Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 64
Isai WelBeibl 64:1  O na fyddet ti'n rhwygo'r awyr a dod i lawr, nes bod y mynyddoedd yn crynu o dy flaen di –
Isai WelBeibl 64:2  byddai fel tân yn llosgi brigau sych, neu'n gwneud i ddŵr ferwi – i dy elynion ddod i wybod pwy wyt ti ac i'r cenhedloedd grynu o dy flaen di!
Isai WelBeibl 64:3  Roeddet ti'n arfer gwneud pethau syfrdanol, cwbl annisgwyl! Roeddet ti'n dod i lawr ac roedd y mynyddoedd yn crynu o dy flaen.
Isai WelBeibl 64:4  Does neb erioed wedi clywed a does neb wedi gweld Duw tebyg i ti, sy'n gweithredu o blaid y rhai sy'n ei drystio fe.
Isai WelBeibl 64:5  Ti'n helpu'r rhai sy'n mwynhau gwneud beth sy'n iawn, ac sy'n cofio sut un wyt ti. Er dy fod ti'n ddig am ein bod ni'n pechu o hyd, gallen ni ddal gael ein hachub!
Isai WelBeibl 64:6  Ond bellach dŷn ni i gyd fel rhywbeth aflan, mae hyd yn oed ein gorau ni fel dillad isaf budron. Dŷn ni i gyd wedi gwywo fel deilen, Ac mae'n methiant, fel y gwynt, yn ein chwythu i ffwrdd.
Isai WelBeibl 64:7  Does neb yn galw ar dy enw di, nac yn gwneud ymdrech i ddal gafael ynot ti. Ti wedi troi i ffwrdd oddi wrthon ni, a gwneud i ni wynebu'n methiant!
Isai WelBeibl 64:8  Ac eto, ARGLWYDD, ti ydy'n Tad ni! Gwaith dy ddwylo di ydyn ni – ni ydy'r clai a thi ydy'r crochenydd.
Isai WelBeibl 64:9  Paid gwylltio'n llwyr hefo ni, ARGLWYDD! Paid dal dig am ein methiant am byth! Edrych arnon ni i gyd, dy bobl!
Isai WelBeibl 64:10  Mae dy drefi sanctaidd yn anialwch! Mae Seion yn anialwch, a Jerwsalem yn adfeilion.
Isai WelBeibl 64:11  Mae'r deml gysegredig a hardd lle roedd ein hynafiaid yn dy foli di, wedi cael ei llosgi'n ulw. Mae ein trysorau'n bentwr o rwbel.
Isai WelBeibl 64:12  Wyt ti'n mynd i ddal i ymatal er gwaetha hyn i gyd, ARGLWYDD? Wyt ti'n mynd i sefyll yna'n dawel tra dŷn ni'n cael ein cosbi mor drwm?