Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 5
Isai WelBeibl 5:1  Gad i mi ganu cân i'm cariad annwyl – cân fy nghariad am ei winllan. Roedd gan fy nghariad winllan ar fryn oedd yn ffrwythlon iawn.
Isai WelBeibl 5:2  Palodd y tir a chlirio'r cerrig, a phlannu gwinwydden arbennig ynddi. Adeiladodd dŵr gwylio yn ei chanol, a naddu gwinwasg ynddi. Roedd yn disgwyl cael grawnwin da, ond gafodd e ddim ond rhai drwg.
Isai WelBeibl 5:3  Felly, chi bobl Jerwsalem a'r rhai sy'n byw yn Jwda – beth ydy'ch barn chi? Beth ddylwn i ei wneud gyda'm gwinllan?
Isai WelBeibl 5:4  Oedd yna rywbeth mwy y gallwn ei wneud i'm gwinllan nag a wnes i? Pan oeddwn i'n disgwyl cael grawnwin da, pam ges i ddim ond rhai drwg?
Isai WelBeibl 5:5  Nawr, gadewch i mi ddweud wrthoch chi be dw i'n mynd i wneud gyda'm gwinllan: dw i'n mynd i symud ei chlawdd iddi gael ei dinistrio, a chwalu'r wal iddi gael ei sathru dan draed.
Isai WelBeibl 5:6  Bydda i'n ei gwneud yn dir diffaith; fydd neb yn ei thocio na'i chwynnu, a bydd yn tyfu'n wyllt gyda mieri a drain. A bydda i'n gorchymyn i'r cymylau beidio glawio arni.
Isai WelBeibl 5:7  Gwinllan yr ARGLWYDD hollbwerus ydy pobl Israel, a'r planhigion ofalodd amdanyn nhw ydy pobl Jwda. Roedd yn disgwyl gweld cyfiawnder, ond trais a gafodd. Roedd yn disgwyl am degwch, ond gwaedd daer a glywodd!
Isai WelBeibl 5:8  Gwae y rhai sy'n cydio tŷ wrth dŷ, ac yn ychwanegu cae at gae, nes bod dim lle i neb arall fyw yn y wlad!
Isai WelBeibl 5:9  Dw i wedi clywed yr ARGLWYDD hollbwerus yn dweud: Bydd llawer o dai yn cael eu dinistrio, fydd neb yn byw yn y tai mawr, crand.
Isai WelBeibl 5:10  Bydd deg acer o winllan yn rhoi llai na chwe galwyn o win; a chae lle heuwyd deg mesur o had yn rhoi dim ond un mesur yn ôl.
Isai WelBeibl 5:11  Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i yfed diod feddwol ac yn aros ar eu traed gyda'r nos dan ddylanwad gwin.
Isai WelBeibl 5:12  Maen nhw'n cael partïon gyda'r delyn a'r nabl, y drwm a'r pib – a'r gwin, ond yn cymryd dim sylw o'r ARGLWYDD, nac yn gweld beth mae'n ei wneud.
Isai WelBeibl 5:13  Felly, bydd fy mhobl yn cael eu caethgludo am beidio cymryd sylw. Bydd y bobl bwysig yn marw o newyn, a'r werin yn gwywo gan syched.
Isai WelBeibl 5:14  Bydd chwant bwyd ar fyd y meirw; bydd yn agor ei geg yn anferth, a bydd ysblander Jerwsalem a'i chyffro, ei sŵn a'i sbri yn llithro i lawr iddo.
Isai WelBeibl 5:15  Bydd pobl yn cael eu darostwng a phawb yn cywilyddio; bydd llygaid y balch wedi syrthio.
Isai WelBeibl 5:16  Ond bydd yr ARGLWYDD hollbwerus wedi'i ddyrchafu drwy ei gyfiawnder; a'r Duw sanctaidd wedi profi ei fod yn sanctaidd drwy ei degwch.
Isai WelBeibl 5:17  Bydd ŵyn yn pori yno fel yn eu cynefin, a chrwydriaid yn bwyta yn adfeilion y cyfoethog.
Isai WelBeibl 5:18  Gwae'r rhai sy'n llusgo drygioni gyda rhaffau twyll, a llusgo pechod ar eu holau fel trol!
Isai WelBeibl 5:19  Y rhai sy'n dweud, “Gadewch iddo wneud rhywbeth yn sydyn, i ni gael gweld; gadewch i ni weld pwrpas Un Sanctaidd Israel, i ni gael gwybod beth ydy e!”
Isai WelBeibl 5:20  Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda a da yn ddrwg, sy'n dweud fod tywyllwch yn olau a golau yn dywyllwch, sy'n galw'r chwerw yn felys a'r melys yn chwerw!
Isai WelBeibl 5:21  Gwae'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ddoeth, ac yn ystyried eu hunain mor glyfar!
Isai WelBeibl 5:22  Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin – ac yn meddwl eu bod nhw'n rêl bois wrth gymysgu'r diodydd;
Isai WelBeibl 5:23  y rhai sy'n gollwng troseddwyr yn rhydd am freib, ac yn gwrthod rhoi dedfryd gyfiawn i'r dieuog.
Isai WelBeibl 5:24  Felly, fel gwellt yn llosgi yn y fflamau a gwair yn crino yn y gwres, bydd eu gwreiddiau yn pydru a'u blagur yn cael ei chwythu ymaith fel llwch. Am eu bod wedi gwrthod beth mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn ei ddysgu, a chymryd dim sylw o neges Un Sanctaidd Israel.
Isai WelBeibl 5:25  Dyna pam roedd yr ARGLWYDD wedi digio gyda'i bobl. Dyna pam wnaeth e droi yn eu herbyn nhw, a'u taro nhw. Roedd y mynyddoedd yn crynu, a'r cyrff yn gorwedd fel sbwriel ar y strydoedd. Ac eto wnaeth Duw ddim tawelu, roedd yn dal yn eu herbyn nhw.
Isai WelBeibl 5:26  Bydd e'n codi baner i alw cenedl o bell, ac yn chwibanu ar un o ben draw'r byd. Ac edrychwch, maen nhw'n dod ar ras wyllt!
Isai WelBeibl 5:27  Does neb yn blino nac yn baglu'n y rhengoedd, neb yn pendwmpian nac yn cysgu, neb â'i felt wedi'i ddatod, na charrai ei esgid wedi torri.
Isai WelBeibl 5:28  Mae eu saethau'n finiog, a'u bwâu i gyd yn dynn. Mae carnau'r meirch yn galed fel carreg, ac olwynion eu cerbydau yn troi fel corwynt.
Isai WelBeibl 5:29  Mae eu rhuad fel llew, maen nhw'n rhuo fel llewod ifanc sy'n chwyrnu wrth ddal yr ysglyfaeth a'i lusgo i ffwrdd – all neb ei achub!
Isai WelBeibl 5:30  Bryd hynny, bydd sŵn y rhuo fel tonnau'r môr yn taro'r tir. Wrth edrych tua'r tir gwelir tywyllwch ac argyfwng, a'r golau'n troi'n dywyllwch yn y cymylau o ewyn.