Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 28
Isai WelBeibl 28:1  Gwae Samaria! Bydd coron falch meddwon Effraim yn syrthio, a'i harddwch yn ddim ond blodau wedi gwywo – blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Maen nhw'n chwil gaib!
Isai WelBeibl 28:2  Edrychwch! Mae gan y Meistr un cryf a dewr sydd fel storm o genllysg, ie, drycin ddinistriol – fel storm pan mae'r glaw yn arllwys i lawr ac yn bwrw popeth i'r llawr.
Isai WelBeibl 28:3  Bydd coron falch meddwon Effraim wedi'i sathru dan draed,
Isai WelBeibl 28:4  a'i blodau wedi gwywo – y blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Byddan nhw fel ffigysen gynnar cyn i'r cynhaeaf ddod. Bydd rhywun yn sylwi arni ac yn ei llyncu yr eiliad mae'n gafael ynddi.
Isai WelBeibl 28:5  Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn goron hardd, ac yn dorch wedi'i phlethu'n hyfryd i'r bobl fydd wedi'u gadael ar ôl.
Isai WelBeibl 28:6  Bydd yn rhoi arweiniad i'r un sy'n eistedd i farnu, a nerth i'r rhai sy'n amddiffyn giatiau'r ddinas.
Isai WelBeibl 28:7  Ond mae'r rhain wedi meddwi'n gaib ar win; maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw. Mae'r offeiriad a'r proffwyd wedi meddwi'n gaib ar gwrw a drysu'n lân ar win. Maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw, a'u gweledigaethau'n ddryslyd; maen nhw'n baglu wrth farnu.
Isai WelBeibl 28:8  Mae chwŷd a charthion dros y byrddau i gyd; does dim lle'n lân o gwbl.
Isai WelBeibl 28:9  “Pwy mae e'n gallu ei ddysgu? I bwy fyddai e'n gallu esbonio rhywbeth? I blantos bach sydd newydd ddod oddi ar y frest falle!
Isai WelBeibl 28:10  Fel ailadrodd llythrennau'r wyddor, ‘a, b’, ‘a, b’, ‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’, tyrd yma, bach; fan yma, bach!”
Isai WelBeibl 28:11  O'r gorau, bydd yn siarad gyda nhw fel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron.
Isai WelBeibl 28:12  Roedd wedi dweud wrthyn nhw yn y gorffennol: “Dyma le saff, lle i'r blinedig orffwys; dyma le i chi orwedd i lawr.” Ond doedd neb yn fodlon gwrando.
Isai WelBeibl 28:13  Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw: “‘a, b’, ‘a, b’, ‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’, tyrd yma, bach; fan yma, bach!” Wrth geisio codi i gamu yn eu blaenau byddan nhw'n syrthio ar eu tinau, yn cael eu dryllio a'u rhwymo a'u dal.
Isai WelBeibl 28:14  Felly dyma neges yr ARGLWYDD i chi sy'n gwawdio, chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem!
Isai WelBeibl 28:15  Chi sy'n brolio, “Dŷn ni wedi gwneud cytundeb â Marwolaeth, a tharo bargen i osgoi'r bedd. Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio, fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni. Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio, a chelwydd yn lle saff i gysgodi.”
Isai WelBeibl 28:16  Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion, carreg ddiogel, conglfaen gwerthfawr, sylfaen hollol gadarn. Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio.
Isai WelBeibl 28:17  Bydda i'n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur, a thegwch yn llinyn plwm. Bydd cenllysg yn ysgubo'r twyll, sef eich lle i guddio, a bydd dŵr y llifogydd yn boddi'ch lle saff i gysgodi.
Isai WelBeibl 28:18  Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri, a'ch bargen gyda'r bedd yn chwalu. Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio, chi fydd yn diodde'r difrod.
Isai WelBeibl 28:19  Bydd yn eich taro chi bob tro y bydd yn dod. Bydd yn dod un bore ar ôl y llall, bob dydd a bob nos.” Bydd deall y neges yma yn achosi dychryn ofnadwy.
Isai WelBeibl 28:20  Mae'r gwely'n rhy fyr i ymestyn arno, a'r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano!
Isai WelBeibl 28:21  Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm; bydd yn cyffroi i wneud ei waith fel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon – ond bydd yn waith rhyfedd! Bydd yn cyflawni'r dasg – ond bydd yn dasg ddieithr!
Isai WelBeibl 28:22  Felly, stopiwch wawdio, rhag i'ch rhwymau gael eu tynhau. Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn gorchymyn dinistrio'r wlad gyfan.
Isai WelBeibl 28:23  Gwrandwch yn astud ar hyn! Gwnewch yn siŵr eich bod yn clywed be dw i'n ddweud.
Isai WelBeibl 28:24  Ydy'r sawl sy'n aredig yn aredig drwy'r amser heb hau? Ydy e'n troi'r tir a'i lyfnu'n ddi-baid?
Isai WelBeibl 28:25  Ar ôl ei lefelu, onid ydy e'n gwasgaru ffenigl a hadau cwmin? Onid ydy e'n hau gwenith mewn rhes, haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely?
Isai WelBeibl 28:26  Ei Dduw sy'n ei ddysgu; mae'n dysgu'r ffordd iawn iddo.
Isai WelBeibl 28:27  Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled, na cwmin gydag olwyn trol. Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon, a chwmin gyda gwialen.
Isai WelBeibl 28:28  Mae gwenith yn cael ei falu, ond ddim yn ddiddiwedd. Mae olwyn trol yn rholio drosto, ond dydy'r ceffylau ddim yn ei sathru.
Isai WelBeibl 28:29  A'r ARGLWYDD hollbwerus sydd wedi trefnu hyn hefyd – Mae ganddo gynllun gwych, ac mae'n rhyfeddol o ddoeth.