Site uses cookies to provide basic functionality.

OK
PROVERBS
Prev Up Next Toggle notes
Chapter 9
Prov WelBeibl 9:1  Mae Doethineb wedi adeiladu ei thŷ; ac mae wedi naddu saith colofn iddo.
Prov WelBeibl 9:2  Mae hi wedi paratoi gwledd, cymysgu'r gwin, a gosod y bwrdd.
Prov WelBeibl 9:3  Mae hi wedi anfon ei morynion allan i alw ar bobl drwy'r dre.
Prov WelBeibl 9:4  Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma, chi bobl wirion!
Prov WelBeibl 9:5  Dewch i fwyta gyda mi, ac yfed y gwin dw i wedi'i gymysgu.
Prov WelBeibl 9:6  Stopiwch fod mor ddwl, i chi gael byw; dechreuwch gerdded ffordd gall.”
Prov WelBeibl 9:7  Ceisia gywiro rhywun balch sy'n gwawdio a chei lond ceg! Cerydda rywun drwg a byddi'n cael dy gam-drin.
Prov WelBeibl 9:8  Cerydda'r un balch sy'n gwawdio, a bydd yn dy gasáu di; ond os gwnei di geryddu'r doeth bydd e'n diolch i ti.
Prov WelBeibl 9:9  Rho gyngor i'r doeth, a byddan nhw'n ddoethach; dysga'r rhai sy'n byw yn iawn a byddan nhw'n dysgu mwy.
Prov WelBeibl 9:10  Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth, ac mae nabod yr Un Sanctaidd yn rhoi deall.
Prov WelBeibl 9:11  Trwof fi byddi di'n cael byw yn hir; byddi'n cael blynyddoedd ychwanegol.
Prov WelBeibl 9:12  Os wyt ti'n ddoeth, mae hynny'n beth da i ti; ond os wyt ti'n falch, ti fydd yn wynebu'r canlyniadau.
Prov WelBeibl 9:13  Mae'r wraig arall, sef Ffolineb, yn gwneud lot o sŵn; mae hi'n wirion, ac yn deall dim byd.
Prov WelBeibl 9:14  Mae hi'n eistedd wrth ddrws ei thŷ, neu ar fainc mewn lle amlwg yn y dre.
Prov WelBeibl 9:15  Mae hi'n galw ar y rhai sy'n pasio heibio ac yn meindio'u busnes eu hunain.
Prov WelBeibl 9:16  Mae'n dweud wrth bobl sy'n brin o synnwyr cyffredin, “Dewch yma, chi bobl wirion!
Prov WelBeibl 9:17  Mae dŵr sydd wedi'i ddwyn yn felys, a bara sy'n cael ei fwyta ar y slei yn flasus!”
Prov WelBeibl 9:18  Ond dŷn nhw ddim yn sylweddoli mai byd yr ysbrydion sydd y ffordd yna, a bod y rhai dderbyniodd ei gwahoddiad yn gwledda yn y bedd!