ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 28
Isai | WelBeibl | 28:1 | Gwae Samaria! Bydd coron falch meddwon Effraim yn syrthio, a'i harddwch yn ddim ond blodau wedi gwywo – blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Maen nhw'n chwil gaib! | |
Isai | WelBeibl | 28:2 | Edrychwch! Mae gan y Meistr un cryf a dewr sydd fel storm o genllysg, ie, drycin ddinistriol – fel storm pan mae'r glaw yn arllwys i lawr ac yn bwrw popeth i'r llawr. | |
Isai | WelBeibl | 28:4 | a'i blodau wedi gwywo – y blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon. Byddan nhw fel ffigysen gynnar cyn i'r cynhaeaf ddod. Bydd rhywun yn sylwi arni ac yn ei llyncu yr eiliad mae'n gafael ynddi. | |
Isai | WelBeibl | 28:5 | Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn goron hardd, ac yn dorch wedi'i phlethu'n hyfryd i'r bobl fydd wedi'u gadael ar ôl. | |
Isai | WelBeibl | 28:6 | Bydd yn rhoi arweiniad i'r un sy'n eistedd i farnu, a nerth i'r rhai sy'n amddiffyn giatiau'r ddinas. | |
Isai | WelBeibl | 28:7 | Ond mae'r rhain wedi meddwi'n gaib ar win; maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw. Mae'r offeiriad a'r proffwyd wedi meddwi'n gaib ar gwrw a drysu'n lân ar win. Maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw, a'u gweledigaethau'n ddryslyd; maen nhw'n baglu wrth farnu. | |
Isai | WelBeibl | 28:9 | “Pwy mae e'n gallu ei ddysgu? I bwy fyddai e'n gallu esbonio rhywbeth? I blantos bach sydd newydd ddod oddi ar y frest falle! | |
Isai | WelBeibl | 28:10 | Fel ailadrodd llythrennau'r wyddor, ‘a, b’, ‘a, b’, ‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’, tyrd yma, bach; fan yma, bach!” | |
Isai | WelBeibl | 28:11 | O'r gorau, bydd yn siarad gyda nhw fel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron. | |
Isai | WelBeibl | 28:12 | Roedd wedi dweud wrthyn nhw yn y gorffennol: “Dyma le saff, lle i'r blinedig orffwys; dyma le i chi orwedd i lawr.” Ond doedd neb yn fodlon gwrando. | |
Isai | WelBeibl | 28:13 | Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw: “‘a, b’, ‘a, b’, ‘c, ch, d’, ‘c, ch, d’, tyrd yma, bach; fan yma, bach!” Wrth geisio codi i gamu yn eu blaenau byddan nhw'n syrthio ar eu tinau, yn cael eu dryllio a'u rhwymo a'u dal. | |
Isai | WelBeibl | 28:14 | Felly dyma neges yr ARGLWYDD i chi sy'n gwawdio, chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem! | |
Isai | WelBeibl | 28:15 | Chi sy'n brolio, “Dŷn ni wedi gwneud cytundeb â Marwolaeth, a tharo bargen i osgoi'r bedd. Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio, fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni. Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio, a chelwydd yn lle saff i gysgodi.” | |
Isai | WelBeibl | 28:16 | Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud: “Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion, carreg ddiogel, conglfaen gwerthfawr, sylfaen hollol gadarn. Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio. | |
Isai | WelBeibl | 28:17 | Bydda i'n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur, a thegwch yn llinyn plwm. Bydd cenllysg yn ysgubo'r twyll, sef eich lle i guddio, a bydd dŵr y llifogydd yn boddi'ch lle saff i gysgodi. | |
Isai | WelBeibl | 28:18 | Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri, a'ch bargen gyda'r bedd yn chwalu. Pan fydd y dinistr yn ysgubo heibio, chi fydd yn diodde'r difrod. | |
Isai | WelBeibl | 28:19 | Bydd yn eich taro chi bob tro y bydd yn dod. Bydd yn dod un bore ar ôl y llall, bob dydd a bob nos.” Bydd deall y neges yma yn achosi dychryn ofnadwy. | |
Isai | WelBeibl | 28:20 | Mae'r gwely'n rhy fyr i ymestyn arno, a'r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano! | |
Isai | WelBeibl | 28:21 | Bydd yr ARGLWYDD yn codi fel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm; bydd yn cyffroi i wneud ei waith fel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon – ond bydd yn waith rhyfedd! Bydd yn cyflawni'r dasg – ond bydd yn dasg ddieithr! | |
Isai | WelBeibl | 28:22 | Felly, stopiwch wawdio, rhag i'ch rhwymau gael eu tynhau. Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD hollbwerus, yn gorchymyn dinistrio'r wlad gyfan. | |
Isai | WelBeibl | 28:24 | Ydy'r sawl sy'n aredig yn aredig drwy'r amser heb hau? Ydy e'n troi'r tir a'i lyfnu'n ddi-baid? | |
Isai | WelBeibl | 28:25 | Ar ôl ei lefelu, onid ydy e'n gwasgaru ffenigl a hadau cwmin? Onid ydy e'n hau gwenith mewn rhes, haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely? | |
Isai | WelBeibl | 28:27 | Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled, na cwmin gydag olwyn trol. Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon, a chwmin gyda gwialen. | |
Isai | WelBeibl | 28:28 | Mae gwenith yn cael ei falu, ond ddim yn ddiddiwedd. Mae olwyn trol yn rholio drosto, ond dydy'r ceffylau ddim yn ei sathru. | |