Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 1
Isai WelBeibl 1:1  (Dyma welodd e am Jwda a Jerwsalem yn ystod y blynyddoedd pan oedd Wseia, Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd Jwda.)
Isai WelBeibl 1:2  Gwranda, nefoedd! Clyw, ddaear! Mae'r ARGLWYDD yn dweud: “Dw i wedi magu plant a gofalu amdanyn nhw – ond maen nhw wedi gwrthryfela yn fy erbyn i.
Isai WelBeibl 1:3  Mae ych yn nabod ei berchennog ac asyn yn gwybod lle mae cafn bwydo ei feistr: ond dydy Israel ddim yn fy nabod i; dydy fy mhobl i'n cymryd dim sylw!”
Isai WelBeibl 1:4  O! druan ohonot ti'r wlad sy'n pechu! Pobl sy'n llawn drygioni! Nythaid o rai sy'n gwneud drwg! Plant pwdr! Maen nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a dirmygu Un Sanctaidd Israel; maen nhw wedi pellhau oddi wrtho.
Isai WelBeibl 1:5  Pam dych chi'n dal ati i wrthryfela? Ydych chi eisiau cael eich curo eto? Mae briwiau ar bob pen a'r corff yn hollol wan.
Isai WelBeibl 1:6  Does unman yn iach o'r corun i'r sawdl: dim ond clwyfau a chleisiau, a briwiau agored – heb eu gwella na'u rhwymo, a heb olew i'w hesmwytho.
Isai WelBeibl 1:7  Mae eich gwlad fel anialwch, a'ch dinasoedd wedi'u llosgi'n ulw. Mae dieithriaid yn bwyta eich cnydau o flaen eich llygaid – anialwch wedi'i ddinistrio gan estroniaid!
Isai WelBeibl 1:8  Dim ond Seion hardd sydd ar ôl – fel caban yng nghanol gwinllan, neu gwt mewn gardd lysiau; fel dinas yn cael ei gwarchae.
Isai WelBeibl 1:9  Oni bai fod yr ARGLWYDD hollbwerus wedi gadael i rai pobl fyw, bydden ni wedi'n dinistrio fel Sodom, neu wedi diflannu'n llwyr fel Gomorra.
Isai WelBeibl 1:10  Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, arweinwyr Sodom! Gwrandwch ar beth mae Duw'n ei ddysgu i chi, bobl Gomorra!
Isai WelBeibl 1:11  “Beth ydy pwynt eich holl aberthau chi?” meddai'r ARGLWYDD. “Dw i wedi cael llond bol o hyrddod yn offrymau i'w llosgi, o fraster anifeiliaid a gwaed teirw. Dw i ddim eisiau'ch ŵyn a'ch bychod geifr chi.
Isai WelBeibl 1:12  Dych chi'n ymddangos o'm blaen i – ond pwy ofynnodd i chi ddod i stompio drwy'r deml?
Isai WelBeibl 1:13  Stopiwch ddod â'ch offrymau diystyr! Mae'r arogldarth yn troi arna i! Dych chi'n dathlu gŵyl y lleuad newydd a'r Sabothau, ac yn cynnal cyfarfodydd eraill, Ond alla i ddim diodde'r drygioni sy'n mynd gyda'ch dathliadau crefyddol chi.
Isai WelBeibl 1:14  Dw i'n casáu'r lleuadau newydd a'ch gwyliau eraill chi. Maen nhw'n faich arna i; alla i mo'u diodde nhw.
Isai WelBeibl 1:15  Pan fyddwch chi'n codi'ch dwylo i weddïo, bydda i'n edrych i ffwrdd. Gallwch chi weddïo faint fynnoch chi, ond fydda i ddim yn gwrando. Mae gwaed ar eich dwylo chi!
Isai WelBeibl 1:16  Ymolchwch! Byddwch yn lân! Ewch â'r pethau drwg dych chi'n eu gwneud allan o'm golwg i! Stopiwch wneud drwg;
Isai WelBeibl 1:17  dysgwch wneud da. Brwydrwch dros gyfiawnder, o blaid y rhai sy'n cael eu gorthrymu. Cefnogwch hawliau plant amddifad, a dadlau dros achos y weddw.
Isai WelBeibl 1:18  Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd,” —meddai'r ARGLWYDD. “Os ydy'ch pechodau chi'n goch llachar, gallan nhw droi'n wyn fel yr eira; os ydyn nhw'n goch tywyll, gallan nhw fod yn wyn fel gwlân.
Isai WelBeibl 1:19  Os dych chi'n fodlon gwrando a gwneud be dw i'n ddweud, cewch fwyta cynnyrch da'r tir;
Isai WelBeibl 1:20  ond os byddwch chi'n ystyfnig ac yn gwrthod gwrando, byddwch chi'n cael eich difa â'r cleddyf,” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Isai WelBeibl 1:21  Ond o! Mae Seion wedi troi'n butain. Roedd hi'n ddinas ffyddlon, yn llawn o bobl yn gwneud beth oedd yn iawn. Cyfiawnder oedd yn arfer byw ynddi – ond bellach llofruddion.
Isai WelBeibl 1:22  Mae dy arian wedi'i droi'n amhuredd; mae dy win wedi'i gymysgu â dŵr!
Isai WelBeibl 1:23  Mae dy arweinwyr wedi gwrthryfela, ac yn ffrindiau i ladron; maen nhw i gyd yn hoffi breib, ac yn chwilio am wobr. Wnân nhw ddim amddiffyn plentyn amddifad na gwrando ar achos y weddw.
Isai WelBeibl 1:24  Felly, dyma mae'r Meistr yn ei ddweud (yr ARGLWYDD hollbwerus), Arwr Israel – “O! bydda i'n dangos fy llid i'r rhai sy'n fy erbyn! Bydda i'n dial ar fy ngelynion!
Isai WelBeibl 1:25  Bydda i'n ymosod arnat ac yn symud dy amhuredd â thoddydd. Bydda i'n cael gwared â'r slag i gyd!
Isai WelBeibl 1:26  Bydda i'n rhoi barnwyr gonest i ti fel o'r blaen, a chynghorwyr doeth, fel roedden nhw ers talwm. Wedyn byddi di'n cael dy alw ‛Y Ddinas Gyfiawn‛, ‛Tref Ffyddlon‛.”
Isai WelBeibl 1:27  Bydd Seion yn cael ei gollwng yn rhydd pan ddaw'r dyfarniad; a'r rhai sy'n troi'n ôl yn cael cyfiawnder.
Isai WelBeibl 1:28  Ond bydd y rhai sydd wedi gwrthryfela a phechu yn cael eu sathru; bydd hi wedi darfod ar y rhai sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 1:29  Bydd gynnoch chi gywilydd o'r coed derw cysegredig roeddech chi mor hoff ohonyn nhw. Byddwch chi wedi drysu o achos y gerddi paganaidd roeddech wedi'u dewis.
Isai WelBeibl 1:30  Byddwch fel coeden dderwen â'i dail wedi gwywo, neu fel gardd sydd heb ddŵr.
Isai WelBeibl 1:31  Bydd y rhai cryf fel fflwff, a'u gwaith fel gwreichionen. Bydd y ddau yn llosgi gyda'i gilydd, a neb yn gallu diffodd y tân!