ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 25
Isai | WelBeibl | 25:1 | ARGLWYDD, ti ydy fy Nuw i! Dw i'n dy ganmol di, dw i'n moli dy enw! Ti wedi gwneud peth rhyfeddol – rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl; ti'n gwbl ddibynadwy! | |
Isai | WelBeibl | 25:2 | Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig, troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion! Gaiff y palas estron fyth ei ailadeiladu! | |
Isai | WelBeibl | 25:3 | Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di, a threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di! | |
Isai | WelBeibl | 25:4 | Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio, yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng, yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul. Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm, | |
Isai | WelBeibl | 25:5 | neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir, rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid. Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres, ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi. | |
Isai | WelBeibl | 25:6 | Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn paratoi gwledd o fwyd blasus i'r cenhedloedd i gyd: gwledd o winoedd aeddfed, bwyd blasus gyda'r gwin gorau. | |
Isai | WelBeibl | 25:7 | Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio'r llen sy'n gorchuddio wynebau'r bobloedd, a'r gorchudd sy'n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd. | |
Isai | WelBeibl | 25:8 | Bydd marwolaeth wedi'i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu'r dagrau oddi ar bob wyneb, a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o'r tir. —mae'r ARGLWYDD wedi dweud. | |
Isai | WelBeibl | 25:9 | Bryd hynny bydd y bobl yn dweud: “Dyma'n Duw ni, yr un roedden ni'n disgwyl iddo'n hachub. Dyma'r ARGLWYDD roedden ni'n ei drystio. Gadewch i ni ddathlu a mwynhau ei achubiaeth.” | |
Isai | WelBeibl | 25:10 | Ydy, mae llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys ar y mynydd hwn. Bydd Moab yn cael ei sathru ganddo fel gwellt yn cael ei sathru mewn tomen. | |
Isai | WelBeibl | 25:11 | Bydd yn estyn ei ddwylo ar led yn ei chanol, fel nofiwr yn estyn ei ddwylo i nofio. Bydd yn gwneud i falchder Moab suddo hefo symudiad ei ddwylo. | |