ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 11
Isai | WelBeibl | 11:1 | Ond bydd brigyn newydd yn tyfu o foncyff Jesse, a changen ffrwythlon yn tyfu o'i wreiddiau. | |
Isai | WelBeibl | 11:2 | Bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn gorffwys arno: ysbryd doethineb rhyfeddol, ysbryd strategaeth sicr, ysbryd defosiwn a pharch at yr ARGLWYDD. | |
Isai | WelBeibl | 11:3 | Bydd wrth ei fodd yn ufuddhau i'r ARGLWYDD: fydd e ddim yn barnu ar sail yr olwg gyntaf, nac yn gwneud penderfyniad ar sail rhyw si. | |
Isai | WelBeibl | 11:4 | Bydd yn barnu achos pobl dlawd yn deg ac yn rhoi dyfarniad cyfiawn i'r rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir. Bydd ei eiriau fel gwialen yn taro'r ddaear a bydd yn lladd y rhai drwg gyda'i anadl. | |
Isai | WelBeibl | 11:6 | Bydd y blaidd yn cyd-fyw gyda'r oen, a'r llewpard yn gorwedd i lawr gyda'r myn gafr. Bydd y llo a'r llew ifanc yn pori gyda'i gilydd, a bachgen bach yn gofalu amdanyn nhw. | |
Isai | WelBeibl | 11:7 | Bydd y fuwch a'r arth yn pori gyda'i gilydd, a'u rhai ifanc yn cydorwedd; a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych. | |
Isai | WelBeibl | 11:8 | Bydd babi bach yn chwarae wrth nyth y cobra a phlentyn bach yn rhoi ei law ar dwll y wiber. | |
Isai | WelBeibl | 11:9 | Fydd neb yn gwneud drwg nac yn dinistrio dim ar y mynydd sydd wedi'i gysegru i mi. Fel mae'r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd y ddaear yn llawn pobl sy'n nabod yr ARGLWYDD. | |
Isai | WelBeibl | 11:10 | Bryd hynny, bydd y ffaith fod boncyff Jesse yn dal i sefyll yn arwydd clir i'r bobloedd – bydd cenhedloedd yn dod ato am gyngor, a bydd ei le yn ysblennydd. | |
Isai | WelBeibl | 11:11 | Bryd hynny, bydd y Meistr yn mynd ati i ryddhau gweddill ei bobl o wlad Asyria – a hefyd o'r Aifft, Pathros, Dwyrain Affrica, Elam, Babilonia, Chamath, a'r ynysoedd. | |
Isai | WelBeibl | 11:12 | Bydd yn codi baner i alw'r cenhedloedd, ac yn casglu'r bobl gafodd eu halltudio o Israel. Bydd yn casglu pobl Jwda gafodd eu gwasgaru o bedwar ban byd. | |
Isai | WelBeibl | 11:13 | Yna bydd cenfigen Effraim yn darfod a bydd yr elyniaeth rhyngddi a Jwda yn dod i ben. Fydd Effraim ddim yn cenfigennu wrth Jwda, a fydd Jwda ddim yn plagio Effraim. | |
Isai | WelBeibl | 11:14 | Byddan nhw'n ymosod ar y Philistiaid i'r gorllewin, ac yn ysbeilio pobl y dwyrain gyda'i gilydd. Bydd Edom a Moab yn cael eu rheoli ganddyn nhw, a bydd pobl Ammon fel gwas bach iddyn nhw. | |
Isai | WelBeibl | 11:15 | Bydd yr ARGLWYDD yn sychu Môr yr Aifft. Bydd yn codi ei law dros afon Ewffrates ac yn anfon gwynt ffyrnig i'w hollti'n saith sychnant, er mwyn gallu ei chroesi heb wlychu'r traed. | |