ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 21
Isai | WelBeibl | 21:1 | Neges am “yr Anialwch wrth y môr” (sef Babilon): Fel y gwyntoedd stormus sy'n rhuthro drwy'r Negef, mae e'n dod o'r anialwch, o wlad sydd i'w hofni. | |
Isai | WelBeibl | 21:2 | Cafodd gweledigaeth erchyll ei rhoi i mi: “Mae'r bradwr yn bradychu, a'r dinistrydd yn dinistrio! Ymlaen, Elam! Gwarchae arni, Media! Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi'i achosi.” | |
Isai | WelBeibl | 21:3 | Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd; Mae poenau yn gafael yno i fel gwraig mewn poen wrth gael babi. Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed, ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld. | |
Isai | WelBeibl | 21:4 | Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig. Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef: | |
Isai | WelBeibl | 21:5 | Mae “Trefnwch wledd” wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!” “Bwytwch ac yfwch!” wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tarianau!” | |
Isai | WelBeibl | 21:6 | Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i: “Dos, gosod wyliwr i edrych allan, a dweud beth mae'n ei weld. | |
Isai | WelBeibl | 21:7 | Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau, marchog ar asyn neu farchog ar gamel, dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.” | |
Isai | WelBeibl | 21:8 | Yna mae'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel: “Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd, ac wedi edrych allan bob nos. | |
Isai | WelBeibl | 21:9 | Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod – dyn mewn cerbyd gyda phâr o geffylau!” Ac mae'n gweiddi'n uchel, “Mae wedi syrthio! Mae Babilon wedi syrthio! Mae'r delwau o'i holl dduwiau yn ddarnau mân ar lawr!” | |
Isai | WelBeibl | 21:10 | Chi sydd wedi dioddef – fy mhobl ar fy llawr dyrnu: dw i wedi dweud wrthoch chi beth glywais i gan yr ARGLWYDD hollbwerus, Duw Israel. | |
Isai | WelBeibl | 21:11 | Neges am Dwma: Mae rhywun yn galw arna i o Seir: “Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl? Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?” | |
Isai | WelBeibl | 21:12 | Atebodd y gwyliwr, “Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl. Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch. Trowch! Dewch yn ôl!” | |
Isai | WelBeibl | 21:14 | Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig, chi sy'n byw yn Tema; rhowch fara i'r ffoaduriaid. | |
Isai | WelBeibl | 21:15 | Maen nhw'n dianc rhag y rhyfel, rhag y cleddyf sydd wedi'i dynnu o'r wain, rhag y bwa sy'n barod i saethu, a rhag caledi'r frwydr. | |
Isai | WelBeibl | 21:16 | Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union bydd ysblander Cedar wedi darfod; | |