ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 35
Isai | WelBeibl | 35:1 | Bydd yr anialwch a'r tir sych yn llawen, bydd y diffeithwch yn dathlu ac yn blodeuo – yn blodeuo'n sydyn fel saffrwn. | |
Isai | WelBeibl | 35:2 | Bydd yn dathlu'n llawen ac yn gweiddi; bydd ysblander Libanus yn cael ei roi iddi, a harddwch Carmel a Saron. Byddan nhw'n gweld ysblander yr ARGLWYDD, a harddwch ein Duw ni. | |
Isai | WelBeibl | 35:4 | Dwedwch wrth y rhai ofnus, “Byddwch yn ddewr, peidiwch bod ag ofn. Edrychwch ar eich Duw – mae e'n dod i ddial ar eich gelynion! Y tâl dwyfol! Ydy, mae e'i hun yn dod i'ch achub chi!” | |
Isai | WelBeibl | 35:6 | Bydd y cloff yn neidio fel hydd, a'r mud yn gweiddi'n llawen! Achos bydd dŵr yn tasgu yn yr anialwch, ac afonydd yn llifo yn y diffeithwch. | |
Isai | WelBeibl | 35:7 | Bydd y tywod poeth yn troi'n bwll dŵr, a'r tir sych yn ffynhonnau'n ffrydio. Bydd y fan lle roedd siacaliaid yn gorweddian yn troi'n gorsydd o frwyn. | |
Isai | WelBeibl | 35:8 | Bydd priffordd, ie, ffordd yno sy'n cael ei galw, ‛Y Ffordd Sanctaidd‛. Fydd neb sy'n aflan yn cael teithio arni – mae ar gyfer y rhai sy'n cerdded y Ffordd. Fydd ffyliaid ddim yn crwydro ar ei hyd. | |
Isai | WelBeibl | 35:9 | Fydd dim llew yno, a fydd anifail gwyllt ddim yn dod yn agos ati – fydd dim i'w gael yno. Ond bydd y rhai sydd wedi'u rhyddhau yn cerdded ar ei hyd. | |