ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 46
Isai | WelBeibl | 46:1 | Mae Bel ar ei liniau, a Nabw yn gorwedd ar ei wyneb. Baich ar gefn anifeiliaid ydy eu delwau nhw, pethau mae'n rhaid eu cario – llwyth trwm ar gefn anifeiliaid blinedig! | |
Isai | WelBeibl | 46:2 | Maen nhw hefyd wedi syrthio a phlygu gyda'i gilydd; doedd dim modd arbed y llwyth, ac maen nhw ar eu ffordd i'r gaethglud. | |
Isai | WelBeibl | 46:3 | “Gwrandwch arna i, bobl Jacob, a phawb sydd ar ôl o bobl Israel. Fi wnaeth eich cario chi pan oeddech chi yn y groth, a dw i wedi'ch cynnal chi ers i chi gael eich geni. | |
Isai | WelBeibl | 46:4 | A bydd pethau yr un fath pan fyddwch chi'n hen; bydda i'n dal i'ch cario chi pan fydd eich gwallt wedi troi'n wyn! Fi wnaeth chi, a fi sy'n eich cario chi – fi sy'n gwneud y cario, a fi sy'n achub. | |
Isai | WelBeibl | 46:5 | Pwy sy'n cymharu hefo fi? Oes rhywun tebyg i mi? Dwedwch i bwy dw i'n debyg? Oes rhywun sydd yr un fath â mi? | |
Isai | WelBeibl | 46:6 | Mae rhai pobl yn gwagio'r aur o'u pwrs ac yn pwyso'u harian mewn clorian, yna'n talu gweithiwr metel i wneud duw iddyn nhw, ac wedyn yn ei addoli a syrthio ar eu hwynebau o'i flaen! | |
Isai | WelBeibl | 46:7 | Mae'n rhaid iddyn nhw ei gario ar eu hysgwyddau, ac wedyn maen nhw'n ei osod ar ei draed, a dydy e ddim yn gallu symud! Os ydy rhywun yn galw arno, dydy e ddim yn ateb; a dydy e ddim yn gallu achub neb o'i drafferthion! | |
Isai | WelBeibl | 46:8 | Cofiwch chi hynny, a dal gafael yn y ffaith! Meddyliwch am y peth, chi wrthryfelwyr! | |
Isai | WelBeibl | 46:9 | Cofiwch beth dw i wedi'i wneud yn y gorffennol. Achos fi sydd Dduw, a does dim un arall yn bod. Fi ydy Duw, a does neb tebyg i mi. | |
Isai | WelBeibl | 46:10 | Dw i'n dweud o'r dechrau beth fydd yn digwydd ar y diwedd, ac yn dangos ymlaen llaw bethau sydd heb ddigwydd eto. Dw i'n dweud: ‘Bydd fy nghynllun i yn digwydd; dw i'n cyflawni popeth dw i'n ei fwriadu.’ | |
Isai | WelBeibl | 46:11 | Fi alwodd yr aderyn rheibus yna o'r dwyrain, yr un ddaeth o bell i gyflawni fy mhwrpas i. Pan dw i'n dweud rhywbeth, mae'n siŵr o ddigwydd; fi sydd wedi'i gynllunio, a bydda i'n siŵr o'i wneud! | |