Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 50
Isai WelBeibl 50:1  Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Ble mae'r dystysgrif ysgariad rois i i'ch mam pan anfonais hi i ffwrdd? I bwy oeddwn i mewn dyled nes gorfod eich gwerthu chi iddyn nhw? Cawsoch eich gwerthu am fod mor ddrwg; cafodd eich mam ei hanfon i ffwrdd am eich bod wedi gwrthryfela.
Isai WelBeibl 50:2  Pam oedd neb yna pan ddes i? Pam wnaeth neb ateb pan oeddwn i'n galw? Ydy fy llaw i'n rhy wan i ryddhau? Ydw i'n rhy wan i achub? Edrychwch! Fi wnaeth geryddu'r môr a'i sychu! Galla i droi afonydd yn anialwch! Roedd pysgod yn pydru am eu bod heb ddŵr, wedi marw o syched!
Isai WelBeibl 50:3  Galla i wisgo'r awyr mewn du a'i gorchuddio â sachliain.”
Isai WelBeibl 50:4  Rhoddodd fy Meistr, yr ARGLWYDD, dafod i mi siarad ar ei ran; dw i wedi dysgu sut i gysuro'r blinedig. Bob bore mae'n fy neffro i ac yn fy nghael i wrando fel mae disgybl yn gwrando ac yn dysgu.
Isai WelBeibl 50:5  Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, wedi fy nysgu i wrando, a dw i ddim wedi gwrthryfela na throi fy nghefn arno.
Isai WelBeibl 50:6  Rhoddais fy nghefn i'r rhai oedd yn fy chwipio, a'm gên i'r rhai oedd yn tynnu'r farf. Wnes i ddim cuddio fy wyneb oddi wrth yr amarch a'r poeri.
Isai WelBeibl 50:7  Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn fy helpu – felly dw i ddim yn derbyn yr amarch. Dw i'n gwneud fy wyneb yn galed fel fflint, a dw i'n gwybod na fydda i'n cywilyddio.
Isai WelBeibl 50:8  Mae'r un sy'n fy amddiffyn i wrth fy ymyl – pwy sy'n meiddio ymladd yn fy erbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd! pwy sydd am fy ngwrthwynebu i? Gadewch iddo ddod ata i!
Isai WelBeibl 50:9  Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn fy helpu i – pwy sy'n mynd i'm cael yn euog o wneud drwg? Edrychwch! Byddan nhw'n treulio fel dilledyn; bydd gwyfyn yn eu difetha nhw.
Isai WelBeibl 50:10  Pwy ohonoch sy'n parchu'r ARGLWYDD? Pwy sy'n gwrando ar lais ei was? Dylai'r sawl sy'n cerdded mewn tywyllwch dudew, heb olau ganddo o gwbl, drystio'r ARGLWYDD a phwyso ar ei Dduw.
Isai WelBeibl 50:11  Ond chi sy'n cynnau'ch tân eich hunain ac yn paratoi ffaglau – cerddwch yng ngolau fflam eich tân a'r ffaglau ydych wedi'u tanio! Dyma fydd yn dod i chi o'm llaw i: byddwch chi'n gorwedd i gael eich poenydio!