Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 23
Isai WelBeibl 23:1  Neges am Tyrus: Udwch, longau masnach Tarshish! Does dim porthladd i fynd adre iddo – achos mae wedi'i ddryllio! Cafodd y newyddion ei gyhoeddi o Cyprus.
Isai WelBeibl 23:2  Galarwch, chi sy'n byw ar yr arfordir, chi fasnachwyr Sidon. Maen nhw wedi croesi'r môr i'w chyflenwi,
Isai WelBeibl 23:3  wedi croesi'r dyfroedd mawr gyda had o Sihor a chynhaeaf afon Nîl; dyna oedd ei henillion – hi oedd marchnad y gwledydd.
Isai WelBeibl 23:4  Cywilydd arnat ti, Sidon, achos mae'r môr – y gaer ddiogel honno – wedi dweud, “Fi ydy'r un sydd heb ddiodde poenau wrth gael plant. Dw i heb fagu bechgyn na merched ifanc!”
Isai WelBeibl 23:5  Pan fydd yr Aifft yn clywed am y peth byddan nhw'n gwingo mewn poen wrth glywed am Tyrus.
Isai WelBeibl 23:6  Croeswch drosodd i Tarshish – udwch, chi sy'n byw ar yr arfordir!
Isai WelBeibl 23:7  Ai dyma'r ddinas gawsoch chi'r fath firi ynddi – y ddinas sydd â hanes mor hen iddi? Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu?
Isai WelBeibl 23:8  Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus, y ddinas oedd yn gwisgo coron, a'i masnachwyr yn dywysogion ac yn bobl mor bwysig?
Isai WelBeibl 23:9  Yr ARGLWYDD hollbwerus drefnodd y peth – i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch, a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd.
Isai WelBeibl 23:10  Hwyliwch adre, bobl Tarshish, i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth afon Nîl; does dim harbwr i chi yma bellach.
Isai WelBeibl 23:11  Pan gododd yr ARGLWYDD ei law dros y môr gwnaeth i deyrnasoedd grynu mewn ofn! Yr ARGLWYDD roddodd orchymyn i ddinistrio trefi caerog Canaan.
Isai WelBeibl 23:12  Dwedodd, “Dyna ddigon o dy rialtwch, ferch Sidon, sydd wedi'i gorthrymu.” Dos! Cod, a chroesa drosodd i Cyprus, ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith!
Isai WelBeibl 23:13  Edrychwch ar wlad Babilonia – y bobl sydd wedi peidio â bod! Rhoddodd Asyria nhw i'r anifeiliaid gwyllt. Codi tyrau i warchae arni, ysbeilio'i phlastai a'i throi yn adfeilion.
Isai WelBeibl 23:14  Udwch, longau masnach Tarshish, achos mae eich caer ddiogel wedi'i dinistrio!
Isai WelBeibl 23:15  Bryd hynny bydd Tyrus yn cael ei anghofio am saith deg mlynedd, sef hyd bywyd brenin. Ond ar ôl hynny bydd Tyrus fel y gân honno am y butain:
Isai WelBeibl 23:16  Cymer delyn, crwydra'r ddinas, butain a anghofiwyd; Cân dy alaw unwaith eto, i wneud i bobl gofio.
Isai WelBeibl 23:17  Achos, ar ôl saith deg mlynedd, bydd yr ARGLWYDD yn adfer Tyrus eto; bydd yn mynd yn ôl i werthu ei hun fel putain, a denu holl wledydd y byd i wneud busnes gyda hi.
Isai WelBeibl 23:18  Ond bydd ei helw a'i henillion yn cael eu cysegru i'r ARGLWYDD; fyddan nhw ddim yn cael eu cadw a'u storio. Bydd ei helw yn mynd i'r rhai sy'n agos at yr ARGLWYDD, iddyn nhw gael digonedd o fwyd, a'r dillad gorau.