Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 30
Isai WelBeibl 30:1  “Gwae chi, blant ystyfnig,” meddai'r ARGLWYDD – “yn gwneud cynlluniau sy'n groes i be dw i eisiau, a ffurfio cynghreiriau wnes i ddim eu hysbrydoli! A'r canlyniad? – Pentyrru un pechod ar y llall!
Isai WelBeibl 30:2  Rhuthro i lawr i'r Aifft heb ofyn i mi, a gofyn i'r Pharo eu hamddiffyn a'u cuddio dan gysgod yr Aifft.
Isai WelBeibl 30:3  Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd, a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr,
Isai WelBeibl 30:4  er bod ganddo swyddogion yn Soan a llysgenhadon mor bell â Chanes.
Isai WelBeibl 30:5  Cânt eu cywilyddio'n llwyr, am fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw – dim help o gwbl! Fyddan nhw'n elwa dim, ond yn profi siom a chywilydd.”
Isai WelBeibl 30:6  Neges am ‛Anifeiliaid y Negef‛: Yn nhir trafferthion a chaledi, gwlad y llewes a'r llew cry, y neidr a'r wiber wibiog, maen nhw'n cario'u cyfoeth ar gefn asynnod, a'u trysorau ar gefn camelod, ar ran pobl sy'n dda i ddim.
Isai WelBeibl 30:7  Mae'r Aifft yn ddiwerth! Dŷn nhw ddim help o gwbl! Felly, dw i'n ei galw hi'n “Yr un falch sy'n fud.”
Isai WelBeibl 30:8  Tyrd nawr, ysgrifenna hyn ar lechen a'i gofnodi mewn sgrôl, i fod yn dystiolaeth barhaol i'r dyfodol.
Isai WelBeibl 30:9  Achos maen nhw'n bobl anufudd ac yn blant sy'n twyllo – plant sy'n gwrthod gwrando ar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddysgu.
Isai WelBeibl 30:10  Pobl sy'n dweud wrth y rhai sy'n cael gweledigaethau, “Peidiwch â cheisio gweledigaeth,” ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydo a dweud wrthon ni beth sy'n iawn. Dwedwch bethau neis – er eu bod yn gelwydd!
Isai WelBeibl 30:11  Trowch o'r ffordd! Ewch oddi ar y llwybr iawn! Stopiwch ein hatgoffa ni am Un Sanctaidd Israel!”
Isai WelBeibl 30:12  Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud: Am eich bod wedi gwrthod y neges yma, a dewis rhoi'ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus –
Isai WelBeibl 30:13  bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio, ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae'n syrthio.
Isai WelBeibl 30:14  Bydd yn torri'n ddarnau, fel jwg pridd yn cael ei falu'n deilchion – bydd wedi darfod. Fydd dim un darn yn ddigon o faint i godi marwor o badell dân neu wagio dŵr o bwll.
Isai WelBeibl 30:15  Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud: “Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub; wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.” Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny.
Isai WelBeibl 30:16  “Na,” meddech chi. “Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” – a dyna wnewch chi. “Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” – ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach!
Isai WelBeibl 30:17  Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc; pump yn bygwth a phawb yn dianc. Bydd cyn lleied ar ôl, byddan nhw fel polyn fflag ar ben bryn, neu faner ar ben mynydd.
Isai WelBeibl 30:18  Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi; bydd yn siŵr o godi i faddau i chi. Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn, ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!
Isai WelBeibl 30:19  Wir i chi, bobl Seion – chi sy'n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi.
Isai WelBeibl 30:20  Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi'n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy'n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain.
Isai WelBeibl 30:21  Wrth wyro i'r dde neu droi i'r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi'n dweud: “Dyma'r ffordd; ewch y ffordd yma!”
Isai WelBeibl 30:22  Byddwch yn ffieiddio'r delwau wedi'u gorchuddio ag arian, a'r delwau metel ag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud, “Budreddi!”
Isai WelBeibl 30:23  Bydd e'n rhoi glaw i'r had rwyt wedi'i hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny,
Isai WelBeibl 30:24  a bydd yr ychen a'r asynnod sy'n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda'r ebran gorau, wedi'i nithio â fforch a rhaw.
Isai WelBeibl 30:25  Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel – ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio.
Isai WelBeibl 30:26  Bydd y lleuad yn disgleirio fel yr haul, a bydd yr haul yn disgleirio saith gwaith cryfach nag arfer (fel golau saith diwrnod mewn un!) ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briwiau ei bobl, ac yn iacháu'r anafiadau gawson nhw pan darodd e nhw.
Isai WelBeibl 30:27  Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD ei hun yn dod o bell, yn wyllt gynddeiriog, yn corddi o'i fewn. Mae'n siarad yn ddig, a'i eiriau fel tân yn difa.
Isai WelBeibl 30:28  Mae ei dymer fel llifogydd gwyllt yn cyrraedd at y gwddf. Bydd yn ysgwyd y cenhedloedd mewn gogr i'w dinistrio, ac yn rhoi ffrwyn yng ngheg pobloedd i'w harwain ar gyfeiliorn.
Isai WelBeibl 30:29  Ond byddwch chi'n canu, fel petai'n noson i ddathlu gŵyl. Byddwch yn llawen ac yn dawnsio i gyfeiliant pib wrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, Craig Israel.
Isai WelBeibl 30:30  Bydd yr ARGLWYDD yn bloeddio'n uchel, a bydd ei fraich gref yn dod i lawr ac yn eu taro'n wyllt gynddeiriog, fel fflamau tân yn difa, neu gorwynt, storm a chenllysg.
Isai WelBeibl 30:31  Bydd llais yr ARGLWYDD yn chwalu Asyria, sef y wialen ddefnyddiodd i daro.
Isai WelBeibl 30:32  Bydd yn eu waldio gyda'r pastwn ddewisodd ac yn eu curo i gyfeiliant drymiau a thelynau, pan fydd yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn.
Isai WelBeibl 30:33  Mae'r goelcerth angladdol wedi'i pharatoi cyn hyn; mae'n barod ar gyfer eu brenin. Mae'r pwll tân yn ddwfn ac yn llydan, ac mae digon o goed i'w tanio. Bydd anadl yr ARGLWYDD fel llif lafa yn dod i'w llosgi.