Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 15
Isai WelBeibl 15:1  Neges am Moab: Do, cafodd ei dinistrio mewn noson, cafodd Ar yn Moab ei difrodi'n llwyr. Do, cafodd ei dinistrio mewn noson, cafodd Cir yn Moab ei difrodi'n llwyr.
Isai WelBeibl 15:2  Maen nhw wedi mynd i'r deml, ac i'r allor leol yn Dibon i wylo. Mae Moab yn udo am beth ddigwyddodd i Nebo a Medeba. Mae pob pen yn foel, pob barf wedi'i siafio,
Isai WelBeibl 15:3  ac maen nhw'n gwisgo sachliain yn y strydoedd. Mae pawb yn udo ac yn beichio crio ar bennau'r tai ac yn y sgwariau.
Isai WelBeibl 15:4  Mae sgrechian yn Cheshbon ac Elealê, ac mae'r sŵn i'w glywed mor bell â Iahats. Felly, mae milwyr Moab yn gweiddi a chrynu drwyddynt mewn ofn.
Isai WelBeibl 15:5  Mae fy nghalon yn gwaedu dros Moab – a'r ffoaduriaid sy'n dianc i Soar ac Eglath-shalisheia. Maen nhw'n wylo wrth ddringo llethr Lwchith. Mae gwaedd dinistr yn codi ar y ffordd i Choronaïm.
Isai WelBeibl 15:6  Mae dyfroedd Nimrim wedi sychu; mae'r glaswellt wedi gwywo a phob tyfiant yn methu. Mae pob planhigyn wedi diflannu.
Isai WelBeibl 15:7  Felly, maen nhw'n cario'u cynilion a'u heiddo dros Sychnant yr Helyg.
Isai WelBeibl 15:8  Ydy, mae sŵn y sgrechian wedi lledu drwy wlad Moab i gyd: mae'r udo i'w glywed mor bell ag Eglaim, hyd yn oed yn Beër-elim!
Isai WelBeibl 15:9  Mae dyfroedd Dimon yn llawn gwaed. Ond dw i'n mynd i wneud pethau'n waeth eto i Dimon: bydd llew yn ymosod ar weddill Moab, a'r rhai sydd ar ôl yn y tir.