ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 13
Isai | WelBeibl | 13:2 | “Codwch faner ar ben mynydd, a gweiddi'n uchel arnyn nhw! Codwch eich llaw i'w galw i mewn drwy giatiau'r bobl bwysig! | |
Isai | WelBeibl | 13:3 | Dw i wedi rhoi gorchymyn i'r rhai dw i wedi'u dewis, a galw fy milwyr cryfion i ddangos mor ddig dw i; milwyr balch sy'n brolio.” | |
Isai | WelBeibl | 13:4 | Gwrandwch! Mae sŵn cynnwrf ar y mynyddoedd – fel byddin enfawr; Gwrandwch! Sŵn twrw'r gwledydd! Cenhedloedd yn casglu at ei gilydd! Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn casglu byddin i ryfel! | |
Isai | WelBeibl | 13:5 | Maen nhw'n dod o wlad bell, y tu hwnt i'r gorwel – yr ARGLWYDD ac arfau ei lid, yn dod i ddinistrio'r holl dir! | |
Isai | WelBeibl | 13:6 | Udwch! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn agos! Mae'n dod fel dinistr oddi wrth yr Un sy'n rheoli popeth. | |
Isai | WelBeibl | 13:8 | a'u llethu gan ddychryn. Bydd poen a phryder wedi gafael ynddyn nhw, a byddan nhw'n gwingo mewn poen fel gwraig yn cael babi. Byddan nhw'n syllu'n syn ar ei gilydd, a'u hwynebau'n gwrido o gywilydd. | |
Isai | WelBeibl | 13:9 | Ydy! Mae dydd barn yr ARGLWYDD yn dod; dydd creulon ei lid ffyrnig a thanbaid, i droi'r ddaear yn anialwch diffaith, a chael gwared â phechaduriaid ohoni. | |
Isai | WelBeibl | 13:10 | Fydd y sêr a'u clystyrau ddim yn rhoi golau. Bydd yr haul yn dywyll pan fydd yn codi, a'r lleuad ddim yn llewyrchu. | |
Isai | WelBeibl | 13:11 | “Bydda i'n cosbi'r byd am ei holl ddrygioni, a phobl ddrwg am eu pechod. Bydda i'n rhoi diwedd ar falchder pobl haerllug, ac yn torri crib y rhai creulon. | |
Isai | WelBeibl | 13:13 | Bydda i'n gwneud i'r awyr grynu, ac i'r ddaear ysgwyd o'i lle.” Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn barnu ar ddiwrnod ei lid ffyrnig. | |
Isai | WelBeibl | 13:14 | Bydd pawb yn troi at ei bobl ei hun ac yn dianc i'w gynefin; fel gasél yn dianc pan mae'n cael ei hela, neu ddefaid ar wasgar a neb i'w casglu. | |
Isai | WelBeibl | 13:15 | Bydd pob un sy'n cael ei ddarganfod yn cael ei drywanu, a phob un sy'n cael ei ddal yn cael ei ladd â'r cleddyf. | |
Isai | WelBeibl | 13:16 | Bydd eu plant bach yn cael eu curo i farwolaeth, a'u lladd o flaen eu llygaid; bydd eu cartrefi'n cael eu gwagio, a'u gwragedd yn cael eu treisio. | |
Isai | WelBeibl | 13:17 | “Ond edrychwch, dw i'n codi'r Mediaid yn eu herbyn nhw. Fydd arian ddim yn rhwystro'r rheiny, nac aur yn eu denu i droi. | |
Isai | WelBeibl | 13:18 | Bydd eu bwâu yn taro'r dynion ifanc i lawr. Fydd dim tosturi at fabis bach, a fyddan nhw ddim yn arbed bywyd y plant.” | |
Isai | WelBeibl | 13:19 | Bydd Babilon, y deyrnas harddaf – ysblander a balchder ei phobl – wedi'i bwrw i lawr gan Dduw fel Sodom a Gomorra. | |
Isai | WelBeibl | 13:20 | Fydd neb yn byw yno byth eto, neb o gwbl ar hyd y cenedlaethau – dim Bedowin yn codi ei babell, na bugail yn gorffwys ei braidd. | |
Isai | WelBeibl | 13:21 | Bydd ysbrydion yr anialwch yn gorwedd yno, a'r tai yn llawn creaduriaid yn udo. Bydd y dylluan yn byw yno, a'r gafr-ddemoniaid yn llamu o gwmpas. | |