ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 36
Isai | WelBeibl | 36:1 | Pan oedd Heseceia wedi bod yn frenin am bron un deg pedair o flynyddoedd, dyma Senacherib, brenin Asyria, yn ymosod ar drefi amddiffynnol Jwda a'u dal nhw. | |
Isai | WelBeibl | 36:2 | Yna dyma frenin Asyria yn anfon prif swyddog ei balas o Lachish at y Brenin Heseceia yn Jerwsalem, a byddin enfawr gydag e. Dyma'r prif swyddog yn aros wrth sianel ddŵr y gronfa uchaf, ar ffordd Maes y Golchwr. | |
Isai | WelBeibl | 36:3 | Ac aeth Eliacim fab Chilceia, arolygwr y palas, allan i'w gyfarfod gyda Shefna yr ysgrifennydd, a Ioach fab Asaff, y cofnodydd. | |
Isai | WelBeibl | 36:4 | Dwedodd prif swyddog Asyria wrthyn nhw am roi'r neges yma i Heseceia: “Dyma mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud: ‘Beth sy'n dy wneud di mor hyderus? | |
Isai | WelBeibl | 36:5 | Siarad gwag ydy honni fod gen ti'r strategaeth a'r gallu milwrol angenrheidiol! Pwy wyt ti'n pwyso arno go iawn, dy fod yn beiddio gwrthryfela yn fy erbyn i? | |
Isai | WelBeibl | 36:6 | Ai'r Aifft wyt ti'n ei drystio? Dydy'r ffon fagl yna ddim gwell na brwynen wedi hollti, ac mae'n torri llaw ac yn anafu pwy bynnag sy'n pwyso arni. Dyna sy'n digwydd i bawb sy'n trystio'r Pharo, brenin yr Aifft. | |
Isai | WelBeibl | 36:7 | Neu ydych chi am ddweud wrtho i eich bod yn trystio'r ARGLWYDD eich Duw? Onid ydy Heseceia wedi cael gwared â'i ganolfannau addoli lleol a'i allorau e, a dweud wrth bobl Jwda mai dim ond wrth yr allor yn Jerwsalem maen nhw i addoli? | |
Isai | WelBeibl | 36:8 | Tyrd nawr, beth am drafod telerau gyda fy meistr, brenin Asyria: betia i di, petawn i'n rhoi dwy fil o geffylau i ti, na fyddai gen ti ddigon o ddynion i'w reidio nhw! | |
Isai | WelBeibl | 36:9 | Felly sut alli di wrthod cynnig gan ddirprwy un o weision lleia fy meistr hyd yn oed? Ti ddim yn mynd i fynnu dal ati i drystio'r Aifft am gerbydau a marchogion, siawns? | |
Isai | WelBeibl | 36:10 | A beth bynnag, wyt ti'n meddwl fy mod i wedi martsio yn erbyn y wlad yma i'w dinistrio hi heb i'r ARGLWYDD fy helpu i? Yr ARGLWYDD ei hun ddwedodd wrtho i: “Dos i ymladd yn erbyn y wlad yna a'i dinistrio hi!”’” | |
Isai | WelBeibl | 36:11 | Dyma Eliacim, Shefna, a Ioach yn dweud wrth y prif swyddog, “Plîs siarada yn Aramaeg hefo dy weision; dŷn ni'n deall yr iaith honno. Paid siarad hefo ni yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y waliau.” | |
Isai | WelBeibl | 36:12 | Ond dyma'r prif swyddog yn ateb, “Ydych chi'n meddwl mai atoch chi a'ch meistr yn unig mae fy meistr i wedi f'anfon i ddweud hyn? Na, mae'r neges i bawb sydd ar y waliau hefyd. Byddan nhw, fel chithau, yn gorfod bwyta'u cachu ac yfed eu piso eu hunain.” | |
Isai | WelBeibl | 36:14 | “Gwrandwch beth mae'r Ymerawdwr, brenin Asyria, yn ei ddweud! Peidiwch gadael i Heseceia eich twyllo chi, achos fydd e ddim yn gallu'ch achub chi. | |
Isai | WelBeibl | 36:15 | A pheidiwch gadael iddo eich cael chi i drystio'r ARGLWYDD, a dweud wrthoch chi, ‘Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni. Fydd y ddinas yma ddim yn syrthio i ddwylo brenin Asyria!’ | |
Isai | WelBeibl | 36:16 | Peidiwch gwrando arno! Dyma mae brenin Asyria'n ei ddweud: ‘Derbyniwch y telerau dw i'n eu cynnig; dewch allan ata i, a bydd pob un ohonoch chi'n cael bwyta o'i winwydden a'i goeden ffigys, ac yn cael yfed dŵr o'i ffynnon ei hun. | |
Isai | WelBeibl | 36:17 | Wedyn bydda i'n mynd â chi i wlad debyg i'ch gwlad chi – gwlad o fara a sudd grawnwin, o gaeau ŷd a gwinllannoedd. | |
Isai | WelBeibl | 36:18 | Gwyliwch rhag i Heseceia eich camarwain chi wrth ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein hachub ni.” Wnaeth duwiau'r gwledydd eraill achub eu tir nhw rhag brenin Asyria? | |
Isai | WelBeibl | 36:19 | Ble roedd duwiau Chamath ac Arpad? Ble roedd duwiau Seffarfaîm? Wnaethon nhw achub Samaria o'm gafael i? | |
Isai | WelBeibl | 36:20 | Pa un o'r duwiau yma i gyd achubodd eu gwlad o'm gafael i? Felly, sut mae'r ARGLWYDD yn mynd i achub Jerwsalem o'm gafael i?’” | |
Isai | WelBeibl | 36:21 | Ond roedd pawb yn cadw'n dawel ac yn dweud dim, achos roedd y brenin wedi gorchymyn: “Peidiwch â'i ateb e.” | |