Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 66
Isai WelBeibl 66:1  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Y nefoedd ydy fy ngorsedd i, a'r ddaear ydy fy stôl droed i. Ble allech chi adeiladu teml fel yna i mi? Ble dych chi am ei roi i mi i orffwys?
Isai WelBeibl 66:2  Onid fi sydd wedi creu popeth sy'n bodoli? Fi ddaeth â nhw i fod!” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn. “Ac eto dyma pwy dw i'n cymryd sylw ohonyn nhw: Y rhai tlawd sy'n teimlo'n annigonol ac sy'n parchu fy neges.
Isai WelBeibl 66:3  Ond am y bobl sy'n lladd ych ac yna'n llofruddio rhywun, yn aberthu oen ac yna'n torri gwddf ci, yn cyflwyno offrwm o rawn ac yna'n aberthu gwaed moch, yn llosgi arogldarth ac yna'n addoli eilun-dduwiau – maen nhw wedi dewis mynd eu ffordd eu hunain ac yn mwynhau gwneud y pethau ffiaidd yma –
Isai WelBeibl 66:4  bydda i'n dewis eu cosbi nhw'n llym, a throi eu hofnau gwaetha'n realiti. Pan oeddwn i'n galw, wnaeth neb ateb; pan oeddwn i'n siarad, doedd neb yn gwrando. Roedden nhw'n gwneud pethau roeddwn i'n eu casáu, ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”
Isai WelBeibl 66:5  Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD, chi sy'n parchu beth mae'n ei ddweud! Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chi a'ch cau chi allan am sefyll drosto i. Maen nhw'n dweud yn wawdlyd: “Boed i'r ARGLWYDD gael ei anrhydeddu, i ni eich gweld chi'n cael eich gwneud yn hapus.” Ond byddan nhw'n cael eu cywilyddio.
Isai WelBeibl 66:6  Gwrandwch! Mae twrw yn dod o'r ddinas a sŵn yn dod o'r deml, sŵn yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i'w elynion.
Isai WelBeibl 66:7  All gwraig gael plentyn heb boenau geni? All hi eni mab cyn i'r pyliau ddechrau?
Isai WelBeibl 66:8  Na! Pwy glywodd am y fath beth? Pwy welodd rywbeth felly'n digwydd? Ydy gwlad yn geni plant mewn diwrnod? Ydy cenedl yn dod i fod mewn moment? Ond dyma Seion newydd ddechrau esgor ac mae eisoes wedi cael ei phlant!
Isai WelBeibl 66:9  “Fyddwn i'n gadael i'r dŵr dorri heb eni plentyn?” —yr ARGLWYDD sy'n gofyn. “Fyddwn i'n dechrau'r broses eni, ac yna'n ei rhwystro?” —ie, dy Dduw sy'n gofyn.
Isai WelBeibl 66:10  Byddwch yn llawen dros Jerwsalem a dathlu gyda hi, bawb ohonoch chi sy'n ei charu! Ymunwch yn y dathlu, chi fu'n galaru drosti –
Isai WelBeibl 66:11  i chi gael sugno'i bronnau a chael eich bodloni, cael blas wrth lepian ar hyfrydwch ei thethi.
Isai WelBeibl 66:12  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Dw i'n rhoi iddi heddwch perffaith fel afon, a bydd cyfoeth y cenhedloedd fel ffrwd yn gorlifo iddi. Byddwch yn cael sugno'i bronnau a'ch cario fel babi, ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach.
Isai WelBeibl 66:13  Bydda i'n eich cysuro chi fel mam yn cysuro'i phlentyn; byddwch chi'n cael eich cysuro yn Jerwsalem.”
Isai WelBeibl 66:14  Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn, a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu. Bydd hi'n amlwg fod nerth yr ARGLWYDD gyda'i weision, ond ei fod wedi digio gyda'i elynion.
Isai WelBeibl 66:15  Ydy, mae'r ARGLWYDD yn dod mewn tân ac mae sŵn ei gerbydau fel corwynt. Mae'n dod i ddangos ei fod yn ddig, ac i geryddu gyda fflamau tân.
Isai WelBeibl 66:16  Achos bydd yr ARGLWYDD yn barnu pawb hefo tân a gyda'i gleddyf, a bydd llawer yn cael eu lladd ganddo.
Isai WelBeibl 66:17  “Mae hi ar ben ar bawb sy'n cysegru eu hunain a mynd drwy'r ddefod o ‛buro‛ eu hunain i ddilyn yr un yn y canol ac addoli yn y gerddi paganaidd, gan wledda ar gig moch a phethau ffiaidd eraill fel llygod,” meddai'r ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 66:18  “Dw i'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud a'i feddwl. Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd i gyd, a phobl o bob iaith, iddyn nhw ddod a gweld fy ysblander i.
Isai WelBeibl 66:19  Bydda i'n gosod arwydd yn eu canol nhw, ac yn anfon at y cenhedloedd rai o'r bobl fydd wedi llwyddo i ddianc: i Tarshish, at y Libiaid a'r Lydiaid (y rhai sy'n defnyddio bwa saeth); i Twbal, Groeg, a'r ynysoedd pell sydd heb glywed sôn amdana i na gweld fy ysblander i. Byddan nhw'n dweud wrth y cenhedloedd am fy ysblander i.
Isai WelBeibl 66:20  A byddan nhw'n dod â'ch perthnasau o'r gwledydd i gyd yn offrwm i'r ARGLWYDD; dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throliau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd,” meddai'r ARGLWYDD, “yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr ARGLWYDD mewn llestr glân.
Isai WelBeibl 66:21  A bydda i'n dewis rhai ohonyn nhw i fod yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” meddai'r ARGLWYDD.
Isai WelBeibl 66:22  “Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydd dw i'n mynd i'w gwneud yn aros am byth o'm blaen i,” —meddai'r ARGLWYDD, “felly y bydd eich plant a'ch enw chi yn aros.
Isai WelBeibl 66:23  O un ŵyl y lleuad newydd i'r llall, ac o un Saboth i Saboth arall, bydd pawb yn dod i addoli o mlaen i.” —yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.
Isai WelBeibl 66:24  “Byddan nhw'n mynd allan ac yn gweld cyrff y rhai hynny oedd wedi gwrthryfela yn fy erbyn i: Fydd y cynrhon ynddyn nhw ddim yn marw, na'r tân sy'n eu llosgi nhw yn diffodd; byddan nhw'n ffiaidd yng ngolwg pawb.”