Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
ISAIAH
Prev Up Next
Chapter 25
Isai WelBeibl 25:1  ARGLWYDD, ti ydy fy Nuw i! Dw i'n dy ganmol di, dw i'n moli dy enw! Ti wedi gwneud peth rhyfeddol – rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl; ti'n gwbl ddibynadwy!
Isai WelBeibl 25:2  Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig, troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion! Gaiff y palas estron fyth ei ailadeiladu!
Isai WelBeibl 25:3  Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di, a threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di!
Isai WelBeibl 25:4  Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio, yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng, yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul. Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm,
Isai WelBeibl 25:5  neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir, rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid. Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres, ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi.
Isai WelBeibl 25:6  Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD hollbwerus yn paratoi gwledd o fwyd blasus i'r cenhedloedd i gyd: gwledd o winoedd aeddfed, bwyd blasus gyda'r gwin gorau.
Isai WelBeibl 25:7  Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio'r llen sy'n gorchuddio wynebau'r bobloedd, a'r gorchudd sy'n bwrw cysgod dros y cenhedloedd i gyd.
Isai WelBeibl 25:8  Bydd marwolaeth wedi'i lyncu am byth. Bydd fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn sychu'r dagrau oddi ar bob wyneb, a symud y cywilydd sydd wedi bod ar ei bobl o'r tir. —mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
Isai WelBeibl 25:9  Bryd hynny bydd y bobl yn dweud: “Dyma'n Duw ni, yr un roedden ni'n disgwyl iddo'n hachub. Dyma'r ARGLWYDD roedden ni'n ei drystio. Gadewch i ni ddathlu a mwynhau ei achubiaeth.”
Isai WelBeibl 25:10  Ydy, mae llaw yr ARGLWYDD yn gorffwys ar y mynydd hwn. Bydd Moab yn cael ei sathru ganddo fel gwellt yn cael ei sathru mewn tomen.
Isai WelBeibl 25:11  Bydd yn estyn ei ddwylo ar led yn ei chanol, fel nofiwr yn estyn ei ddwylo i nofio. Bydd yn gwneud i falchder Moab suddo hefo symudiad ei ddwylo.
Isai WelBeibl 25:12  Bydd y waliau diogel sy'n eu hamddiffyn yn cael eu bwrw i lawr ganddo; bydd yn eu chwalu i'r llawr – nes byddan nhw yn y llwch.