ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 50
Isai | WelBeibl | 50:1 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Ble mae'r dystysgrif ysgariad rois i i'ch mam pan anfonais hi i ffwrdd? I bwy oeddwn i mewn dyled nes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw? Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg; cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela. | |
Isai | WelBeibl | 50:2 | Pam oedd neb yna pan ddes i? Pam wnaeth neb ateb pan oeddwn i'n galw? Ydy fy llaw i'n rhy wan i ryddhau? Ydw i'n rhy wan i achub? Edrychwch! Fi wnaeth geryddu'r môr a'i sychu! Galla i droi afonydd yn anialwch! Roedd pysgod yn pydru am eu bod heb ddŵr, wedi marw o syched! | |
Isai | WelBeibl | 50:4 | Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD, dafod i mi siarad ar ei ran; dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig. Bob bore mae'n fy neffro i ac yn fy nghael i wrando fel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu. | |
Isai | WelBeibl | 50:5 | Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi fy nysgu i wrando, a dw i ddim wedi gwrthryfela na throi fy nghefn arno. | |
Isai | WelBeibl | 50:6 | Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio, a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf. Wnes i ddim cuddio fy wyneb oddi wrth yr amarch a'r poeri. | |
Isai | WelBeibl | 50:7 | Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu – felly dw i ddim yn derbyn yr amarch. Dw i'n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint, a dw i'n gwybod na fydda i'n cywilyddio. | |
Isai | WelBeibl | 50:8 | Mae'r un sy'n fy amddiffyn i wrth fy ymyl – pwy sy'n meiddio ymladd yn fy erbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd! pwy sydd am fy ngwrthwynebu i? Gadewch iddo ddod ata i! | |
Isai | WelBeibl | 50:9 | Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i – pwy sy'n mynd i'm cael yn euog o wneud drwg? Edrychwch! Byddan nhw'n treulio fel dilledyn; bydd gwyfyn yn eu difetha nhw. | |
Isai | WelBeibl | 50:10 | Pwy ohonoch sy'n parchu'r ARGLWYDD? Pwy sy'n gwrando ar lais ei was? Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew, heb olau ganddo o gwbl, drystio'r ARGLWYDD a phwyso ar ei Dduw. | |