Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 42
Isai WelBeibl 42:1  Dyma fy ngwas, yr un dw i'n ei gynnal, yr un dw i wedi'i ddewis ac sydd wrth fy modd i! Rhof fy ysbryd iddo, a bydd yn dysgu cyfiawnder i'r cenhedloedd.
Isai WelBeibl 42:2  Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais, nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd.
Isai WelBeibl 42:3  Fydd e ddim yn torri brwynen fregus nac yn diffodd llin sy'n mygu. Bydd e'n dangos y ffordd iawn i ni.
Isai WelBeibl 42:4  Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithio nes iddo sefydlu'r ffordd iawn ar y ddaear. Mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.”
Isai WelBeibl 42:5  Dyma mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud – yr un greodd yr awyr, a'i lledu allan, yr un wnaeth siapio'r ddaear a phopeth ynddi, yr un sy'n rhoi anadl i'r bobl sy'n byw arni, a bywyd i'r rhai sy'n cerdded arni:
Isai WelBeibl 42:6  “Fi ydy'r ARGLWYDD, dw i wedi dy alw i wneud beth sy'n iawn, a gafael yn dy law. Dw i'n gofalu amdanat ti, ac yn dy benodi'n ganolwr fy ymrwymiad i bobl, ac yn olau i genhedloedd –
Isai WelBeibl 42:7  i agor llygaid y dall, rhyddhau carcharorion o'u celloedd, a'r rhai sy'n byw yn y tywyllwch o'r carchar.
Isai WelBeibl 42:8  Fi ydy'r ARGLWYDD, dyna fy enw i. Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall, na rhoi'r clod dw i'n ei haeddu i ddelwau.
Isai WelBeibl 42:9  Mae'r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir, a nawr dw i'n cyhoeddi pethau newydd. Dw i'n gadael i chi glywed amdanyn nhw cyn iddyn nhw ddechrau digwydd.”
Isai WelBeibl 42:10  Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD, canwch ei glod o ben draw'r byd – chi sy'n hwylio ar y môr, a'r holl greaduriaid sydd ynddo, a chi sy'n byw ar yr ynysoedd!
Isai WelBeibl 42:11  Boed i'r anialwch a'i drefi godi eu lleisiau, a'r pentrefi lle mae crwydriaid Cedar yn byw. Canwch yn llawen, chi sy'n byw yn Sela, a gweiddi'n uchel o ben y mynyddoedd.
Isai WelBeibl 42:12  Boed iddyn nhw roi clod i'r ARGLWYDD, a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd.
Isai WelBeibl 42:13  Mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwr ar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel. Mae e'n gweiddi – yn wir, mae e'n rhuo wrth ymosod ar ei elynion.
Isai WelBeibl 42:14  “Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir – wedi cadw'n dawel, a dal fy hun yn ôl. Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn, dw i'n sgrechian a gwingo a griddfan.
Isai WelBeibl 42:15  Dw i'n mynd i ddifetha'r bryniau a'r mynyddoedd, a gwneud i bob tyfiant wywo. Dw i'n mynd i wneud yr afonydd yn sych, a sychu'r pyllau dŵr hefyd.
Isai WelBeibl 42:16  Dw i'n mynd i arwain y rhai sy'n ddall ar hyd ffordd sy'n newydd, a gwneud iddyn nhw gerdded ar hyd llwybrau sy'n ddieithr iddyn nhw. Bydda i'n gwneud y tywyllwch yn olau o'u blaen ac yn gwneud y tir anwastad yn llyfn. Dyma dw i'n addo ei wneud – a dw i'n cadw fy ngair.
Isai WelBeibl 42:17  Bydd y rhai sy'n trystio eilunod yn cael eu gyrru'n ôl a'u cywilyddio, sef y rhai sy'n dweud wrth ddelwau metel, ‘Chi ydy'n duwiau ni!’”
Isai WelBeibl 42:18  Gwrandwch, chi'r rhai byddar; ac edrychwch, chi sy'n ddall!
Isai WelBeibl 42:19  Pwy sy'n ddall fel fy ngwas, neu'n fyddar fel y negesydd dw i'n ei anfon? Pwy sy'n ddall fel yr un dw i wedi ymrwymo iddo? Pwy sy'n ddall fel gwas yr ARGLWYDD?
Isai WelBeibl 42:20  Er dy fod yn gweld llawer, ti ddim yn ystyried; er bod gen ti glustiau, ti ddim yn gwrando.
Isai WelBeibl 42:21  Roedd yr ARGLWYDD wedi'i blesio ei fod yn gyfiawn, a'i fod yn gwneud yn fawr o'r gyfraith, ac yn ei chadw.
Isai WelBeibl 42:22  Ond mae'r bobl hyn wedi colli popeth: maen nhw i gyd wedi'u dal mewn tyllau, a'u carcharu mewn celloedd. Maen nhw'n ysglyfaeth, a does neb i'w hachub; maen nhw'n ysbail, a does neb yn dweud, “Rho nhw'n ôl!”
Isai WelBeibl 42:23  Pwy sy'n barod i wrando ar hyn? Gwrandwch yn astud o hyn ymlaen!
Isai WelBeibl 42:24  Pwy adawodd i Jacob gael ei ysbeilio, a rhoi Israel i'r lladron? Yr ARGLWYDD, wrth gwrs – yr un wnaethon nhw bechu yn ei erbyn! Doedden nhw ddim am fyw fel roedd e eisiau, na bod yn ufudd i'w ddysgeidiaeth.
Isai WelBeibl 42:25  Felly dyma fe'n tywallt ei lid arnyn nhw, a thrais rhyfel. Roedd y fflamau o'u cwmpas ym mhobman, ond wnaethon nhw ddim dysgu'r wers. Cawson nhw eu llosgi, ond gymron nhw ddim sylw.