ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 9
Isai | WelBeibl | 9:1 | Ond fydd y tywyllwch ddim yn para i'r tir aeth drwy'r fath argyfwng! Y tro cyntaf, cafodd tir Sabulon a thir Nafftali eu cywilyddio; ond yn y dyfodol bydd Duw yn dod ag anrhydedd i Galilea'r Cenhedloedd, ar Ffordd y Môr, a'r ardal yr ochr arall i afon Iorddonen. | |
Isai | WelBeibl | 9:2 | Mae'r bobl oedd yn byw yn y tywyllwch wedi gweld golau llachar. Mae golau wedi gwawrio ar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth. | |
Isai | WelBeibl | 9:3 | Ti wedi lluosogi'r genedl, a'i gwneud yn hapus iawn; maen nhw'n dathlu o dy flaen di fel ffermwyr adeg y cynhaeaf, neu filwyr yn cael sbri wrth rannu'r ysbail. | |
Isai | WelBeibl | 9:4 | Achos rwyt ti wedi torri'r iau oedd yn faich arnyn nhw, a'r ffon oedd yn curo'u cefnau nhw – sef gwialen y meistr gwaith – fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian. | |
Isai | WelBeibl | 9:5 | Bydd yr esgidiau fu'n sathru maes y gâd, a'r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed, yn cael eu taflu i'r fflamau i'w llosgi. | |
Isai | WelBeibl | 9:6 | Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni, mab wedi cael ei roi i ni. Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu. A bydd yn cael ei alw yn Strategydd rhyfeddol, y Duw arwrol, Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch. | |
Isai | WelBeibl | 9:7 | Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu, a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-draw i orsedd Dafydd a'i deyrnas. Bydd yn ei sefydlu a'i chryfhau a theyrnasu'n gyfiawn ac yn deg o hyn allan, ac am byth. Mae'r ARGLWYDD hollbwerus yn benderfynol o wneud hyn i gyd. | |
Isai | WelBeibl | 9:9 | Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny – Effraim a'r rhai sy'n byw yn Samaria. Roedden nhw'n falch ac yn ystyfnig, ac yn honni: | |
Isai | WelBeibl | 9:10 | “Mae'r blociau pridd wedi syrthio, ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd! Mae'r coed sycamor wedi'u torri i lawr, ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!” | |
Isai | WelBeibl | 9:11 | Yna, gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi. Roedd e wedi arfogi ei gelynion – | |
Isai | WelBeibl | 9:12 | daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin; roedd eu cegau'n llydan agored, a dyma nhw'n llyncu tir Israel. Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw. | |
Isai | WelBeibl | 9:13 | Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôl at yr un wnaeth eu taro nhw; dŷn nhw ddim wedi ceisio'r ARGLWYDD hollbwerus. | |
Isai | WelBeibl | 9:14 | Felly bydd yr ARGLWYDD yn torri pen a chynffon Israel, y gangen balmwydd a'r frwynen ar yr un diwrnod. | |
Isai | WelBeibl | 9:15 | Yr arweinwyr a'r bobl bwysig – nhw ydy'r pen; y proffwydi sy'n dysgu celwydd – nhw ydy'r gynffon. | |
Isai | WelBeibl | 9:17 | Dyna pam nad ydy'r ARGLWYDD yn hapus gyda'r bobl ifanc; dydy e ddim yn gallu cysuro'r plant amddifad a'r gweddwon. Maen nhw i gyd yn annuwiol ac yn ddrwg; maen nhw i gyd yn dweud pethau dwl. Eto, wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig, roedd yn dal yn eu herbyn nhw. | |
Isai | WelBeibl | 9:18 | Mae drygioni yn llosgi fel tân, ac yn dinistrio'r drain a'r mieri; mae'n llosgi drwy ddrysni'r coed nes bod y mwg yn codi'n golofnau. | |
Isai | WelBeibl | 9:19 | Pan mae'r ARGLWYDD hollbwerus wedi digio, mae'r wlad yn llosgi. Mae'r bobl fel tanwydd, a does neb yn poeni am neb arall. | |
Isai | WelBeibl | 9:20 | Maen nhw'n torri cig fan yma, ond yn dal i newynu; maen nhw'n bwyta fan acw ond ddim yn cael digon. Maen nhw'n brathu ac anafu ei gilydd – | |