwrandwch arna i, bobl Jacob, a phawb sydd ar ôl o bobl Israel. Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth, a dw i wedi'ch cynnal chi ers i chi gael eich geni.
Isai WelBeibl 46:4  A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi'n hen; bydda i'n dal i'ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi'n wyn! Fi wnaeth chi, a fi sy'n eich cario chi – fi sy'n gwneud y cario, a fi sy'n achub.
Isai WelBeibl 46:5  Pwy sy'n cymharu hefo fi? Oes rhywun tebyg i mi? Dwedwch i bwy dw i'n debyg? Oes rhywun sydd yr un fath â mi?
Isai WelBeibl 46:6  Mae rhai pobl yn gwagio'r aur o'u pwrs ac yn pwyso'u harian mewn clorian, yna'n talu gweithiwr metel i wneud duw iddyn nhw, ac wedyn yn ei addoli a syrthio ar eu hwynebau o'i flaen!
Isai WelBeibl 46:7  Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau, ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed, a dydy e ddim yn gallu symud! Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb; a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i drafferthion!
Isai WelBeibl 46:8  Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith! Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr!
Isai WelBeibl 46:9  Cofiwch beth dw i wedi'i wneud yn y gorffennol. Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod. Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi.
Isai WelBeibl 46:10  Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto. Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd; dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’
Isai WelBeibl 46:11  Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o'r dwyrain, yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i. Pan dw i'n dweud rhywbeth, mae'n siŵr o ddigwydd; fi sydd wedi'i gynllunio, a bydda i'n siŵr o'i wneud!
Isai WelBeibl 46:12  Gwrandwch arna i, chi bobl benstiff, sy'n cadw draw oddi wrth beth sy'n iawn:
Isai WelBeibl 46:13  dw i ar fin gwneud pethau'n iawn; dydy hyn ddim yn y dyfodol pell – fydd achubiaeth ddim yn cael ei gohirio. Dw i'n mynd i achub Seion! A rhoi fy ysblander i Israel!”