ISAIAH
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
Chapter 56
Isai | WelBeibl | 56:1 | Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “Gwnewch beth sy'n iawn! Gwnewch beth sy'n deg! Dw i ar fin achub, a dangos fy nghyfiawnder. | |
Isai | WelBeibl | 56:2 | Y fath fendith fydd i'r bobl sy'n gwneud hyn, a'r rhai hynny sy'n dal gafael yn y peth – y rhai sy'n cadw'r Saboth, heb ei wneud yn aflan, ac yn stopio'u hunain rhag gwneud drwg. | |
Isai | WelBeibl | 56:3 | Ddylai'r estron sydd wedi ymrwymo i'r ARGLWYDD ddim dweud: ‘Mae'r ARGLWYDD yn fy nghadw i ar wahân i'w bobl.’ A ddylai'r eunuch ddim dweud, ‘Coeden sydd wedi gwywo ydw i.’” | |
Isai | WelBeibl | 56:4 | Achos dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud: “I'r eunuchiaid hynny sy'n cadw fy Sabothau – sy'n dewis gwneud beth dw i eisiau ac yn glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i – | |
Isai | WelBeibl | 56:5 | dw i'n mynd i godi cofeb yn fy nhŷ, y tu mewn i'w waliau: rhywbeth gwell na meibion a merched, a rhoi enw iddyn nhw fydd yn para am byth. | |
Isai | WelBeibl | 56:6 | Ac i'r bobl estron sydd wedi ymrwymo i wasanaethu'r ARGLWYDD, ei garu, a dod yn weision iddo – pawb sy'n cadw'r Saboth heb ei wneud yn aflan, ac sy'n glynu'n ffyddlon i'r ymrwymiad wnes i – | |
Isai | WelBeibl | 56:7 | Bydda i'n eu harwain at fy mynydd cysegredig i ddathlu'n llawen yn fy nhŷ gweddi. Bydd croeso iddyn nhw ddod ag offrymau i'w llosgi ac aberthau i'w cyflwyno ar fy allor i; achos bydd fy nhŷ i yn cael ei alw yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd.” | |
Isai | WelBeibl | 56:8 | Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud, yr un sy'n casglu ffoaduriaid Israel at ei gilydd: “Dw i'n mynd i gasglu mwy eto at y rhai sydd eisoes wedi'u casglu.” | |
Isai | WelBeibl | 56:10 | Mae'r gwylwyr i gyd yn ddall, ac yn deall dim. Maen nhw fel cŵn mud sy'n methu cyfarth – yn breuddwydio, yn gorweddian, ac wrth eu bodd yn pendwmpian. | |
Isai | WelBeibl | 56:11 | Ond maen nhw hefyd yn gŵn barus sydd byth yn gwybod pryd maen nhw wedi cael digon; bugeiliaid sy'n deall dim! Mae pob un wedi mynd ei ffordd ei hun, ac maen nhw i gyd yn ceisio elwa rywsut. | |