ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 22
Isai | WelBeibl | 22:1 | Neges am ‛Ddyffryn y Weledigaeth‛: Beth sy'n digwydd yma? Pam mae pawb wedi mynd i ben y toeau? | |
Isai | WelBeibl | 22:2 | Roeddet ti mor llawn bwrlwm – yn ddinas mor swnllyd; yn dre oedd yn llawn miri! Nid cleddyf wnaeth ladd dy feirwon, na'r frwydr chwaith. | |
Isai | WelBeibl | 22:3 | Rhedodd dy arweinwyr., a dianc i le pell i ffwrdd; cafodd pawb oedd ar ôl eu dal heb help run bwasaethwr. | |
Isai | WelBeibl | 22:4 | Dyna pam dw i'n dweud, “Gadewch lonydd i mi, gadewch i mi wylo'n chwerw! Peidiwch boddran ceisio fy nghysuro am fod fy mhobl druan wedi'u dinistrio.” | |
Isai | WelBeibl | 22:5 | Ydy, mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, wedi trefnu diwrnod o banig, sathru, a dryswch – yn Nyffryn y Weledigaeth mae sŵn waliau'n syrthio, a phobl yn gweiddi ar y mynydd. | |
Isai | WelBeibl | 22:6 | Mae Elam wedi codi'r gawell saethau, gyda'i marchogion a'i cherbydau, ac mae milwyr Cir wedi paratoi eu tarianau. | |
Isai | WelBeibl | 22:7 | Mae dy ddyffrynnoedd, dy dir gorau, yn llawn cerbydau, a'r marchogion yn rhengoedd tu allan i'r giatiau. | |
Isai | WelBeibl | 22:8 | Mae'r sgrîn oedd yn amddiffyn Jwda wedi'i symud. Felly, bryd hynny, dyma chi'n mynd i Blas y Goedwig i nôl yr arfau. | |
Isai | WelBeibl | 22:9 | Roeddech chi'n gweld fod llawer iawn o fylchau yn waliau Dinas Dafydd. Dyma gasglu dŵr o'r Llyn Isaf, | |
Isai | WelBeibl | 22:10 | cyfri'r tai yn Jerwsalem a chwalu rhai er mwyn gwneud waliau'r ddinas yn ddiogel. | |
Isai | WelBeibl | 22:11 | Yna adeiladu cronfa rhwng y ddwy wal i ddal dŵr yr hen lyn. Ond gymeroch chi ddim sylw o'r Un wnaeth y cwbl, na meddwl am yr Un oedd wedi cynllunio hyn ers talwm. | |
Isai | WelBeibl | 22:12 | Bryd hynny dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn galw ar bobl i wylo a galaru, i siafio'r pen a gwisgo sachliain. | |
Isai | WelBeibl | 22:13 | Ond yn lle hynny roedd hwyl a miri, lladd gwartheg a defaid, bwyta cig ac yfed gwin. “Gadewch i ni gael parti ac yfed, falle byddwn ni'n marw fory!” | |
Isai | WelBeibl | 22:14 | Rôn i wedi clywed yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: “Fydd dim byd yn gwneud iawn am y pechod yma nes i chi farw.” Ie, dyna ddwedodd fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus. | |
Isai | WelBeibl | 22:15 | Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud, “Dos i ofyn i'r swyddog – y Shefna yna sy'n gyfrifol am y palas: | |
Isai | WelBeibl | 22:16 | ‘Beth sy'n digwydd yma? Pwy roddodd ganiatâd i ti dorri bedd i ti dy hun yma? Torri bedd i ti dy hun mewn lle pwysig; naddu lle i ti dy hun gael gorffwys yn y graig! | |
Isai | WelBeibl | 22:17 | Mae'r ARGLWYDD yn mynd i dy daflu di i ffwrdd – dy hyrddio di'n bell, ti bwysigyn! Bydd yn dy lapio di'n dynn, | |
Isai | WelBeibl | 22:18 | yn dy rolio i fyny fel pelen ac yn dy daflu i ffwrdd i wlad eang iawn! A dyna ble byddi di'n marw. Yr unig gerbydau crand i gario dy gorff fydd y cywilydd ddaeth ar dŷ dy feistr! | |
Isai | WelBeibl | 22:21 | ac yn ei arwisgo fe gyda dy grys di, a'r sash sydd am dy ganol. Bydda i'n rhoi dy awdurdod di iddo fe, a bydd e'n gofalu am bawb sy'n byw yn Jerwsalem a phobl Jwda i gyd. | |
Isai | WelBeibl | 22:22 | Bydda i'n rhoi allwedd tŷ Dafydd iddo. Fydd neb yn gallu cau yr hyn mae'n ei agor, nac agor yr hyn mae e'n ei gau. | |
Isai | WelBeibl | 22:23 | Bydda i'n ei osod yn gadarn yn ei le – fel hoelen wedi'i tharo i wal. Bydd e'n cael y sedd anrhydedd yn nhŷ ei dad. | |
Isai | WelBeibl | 22:24 | Bydd y cyfrifoldeb am deulu ei dad arno fe: pawb, o'r egin a'r dail; bydd y llestri bach i gyd, y powlenni a'r gwahanol jariau yn hongian arno.’” | |