Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 37
Isai WelBeibl 37:1  Pan glywodd y Brenin Heseceia hyn, dyma fe'n rhwygo'i ddillad, gwisgo sachliain a mynd i deml yr ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 37:2  A dyma fe'n anfon Eliacim, arolygwr y palas, Shefna, yr ysgrifennydd, a rhai o'r offeiriaid hynaf at y proffwyd Eseia fab Amos. Roedden nhw hefyd yn gwisgo sachliain.
Isai WelBeibl 37:3  A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae Heseceia'n dweud: ‘Mae hi'n ddiwrnod o argyfwng, o gerydd ac o gywilydd, fel petai plant ar fin cael eu geni a'r fam heb ddigon o nerth i'w geni nhw.
Isai WelBeibl 37:4  Petaet ti'n gweddïo dros y rhai ohonon ni sy'n dal ar ôl yn y ddinas, falle y byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn cymryd sylw o beth ddwedodd y swyddog gafodd ei anfon gan frenin Asyria i enllibio'r Duw byw, ac yn ei gosbi.’”
Isai WelBeibl 37:6  dyma Eseia'n dweud wrthyn nhw, “Dwedwch wrth eich meistr: ‘Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Paid gadael i'r ffaith fod gweision bach brenin Asyria yn gwneud sbort am fy mhen i dy ddychryn di.
Isai WelBeibl 37:7  Dw i'n mynd i godi ofn arno fe. Bydd e'n clywed si am rywbeth ac yn mynd yn ôl i'w wlad ei hun. Bydda i'n gwneud iddo gael ei ladd â'r cleddyf yn ei wlad ei hun.”’”
Isai WelBeibl 37:8  Yn y cyfamser, roedd prif swyddog brenin Asyria wedi mynd yn ôl a darganfod fod ei feistr wedi gadael Lachish a'i fod yn ymladd yn erbyn tref Libna.
Isai WelBeibl 37:9  Roedd wedi clywed fod y Brenin Tirhaca (oedd o dras Affricanaidd) ar ei ffordd i ymosod arno. Felly, dyma fe'n anfon negeswyr at Heseceia eto:
Isai WelBeibl 37:10  “Dwedwch wrth Heseceia, brenin Jwda: ‘Peidiwch gadael i'r Duw dych chi'n ei drystio eich twyllo chi i feddwl na fydd Jerwsalem yn syrthio i ddwylo brenin Asyria.
Isai WelBeibl 37:11  Dych chi'n gwybod yn iawn fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r gwledydd eraill i gyd. Ydych chi'n mynd i ddianc?
Isai WelBeibl 37:12  Gafodd y gwledydd ddinistriodd fy rhagflaenwyr eu hachub gan eu duwiau? – Beth am Gosan, Haran, Retseff, a phobl Eden oedd yn Telassar?
Isai WelBeibl 37:13  Ble mae brenin Chamath? Neu frenin Arpad? Neu frenhinoedd Lahir, Seffarfaîm, Hena, ac Ifa?’”
Isai WelBeibl 37:14  Ar ôl i Heseceia gymryd y llythyr gan y negeswyr, a'i ddarllen, aeth i'r deml a'i osod allan o flaen yr ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 37:16  “O ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel, sy'n eistedd ar dy orsedd uwchben y cerwbiaid. Ti sydd Dduw – yr unig un – dros deyrnasoedd y byd i gyd. Ti wnaeth greu'r bydysawd a'r ddaear.
Isai WelBeibl 37:17  O ARGLWYDD, plîs gwrando! Agor dy lygaid, ARGLWYDD! Edrych! Gwranda ar beth mae Senacherib yn ei ddweud. Mae e wedi anfon neges sy'n enllibio'r Duw byw!
Isai WelBeibl 37:18  ARGLWYDD, mae'n wir fod brenhinoedd Asyria wedi dinistrio'r bobloedd i gyd, a'u tiroedd,
Isai WelBeibl 37:19  ac wedi llosgi eu duwiau nhw. Ond doedden nhw ddim yn dduwiau go iawn, dim ond coed neu gerrig wedi'u cerfio gan bobl, i'w haddoli.
Isai WelBeibl 37:20  Felly nawr, O ARGLWYDD ein Duw, achub ni o'i afael, er mwyn i deyrnasoedd y byd i gyd wybod mai ti ydy'r ARGLWYDD, yr unig un go iawn.”
