ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 40
Isai | WelBeibl | 40:2 | “Byddwch yn garedig wrth Jerwsalem, a dweud wrthi fod y dyddiau caled drosodd; mae hi wedi derbyn y gosb am ei drygioni. Yn wir, mae'r ARGLWYDD wedi gwneud iddi dalu'n llawn am ei holl bechodau.” | |
Isai | WelBeibl | 40:3 | Mae llais yn gweiddi'n uchel: “Cliriwch y ffordd i'r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy'r diffeithwch! | |
Isai | WelBeibl | 40:4 | Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn, a bydd cribau'r mynyddoedd yn dir gwastad. | |
Isai | WelBeibl | 40:5 | Bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dod i'r golwg, a bydd y ddynoliaeth gyfan yn ei weld yr un pryd.” —mae'r ARGLWYDD wedi dweud. | |
Isai | WelBeibl | 40:6 | Mae'r llais yn dweud, “Gwaedda!” Ac un arall yn gofyn, “Gweiddi be?” “Mae pobl feidrol fel glaswellt,” meddai, “a ffyddlondeb dynol fel blodyn gwyllt; | |
Isai | WelBeibl | 40:7 | mae'r glaswellt yn crino a'r blodyn yn gwywo pan mae'r ARGLWYDD yn chwythu arnyn nhw.” Ie, glaswellt ydy'r bobl. | |
Isai | WelBeibl | 40:8 | Mae'r glaswellt yn crino, a'r blodyn yn gwywo, ond mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth! | |
Isai | WelBeibl | 40:9 | Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da, dringa i ben mynydd uchel! Ie, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da, gwaedda'n uchel! Gwaedda! Paid bod ag ofn! Dwed wrth drefi Jwda: “Dyma'ch Duw chi!” | |
Isai | WelBeibl | 40:10 | Edrych! Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn dod fel milwr cryf i deyrnasu gyda nerth. Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae'n dod â'i roddion o'i flaen. | |
Isai | WelBeibl | 40:11 | Bydd yn bwydo'i braidd fel bugail; bydd yn codi'r ŵyn yn ei freichiau ac yn eu cario yn ei gôl, tra'n arwain y defaid sy'n eu magu. | |
Isai | WelBeibl | 40:12 | Pwy sydd wedi dal y moroedd yng nghledr ei law, a mesur yr awyr rhwng ei fysedd? Pwy sydd wedi dal pridd y ddaear mewn padell, pwyso'r mynyddoedd mewn mantol a'r bryniau gyda chlorian? | |
Isai | WelBeibl | 40:13 | Pwy sydd wedi gosod ffiniau i ysbryd yr ARGLWYDD, neu roi arweiniad iddo fel ei gynghorydd personol? | |
Isai | WelBeibl | 40:14 | Gyda pwy mae Duw'n trafod i gael gwybod beth i'w wneud? Pwy sy'n ei ddysgu i wneud y peth iawn? Pwy sy'n rhoi gwybodaeth iddo? Pwy sy'n ei helpu i ddeall? | |
Isai | WelBeibl | 40:15 | Dydy'r cenhedloedd ond diferyn mewn bwced, dim mwy na llwch ar glorian! Dydy'r ynysoedd yn ddim mwy na llwch mân. | |
Isai | WelBeibl | 40:16 | Does dim digon o goed tân yn Libanus, na digon o anifeiliaid chwaith, i baratoi offrwm teilwng i'w losgi iddo. | |
Isai | WelBeibl | 40:17 | Dydy'r gwledydd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e – maen nhw fel rhywbeth dibwys yn ei olwg, yn llai na dim byd! | |
Isai | WelBeibl | 40:18 | Felly, i bwy mae Duw yn debyg yn eich barn chi? Gyda beth allwch chi ei gymharu? | |
Isai | WelBeibl | 40:19 | Eilun? Cerfiwr sy'n siapio hwnnw, a gof yn ei orchuddio ag aur a gwneud bachau i'w ddal yn ei le! | |
Isai | WelBeibl | 40:20 | Mae'r sawl sy'n rhy dlawd yn dewis pren fydd ddim yn pydru, ac yn edrych am y crefftwr gorau i wneud eilun sydd ddim yn symud! | |
Isai | WelBeibl | 40:21 | Ydych chi ddim yn gwybod? Ydych chi ddim wedi clywed? Oes neb wedi dweud wrthoch chi o'r dechrau? Ydych chi ddim yn deall sut gafodd y ddaear ei sylfaenu? | |
Isai | WelBeibl | 40:22 | Fe ydy'r Un sy'n eistedd uwchben y ddaear, ac mae'r bobl sy'n byw arni fel ceiliogod rhedyn o'i flaen. Fe ydy'r Un sy'n taenu'r awyr fel llenni, ac yn ei lledu allan fel pabell i fyw ynddi. | |
Isai | WelBeibl | 40:23 | Fe ydy'r un sy'n gwneud y pwysigion yn neb, a'r rhai sy'n llywodraethu ar y ddaear yn ddim. | |
Isai | WelBeibl | 40:24 | Prin eu bod wedi'u plannu, prin eu bod wedi'u hau, prin eu bod wedi bwrw gwreiddiau yn y tir – mae e'n chwythu arnyn nhw ac maen nhw'n gwywo, ac mae gwynt stormus yn eu cario i ffwrdd fel us. | |
Isai | WelBeibl | 40:25 | “I bwy dw i'n debyg yn eich barn chi? Oes rhywun arall cystal?” —meddai'r Un Sanctaidd. | |
Isai | WelBeibl | 40:26 | Edrychwch i fyny ar y sêr! Pwy wnaeth eu creu nhw? Pwy sy'n eu galw nhw allan bob yn un? Pwy sy'n galw pob un wrth ei enw? Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol – does dim un ohonyn nhw ar goll. | |
Isai | WelBeibl | 40:27 | Jacob, pam wyt ti'n dweud, “Dydy'r ARGLWYDD ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi”? Israel, pam wyt ti'n honni, “Dydy Duw yn cymryd dim sylw o'm hachos i”? | |
Isai | WelBeibl | 40:28 | Wyt ti ddim yn gwybod? Wyt ti ddim wedi clywed? Yr ARGLWYDD ydy'r Duw tragwyddol! Fe sydd wedi creu'r ddaear gyfan. Dydy ei nerth e ddim yn pallu; Dydy e byth yn blino. Mae e'n rhy ddoeth i unrhyw un ei ddeall! | |