ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 32
Isai | WelBeibl | 32:2 | Bydd pob un ohonyn nhw fel cysgod rhag y gwynt a lloches rhag y storm, fel nentydd o ddŵr mewn tir sych neu gysgod craig enfawr mewn crasdir. | |
Isai | WelBeibl | 32:3 | Bydd llygaid y rhai sy'n gweld yn edrych, a chlustiau'r rhai sy'n clywed yn gwrando. | |
Isai | WelBeibl | 32:4 | Bydd y difeddwl yn oedi ac yn sylwi, a thafod y rhai sydd ag atal dweud yn siarad yn glir. | |
Isai | WelBeibl | 32:5 | Fydd y ffŵl ddim yn cael ei alw'n ŵr bonheddig, na'r twyllwr yn cael ei anrhydeddu. | |
Isai | WelBeibl | 32:6 | Achos dweud pethau ffôl mae ffŵl a chynllunio i wneud pethau drwg. Mae'n ymddwyn yn annuwiol ac yn dweud celwydd am yr ARGLWYDD. Mae'n gadael y newynog hefo stumog wag ac yn gwrthod rhoi diod i'r sychedig. | |
Isai | WelBeibl | 32:7 | Mae arfau'r twyllwr yn ddrwg. Mae'n cynllunio i wneud drwg – dinistrio pobl dlawd drwy eu twyllo a cham-drin yr anghenus yn y llys. | |
Isai | WelBeibl | 32:8 | Ond mae bwriadau'r person anrhydeddus yn dda, ac mae bob amser yn gwneud beth sy'n nobl. | |
Isai | WelBeibl | 32:9 | Chi wragedd cyfforddus, safwch! Gwrandwch arna i! Chi ferched heb bryder yn y byd, gwrandwch beth dw i'n ddweud! | |
Isai | WelBeibl | 32:10 | Mewn llai na blwyddyn, cewch chi sydd mor hyderus eich ysgwyd. Bydd y cynhaeaf grawnwin yn methu, a dim ffrwyth i'w gasglu. | |
Isai | WelBeibl | 32:11 | Dylech chi sy'n gyfforddus ddechrau poeni! Dylech chi sydd mor ddibryder ddechrau crynu! Tynnwch eich dillad! Stripiwch! Gwisgwch sachliain am eich canol, | |
Isai | WelBeibl | 32:13 | dros dir fy mhobl bydd drain a mieri yn tyfu. Ie, dros yr holl dai hyfryd a'r dre llawn miri. | |
Isai | WelBeibl | 32:14 | Bydd y palas wedi'i adael a'r ddinas boblog yn wag. Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniau yn troi'n foelydd am byth – yn gynefin i asynnod gwyllt a phorfa i breiddiau. | |
Isai | WelBeibl | 32:15 | Dyna sut bydd hi, nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni, i'r anialwch gael ei droi'n gaeau ffrwythlon, a'r caeau droi'n goedwig. | |
Isai | WelBeibl | 32:16 | Bryd hynny, bydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwch a thegwch yn cartrefu yn y caeau; | |
Isai | WelBeibl | 32:18 | Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff, tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel. | |
Isai | WelBeibl | 32:19 | Er i'r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysg ac i'r ddinas orwedd mewn cywilydd, | |