Isai WelBeibl 37:21  Yna dyma Eseia fab Amos yn anfon y neges yma at Heseceia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Am dy fod ti wedi gweddïo am Senacherib, brenin Asyria,
Isai WelBeibl 37:22  dyma dw i, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud yn ei erbyn: “Mae'r forwyn hardd, Seion, yn dy ddirmygu di! Mae hi'n gwneud hwyl ar dy ben! Mae Jerwsalem hardd yn ysgwyd ei phen tu ôl i dy gefn.
Isai WelBeibl 37:23  Pwy wyt ti'n ei enllibio a'i wawdio? Yn erbyn pwy wyt ti'n codi dy lais, ac yn troi dy lygaid yn sarhaus? Yn erbyn Un Sanctaidd Israel!
Isai WelBeibl 37:24  Ti wedi defnyddio dy weision i enllibio'r Meistr, a dweud, ‘Gyda'r holl gerbydau rhyfel sydd gen i dringais i ben y mynyddoedd uchaf, ac i ben draw Libanus. Torrais i lawr y coed cedrwydd talaf, a'r coed pinwydd gorau, er mwyn cyrraedd copa uchaf y llechweddau coediog.
Isai WelBeibl 37:25  Dw i wedi cloddio ffynhonnau ac yfed o'u dŵr. Sychais holl ganghennau afon Nîl hefo gwadn fy nhraed.’
Isai WelBeibl 37:26  Mae'n rhaid dy fod wedi clywed! Fi sydd wedi trefnu'r cwbl ers talwm – mae'r cwbl wedi'i gynllunio ers amser maith, a nawr dw i'n troi'r cwbl yn ffaith: i ti droi caerau yn bentyrrau o rwbel.
Isai WelBeibl 37:27  Does gan y bobl sy'n byw ynddyn nhw ddim nerth, maen nhw'n ddigalon, ac wedi'u cywilyddio. Maen nhw fel planhigion mewn cae, neu dyfiant ar ben to wedi'i grino gan wynt y dwyrain.
Isai WelBeibl 37:28  Dw i'n gwybod popeth amdanat ti – dy symudiadau di i gyd, a sut rwyt ti wedi bod yn strancio yn fy erbyn i.
Isai WelBeibl 37:29  Am dy fod ti wedi strancio yn fy erbyn i, a minnau wedi gorfod gwrando ar dy eiriau haerllug, dw i'n mynd i roi bachyn drwy dy drwyn a ffrwyn yn dy geg, a gwneud i ti fynd yn ôl y ffordd daethost.”
Isai WelBeibl 37:30  A dyma fydd yr arwydd i ti, Heseceia, fod hyn yn wir: Byddi'n bwyta beth sy'n tyfu ohono'i hun eleni, a'r flwyddyn nesa beth fydd wedi tyfu o hwnnw. Ond y flwyddyn wedyn cewch hau a medi, plannu gwinllannoedd a bwyta'u ffrwyth nhw.
Isai WelBeibl 37:31  Bydd y bobl yn Jwda sydd wedi dianc a'u gadael ar ôl yn bwrw eu gwreiddiau eto, ac yn dwyn ffrwyth.
Isai WelBeibl 37:32  Bydd y rhai sy'n weddill yn lledu allan o Jerwsalem; y rhai o Fynydd Seion wnaeth ddianc. Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd.’
Isai WelBeibl 37:33  Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am frenin Asyria: ‘Fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma. Fydd e ddim yn saethu saeth i mewn iddi; fydd e ddim yn ymosod arni hefo tarian, nac yn codi rampiau i warchae yn ei herbyn.
Isai WelBeibl 37:34  Bydd e'n mynd yn ôl y ffordd ddaeth e. Na, fydd e ddim yn dod i mewn i'r ddinas yma.’ —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 37:35  ‘Dw i'n mynd i amddiffyn ac achub y ddinas yma, er mwyn cadw fy enw da, ac am fy mod i wedi addo gwneud hynny i Dafydd, fy ngwas.’”
Isai WelBeibl 37:36  A dyma angel yr ARGLWYDD yn mynd allan ac yn taro cant wyth deg pum mil o filwyr Asyria. Erbyn y bore wedyn roedden nhw i gyd yn gyrff meirw.
Isai WelBeibl 37:37  Felly dyma Senacherib, brenin Asyria, yn codi ei wersyll, mynd yn ôl i Ninefe ac aros yno.
Isai WelBeibl 37:38  Un diwrnod, pan oedd e'n addoli yn nheml ei dduw Nisroch, dyma'i feibion, Adram-melech a Saretser, yn ei ladd gyda'r cleddyf ac yna'n dianc i ardal Ararat. A dyma fab arall iddo, Esar-chadon, yn dod yn frenin yn ei le.